Canllawiau

Hawlio cyflog drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Hawlio rhywfaint o gyflog eich cyflogeion os ydych wedi eu rhoi ar ffyrlo neu ffyrlo hyblyg o ganlyniad i goronafeirws (COVID-19).

This guidance was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

You can:

Mae’n rhaid i hawliadau ar gyfer mis Medi fod wedi’u cyflwyno ar neu cyn 14 Hydref 2021. Mae’n rhaid i unrhyw ddiwygiadau ar gyfer mis Medi 2021 fod wedi’u gwneud ar neu cyn 28 Hydref 2021.

Er mwyn defnyddio’r cynllun, dyma’r camau y bydd angen i chi eu cymryd:

  1. Gwirio a allwch hawlio.

  2. Gwirio pa gyflogeion y gallwch eu rhoi ar ffyrlo.

  3. Camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad.

  4. Cyfrifo faint y gallech ei hawlio.

  5. Hawlio cyflog eich cyflogeion.

  6. Rhoi gwybod am daliad drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

Ni allwch hawlio ar eich rhan eich hun os ydych yn gyflogai. Yn lle hynny, dylech wirio a all eich cyflogwr ddefnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • hawlio cyflog eich cyflogeion
  • cadw a mynd yn eich blaen â hawliad (cyn pen 7 diwrnod i’w ddechrau)
  • dileu hawliad (cyn pen 72 awr i’w gyflwyno)

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn hawlio, bydd angen:

  • i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TWE ar-lein
  • rhif eich cyfrif banc yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw a’r cod didoli (dylech ond rhoi manylion cyfrif banc sy’n gallu derbyn taliad BACS)
  • y cyfeiriad bilio sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif banc (dyma’r cyfeiriad sydd ar eich cyfriflenni banc)
  • eich cyfeirnod ar gyfer cynllun TWE y cyflogwr
  • nifer y cyflogeion sy’n cael eu rhoi ar ffyrlo
  • rhif Yswiriant Gwladol pob cyflogai (bydd angen i chi chwilio am rif cyflogai gan ddefnyddio Offer TWE sylfaenol os nad yw’r rhif gennych, neu ddilyn y cyfarwyddiadau wrth hawlio os oes gan eich cyflogai rif dros dro neu os nad yw erioed wedi cael un)
  • rhif cyflogai neu gyflogres pob cyflogai (dewisol)
  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben yr hawliad
  • symiau llawn cyflog y cyflogeion rydych yn hawlio ar eu cyfer
  • eich rhif ffôn
  • enw cyswllt

Hefyd, bydd yn rhaid i chi roi (lle bo hynny’n berthnasol):

  • eich enw (neu enw’r cyflogwr os mai asiant ydych)
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Hunanasesiad
  • rhif cofrestru eich cwmni

Os ydych yn hawlio am gyflogeion sydd ar ffyrlo hyblyg, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • nifer yr oriau arferol y byddai’ch cyflogai’n gweithio yn ystod y cyfnod hawlio fel arfer
  • nifer yr oriau y mae’ch cyflogai wedi gweithio, neu y bydd yn gweithio, yn ystod y cyfnod hawlio
  • bydd angen i chi hefyd gadw cofnod o nifer yr oriau ffyrlo y mae’ch cyflogai wedi bod ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi’r data sydd eu hangen arnom er mwyn prosesu’ch hawliad. Gall taliad eich grant fod mewn perygl neu gellir ei oedi os byddwch yn cyflwyno hawliad sy’n anghyflawn neu’n anghywir.

Defnyddio asiant i weithredu TWE ar-lein

Os ydych yn defnyddio asiant sydd wedi’i awdurdodi i weithredu TWE Ar-lein i chi, bydd yn gallu hawlio ar eich rhan.

Os ydych yn defnyddio asiant, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cael ei Ddynodydd Defnyddiwr (ID) asiant (gall eich asiant gael hyn o’i gyfrif gwasanaethau ar-lein CThEM ar gyfer asiantau o dan ‘awdurdodi cleient’)
  • ymrestru ar gyfer TWE ar-lein i gyflogwyr
  • rhoi manylion eich cyfrif banc yn y DU iddo (dylech ond rhoi manylion cyfrif banc sy’n gallu derbyn taliad BACS)

Os hoffech ddefnyddio asiant, ond nad ydych wedi awdurdodi un i weithredu TWE ar-lein ar eich rhan, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio’ch gwasanaethau ar-lein CThEM a dewis ‘Rheoli’r Cyfrif’.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i dynnu awdurdodiad oddi ar eich asiant os nad ydych eisiau i’r awdurdodiad barhau ar ôl iddo gyflwyno’ch hawliad(au).

