Ffurflen

Lawrlwytho templed os ydych yn hawlio ar gyfer 16 neu fwy o gyflogeion drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Llenwch dempled gyda manylion y cyflogeion rydych yn hawlio ar eu cyfer ac uwchlwythwch hwn wrth hawlio (ar gyfer hawliadau ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2020).

Dogfennau

Template (XLSX)

Manylion

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021.

Os ydych yn hawlio ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2020 ar gyfer 16 neu fwy o gyflogeion, bydd yn rhaid i chi uwchlwytho ffeil sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob cyflogai:

  • enw llawn
  • rhif Yswiriant Gwladol (neu gyfeirnod y gyflogres os nad oes gennych hwn)
  • cyfeirnod y gyflogres (a elwir weithiau’n rhif staff neu’n rhif adnabod cyflog)
  • dyddiad dechrau a gorffen ffyrlo (gan ddefnyddio’r fformat DD/MM/BBBB)
  • y swm llawn a hawlir (punnoedd a cheiniogau)
  • yr oriau arferol (gan ddefnyddio degolion, er enghraifft 7.5)
  • yr oriau gwirioneddol a weithir (gan ddefnyddio degolion)
  • yr oriau ffyrlo (gan ddefnyddio degolion)

Mae’n rhaid i chi uwchlwytho’r templed ar ffurf .xlsx neu .csv wrth hawlio. Os ydych eisoes wedi cadw’r ffurflenni hawlio mewn fformat gwahanol (megis .xls neu .ods), mae’n rhaid i chi eu cadw eto ar ffurf .xlsx neu .csv. Ni dderbynnir y fformatau eraill mwyach.

Efallai y bydd eich templed yn cael ei wrthod os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth yn y fformat cywir. Os caiff eich templed ei wrthod, byddwch yn gweld neges ar y sgrin ac ni fydd eich hawliad yn cael ei brosesu.

Bydd angen i chi sicrhau:

  • eich bod ond yn darparu’r wybodaeth am gyflogeion y gofynnir amdani yma – mae’n bosibl y gofynnir i chi eto neu efallai y bydd eich templed yn cael ei wrthod
  • eich bod yn cyflwyno un llinell ar gyfer pob cyflogai am y cyfnod cyfan
  • nad ydych yn rhannu’r cyfrifiad yn sawl cyfnod o fewn yr hawliad
  • nad ydych yn rhannu data yn ôl y math o gontract (er enghraifft, dylech hawlio ar y cyd ar gyfer y cyflogeion hynny sy’n cael eu talu’n wythnosol a’r rheiny sy’n cael eu talu’n fisol)
  • nad ydych yn darparu mwy neu lai o golofnau na’r angen
  • eich bod yn uwchlwytho’ch ffeil ar ffurf .xlsx neu .csv (neu gallwch gadw ffeiliau .xls neu .ods sy’n bodoli’n barod ar ffurf .xlsx neu .csv cyn eu huwchlwytho)
Cyhoeddwyd ar 19 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 October 2021 + show all updates
  1. Updated information because the Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

  2. Welsh translation has been added.

  3. These templates have been updated.

  4. The templates to use when claiming for 16 or more employees have been updated. The guidance for uploading these templates has been updated.

  5. The 'Check Your Data' tab for the Template XML and Template XMLS attachments have been updated.

  6. The XLS and XLSX templates used for submitting a claim for 100 or more employees have been updated.

  7. The templates used for submitting a claim for 100 or more employees have been updated. Employers must now include if an employee has returned from statutory leave before being put on furlough.

  8. Details section updated to tell employers using the template that it may be rejected if the information provided is not given in the right format.

  9. First published.