Canllawiau

Gwneud hawliad hwyr drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Darganfyddwch a allwch wneud hawliad hwyr os ydych wedi methu’r dyddiad cau a sut i wneud hyn. Gallwch hefyd wirio arweiniad ar gyfer y cynllun.

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021. 14 Hydref 2021 oedd y dyddiad olaf i wneud cais ar gyfer mis Medi.

Ar gyfer cyfnodau hawlio o 1 Tachwedd 2020 ymlaen, gall CThEM dderbyn hawliadau hwyr neu ddiwygiadau os yw’r canlynol yn wir:

  1. Gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i geisio hawlio mewn pryd.

  2. Mae gennych esgus rhesymol.

  3. Gwnaethoch hawlio cyn gynted ag y daeth eich esgus rhesymol i ben.

Cyn gynted ag y byddwch yn barod i wneud hawliad neu ddiwygiad hwyr, mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Gwirio os oes gennych esgus rhesymol.

  2. Gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i brosesu’ch cais.

  3. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r llinell gymorth i wirio gydag ymgynghorydd os gallwch hawlio.

Os derbynnir eich esgus rhesymol, bydd yr ymgynghorydd yn prosesu’ch hawliad dros y ffôn.

Enghreifftiau o esgusodion rhesymol

Gallai esgus rhesymol gynnwys:

  • bu farw’ch partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
  • roedd yn rhaid i chi aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, ac roedd hynny wedi’ch atal rhag hawlio
  • roedd gennych salwch difrifol, neu un a oedd yn bygwth eich bywyd, gan gynnwys salwch cysylltiedig â choronafeirws (COVID-19), a wnaeth eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad (ac ni allai neb arall hawlio ar eich rhan)
  • gwnaeth cyfnod o hunanynysu eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad (ac ni allai neb arall hawlio ar eich rhan)
  • roedd eich cyfrifiadur neu’ch meddalwedd wedi methu’n union cyn paratoi’ch hawliad ar-lein, neu tra oeddech yn gwneud hynny
  • gwnaeth problemau gyda gwasanaethau ar-lein CThEM eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad
  • roedd tân, llifogydd neu ladrad wedi’ch atal rhag gwneud eich hawliad
  • roedd oedi drwy’r post na allech fod wedi’i ragweld wedi eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad
  • roedd oedi sy’n gysylltiedig ag anabledd wedi’ch atal rhag cyflwyno’ch hawliad
  • gwnaeth gwall ar ran CThEM eich atal rhag cyflwyno’ch hawliad

Os gwnaethoch wall yn eich hawliad ac na chawsoch ddigon o arian, mae’n dal i fod yn rhaid i chi dalu’r swm cywir i’ch cyflogeion.

Gwirio arweiniad ar gyfer y cynllun

Gallwch ddarllen arweiniad i wirio’r canlynol:

  1. Os oeddech yn gymwys i hawlio.

  2. Pa gyflogeion y gallech fod wedi’u rhoi ar ffyrlo.

  3. Camau i’w cymryd wrth gyfrifo hawliad.

  4. Sut i gyfrifo hawliad.

  5. Arweiniad ar gyfer gwneud hawliad(pan oedd y cynllun ar agor).

  6. Sut i roi gwybod am daliadau drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

Gallwch hefyd ddarllen fersiynau blaenorol o’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn yr Archifau Gwladol.

Cysylltu â CThEM

Gallwch gysylltu â CThEM os na allwch gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Dylech gysylltu â ni os ydych o’r farn nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:

  • gwall gan CThEM
  • oedi afresymol a achoswyd gan CThEM

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y gwnaethom ymdrin â’ch cwyn.

Cyhoeddwyd ar 29 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 August 2022 + show all updates
  1. Information and link to HMRC's digital assistant removed from the 'Contacting HMRC' section.

  2. Added translation