Os ydych yn rhoi 16 neu fwy o gyflogeion ar ffyrlo

Gallwch lawrlwytho templed os ydych yn hawlio ar gyfer 16 neu fwy o gyflogeion.

Mae’n rhaid i chi uwchlwytho’r templed mewn fformat .xlsx neu .csv pan fyddwch yn hawlio. Os ydych eisoes wedi cadw’r ffurflenni hawlio mewn fformat gwahanol (fel .xls neu .ods), rhaid i chi eu cadw eto fel ffeiliau .xlsx neu .csv. Ni dderbynnir y fformatau eraill mwyach.

Bydd defnyddio’r templedi hyn yn helpu i sicrhau bod eich hawliad yn cael ei brosesu’n gyflym ac yn llwyddiannus. Efallai y bydd eich templed yn cael ei wrthod os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth yn y fformat cywir.

Dychwelyd i’ch hawliad

Gallwch ddychwelyd i’ch hawliad o hyd er mwyn:

  • bwrw golwg dros hawliad blaenorol
  • dileu hawliad (cyn pen 72 awr i wneud yr hawliad)

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer TWE ar-lein.

Os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer hawlio

Ar gyfer cyfnodau hawlio o 1 Tachwedd 2020 ymlaen, gall CThEM dderbyn hawliadau hwyr neu ddiwygiadau o dan rai amgylchiadau.

Ar ôl i chi hawlio

Ar ôl i chi hawlio, cewch gyfeirnod hawlio. Wedyn, bydd CThEM yn gwirio bod eich hawliad yn gywir, ac yn talu swm yr hawliad i’ch cyfrif banc gan ddefnyddio BACS cyn pen 6 diwrnod gwaith.

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadw copi o’ch holl gofnodion am 6 blynedd, gan gynnwys:
    • y swm a hawliwyd a’r cyfnod hawlio ar gyfer pob cyflogai
    • y cyfeirnod hawlio ar gyfer eich cofnodion
    • eich cyfrifiadau, rhag ofn y bydd angen rhagor o wybodaeth ar CThEM ynglŷn â’ch hawliad
    • ar gyfer cyflogeion y gwnaethoch eu rhoi ar ffyrlo hyblyg, yr oriau arferol a weithiwyd gan gynnwys unrhyw gyfrifiadau oedd eu hangen
    • ar gyfer cyflogeion y gwnaethoch eu rhoi ar ffyrlo hyblyg, yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd
  • rhoi gwybod i’ch cyflogeion eich bod wedi hawlio, ac nad oes angen iddynt wneud dim byd arall
  • talu cyflog eich cyflogeion, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny

Mae’n rhaid i chi dalu’r swm llawn rydych yn ei hawlio am gyflog eich cyflogai i’ch cyflogai. Mae’n rhaid i chi hefyd dalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogai i CThEM, hyd yn oed os yw’ch cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr. Os na allwch wneud hynny, bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian i CThEM.

Mae’n rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr i CThEM ar y swm llawn yr ydych yn ei dalu i’r cyflogai. Os ydych wedi cyflwyno cais am gyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr, yna mae’n rhaid talu’r swm llawn rydych yn ei hawlio mewn perthynas â’r rhain neu bydd angen i chi ad-dalu’r arian i CThEM.

Ni all cyflogwyr ymrwymo i unrhyw drafodiad gyda’r gweithiwr sy’n gostwng y cyflog islaw’r swm sy’n cael ei hawlio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dâl gweinyddol, ffioedd neu gostau eraill sy’n gysylltiedig â’r gyflogaeth. Pan fo cyflogai wedi awdurdodi ei gyflogwr i wneud didyniadau o’i gyflog, gall y didyniadau hyn barhau tra bo’r cyflogai ar ffyrlo. Mae hyn ar yr amod nad yw’r didyniadau hyn yn daliadau gweinyddol, ffioedd na chostau eraill sy’n gysylltiedig â’r gyflogaeth.

Pan fydd y llywodraeth yn dod â’r cynllun i ben

Pan fydd y cynllun yn cau, bydd yn rhaid i chi benderfynu naill ai:

Pan fydd cyflogwyr yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut a phryd i ddod â threfniadau ffyrlo i ben, bydd deddfau cydraddoldeb a gwahaniaethu yn berthnasol yn y ffordd arferol.

Sut y caiff y grant ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ei drin o ran treth

Pwrpas y taliadau rydych wedi’u cael o dan y cynllun yw gwneud iawn am gostau refeniw didyniadwy eich cyflogeion. Mae’n rhaid i chi eu cynnwys fel incwm pan fyddwch yn cyfrifo’ch elw trethadwy at ddibenion Treth Incwm a Threth Gorfforaeth.

Gall busnesau ddidynnu costau cyflogaeth, fel arfer, wrth gyfrifo elw trethadwy at ddibenion Treth Incwm a Threth Gorfforaeth.

Nid yw unigolion â chyflogeion nad ydynt yn cael eu cyflogi fel rhan o fusnes (megis nanis neu staff domestig arall) yn agored i dreth ar y grantiau a geir o dan y cynllun. Mae staff domestig yn destun Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eu cyflogau fel arfer.

Sut i roi gwybod am daliadau grant drwy’r system Gwybodaeth Amser Real

Dysgwch sut i roi gwybod am daliadau grant y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyflwyniadau Gwybodaeth Amser Real.

Sut i ad-dalu’r grant

Dysgwch sut i ad-dalu’r grant i gyd, neu ran ohono, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi gorhawlio
  • nid oes angen y grant arnoch
  • rydych am wneud taliad gwirfoddol

Cysylltu â CThEM

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth yn sgil coronafeirws.

Gallwch hefyd gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Rydym yn cael nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd, felly peidiwch â chysylltu â ni yn ddiangen. Bydd hyn yn ein helpu i reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Dylech hefyd gysylltu â ni os ydych yn credu nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:

  • gwall gan CThEM
  • oedi afresymol a achoswyd gan CThEM

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym wedi ymdrin â’ch hawliad.

Help a chymorth arall

Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i fynd i’r afael ag effeithiau economaidd coronafeirws.

Gallwch ddarllen fersiynau blaenorol o’r arweiniad hwn yn yr Archifau Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd ar 20 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 October 2021 + show all updates
  1. Updated information because the Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September. Updated 'Return to your claim' and 'If you have missed the claim deadline' section. Removed 'If you have not claimed enough' section.

  2. Removed 'How to claim' section as last claim date has passed. Updated 'If you've missed the claim deadline' section. Added 'Return to service' and 'How to pay the grant back' section.

  3. Information updated because the Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

  4. Info updated in section 'When the government ends the scheme'.

  5. For claims relating to August and September 2021, the government will pay 60% of wages up to a maximum cap of £1,875 for the hours the employee is on furlough. Claims for furlough days in August 2021 must be made by 14 September 2021.

  6. Updated with Coronavirus Job Retention Scheme end date and information on when claims for September must be submitted. Bullet on 'National Insurance Number' in 'What you'll need' section updated.

  7. From 1 August 2021, the government will pay 60% of wages for furlough employees up to £1,875. From 1 July 2021, employers will top up employees’ wages to make sure they receive 80% of wages (up to £2,500).

  8. Information updated on what to do if you're putting 16 or more employees on furlough.

  9. Information about changes from 1 July 2021 has been added and claims for furlough days in June 2021 must be made by 14 July 2021.

  10. Further guidance added on what to do if you’ve missed the claim deadline.

  11. Section added called 'If you're putting lots of employees on furlough'. New link added to download a template for claiming for 16 to 99 employees.

  12. Claims for furlough days in May 2021 must be made by 14 June 2021.

  13. Claims for furlough days in April 2021 must be made by 14 May 2021.

  14. Claims for furlough days in March 2021 must be made by 14 April 2021.

  15. Guidance has been updated to explain that earliest you can make a claim for May 2021 is 19 April 2021.

  16. The scheme has been extended until 30 September 2021. From 1 July 2021, the level of grant will be reduced each month and employers will be asked to contribute towards the cost of furloughed employees’ wages. Dates added for claim deadlines and claim amendment deadlines for May to September 2021.

  17. Claims for furlough days in February 2021 must be made by 15 March 2021.

  18. Welsh translation added.

  19. Information that there is no right of appeal if you are ineligible for the Coronavirus Job Retention Scheme has been added.

  20. Added translation

  21. Added Welsh translation.

  22. Updated to reflect that the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended to 30 April 2021. Claim and amendment tables now include April 2021.

  23. Updated section on "If you have missed the claim deadline". Employers must contact HMRC to ask about submitting a late claim.

  24. The guidance has been updated to reflect that the 30 November claims deadline has now passed.

  25. The information has been updated to include more detail about what HMRC may deem to be a reasonable excuse for missing a claim deadline. The information has also been amended to make clear that if a claim deadline falls on the weekend or a bank holiday then claims should be submitted on the next working day.

  26. Information relating to claim period deadlines and timings has been clarified.

  27. The scheme has been extended. This guidance has been updated with details of how to claim for periods after 1 November 2020. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 31 October 2020.

  28. Added translation.

  29. Information call out updated to state that the scheme is being extended until 31 March 2021.

  30. Information call out has been updated to confirm that the guidance on this page reflects the rules for the period until 31 October 2020. This page will be updated to include the rules relating to the scheme extension shortly.

  31. The Coronavirus Job Retention Scheme is being extended until December 2020.

  32. Information call out has been updated - the scheme is now closed. 30 November 2020 is the last date you can submit claims.

  33. Added translation

  34. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme. 30 November 2020 is the last day employers can submit or change claims for periods ending on or before 30 October 2020. Section 'If you have not claimed enough' updated - employers must contact HMRC on or before 30 November to add to a claim.

  35. Moved the section called 'If you have not claimed enough' into this guidance from the page 'If you've claimed too much or not enough from the Coronavirus Job Retention Scheme', which has now been unpublished.

  36. If you're using a template to tell us about putting more than 100 employees on furlough, you now have to tell us if your employee has come back from statutory leave and you then put them on furlough.

  37. The information call out at the top of the page has been updated with the changes to the scheme from 1 September.

  38. 'What you'll need section' updated to tell employers using the template for 100 or more employees that it may be rejected if the information provided is not given in the right format.

  39. Page updated to say that employers should only contact HMRC to provide National Insurance Numbers if the employee has a temporary number or genuinely has never had one.

  40. Page updated with the removal of information about overclaims and underclaims, this has been moved to a new guide that explains what to do if you claim too much or not enough. Addition of a link to the new guide under the heading 'If you've claimed the wrong amount'.

  41. Information added about the process HMRC is developing to recover overclaimed grant amounts through the tax system.

  42. Page updated to tell employers they can use the online service to delete a claim within 72 hours of submitting it.

  43. The page has been updated with information about what to do if you have claimed too much and do not plan to make another claim.

  44. Added a link in the 'If you make an error when claiming' section to a new page called 'Pay Coronavirus Job Retention Scheme grants back' which tells you how to pay back the grant to HMRC if you've overclaimed through the scheme.

  45. A Welsh translation of this page has been added.'

  46. If you're claiming for an employee with a temporary National Insurance number, you should contact HMRC.

  47. Page updated to tell employers to use a new template when claiming for more than 100 employees.

  48. Page updated with information about how the scheme is changing.

  49. Information in box at the top of the page updated with how the scheme is changing.

  50. Page updated with information about how the Coronavirus Job Retention Scheme is changing.

  51. Page updated to explain that employers will be asked to give the amounts separately for the NICs, pension and wages they are claiming for. Information added that employee authorised salary deductions can be made from grant payments.

  52. Added in that records must be kept for at least 6 years. Clarification around where employers can search for employee's National Insurance Numbers. Added wording to the 'After you've claimed' section which was removed from the 'Work out 80% of your employees' wages to claim through the Coronavirus Job Retention Scheme'.

  53. The service has now been updated and you can save a claim and finish it later.

  54. Page updated with information on what to do if one or more of your employees does not have a National Insurance number.

  55. Page updated with information about how to claim for 100 or more furloughed employees and the type of bank account details you must use.

  56. 'Using an agent to do PAYE online' section has been updated.

  57. First published.