Canllawiau

Gwirio rhif Yswiriant Gwladol drwy ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 9 June 2021

Gallwch ddefnyddio’r canllaw hwn o 6 Ebrill 2021 ymlaen.

Rhagarweiniad

Dyma’r canllaw Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol (BPT) ar gyfer gwneud Cais i Ddilysu Rhif Yswiriant Gwladol (NVR). Gall cyflogwyr ei ddefnyddio os nad yw eu meddalwedd gyflogres fasnachol yn cynnig y cyfleuster hwn.

Bydd systemau CThEM yn gwirio rhifau Yswiriant Gwladol eich cyflogeion yn awtomatig ar eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) cyntaf, neu pan fyddwch yn rhoi gwybod am fanylion dechrau ar gyfer cyflogai newydd.

Os ydych am weld neu wirio rhif Yswiriant Gwladol cyflogai, gallwch wneud hynny drwy anfon NVR.

Ni allwch anfon NVR tan 2 wythnos ar ôl anfon eich FPS cyntaf.

Ni fydd yn creu rhif Yswiriant Gwladol newydd. Os nad yw’ch cyflogai erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol, gofynnwch iddo gysylltu â chanolfan gyswllt yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) drwy ffonio: 0800 141 2349.

Pwysig:

  • dylid ond cyflwyno’r NVR pan fyddwch wedi cyflogi gweithiwr newydd a bod angen i chi ddilysu neu gael gafael ar rif Yswiriant Gwladol y cyflogai hwnnw
  • gallwch ond cyflwyno NVR 2 wythnos ar ôl i chi gyflwyno’ch FPS cyntaf gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres

Dechrau arni

I ddefnyddio’r BPT i anfon NVR mae’n rhaid i chi fod wedi:

  • lawrlwytho a gosod y feddalwedd
  • creu cofnod ar gyfer y cyflogwr
  • creu cofnod ar gyfer y cyflogeion y byddwch yn anfon NVR ar eu cyfer

Darllenwch yr arweiniad ‘Defnyddwyr tro cyntaf: lawrlwytho a gosod BPT’ i gael gwybod sut i:

  • gosod y feddalwedd
  • creu cofnod ar gyfer y cyflogwr
  • creu cofnod ar gyfer y cyflogeion

Cam 1: dewis y cyflogwr cywir

Os ydych wedi ychwanegu mwy nag un cyflogwr at y BPT, bydd yn rhaid i chi ddewis y cyflogwr cywir.

O’r hafan, dewiswch y cyflogwr cywir o’r ochr chwith ar frig eich sgrin.

Yn yr enghraifft isod, mae ‘Andy Mann’ wedi’i ddewis.

Delwedd o’r sgrin gartref gyda ‘Andy Mann’ wedi’i ddewis.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’, fel y dangosir.

Delwedd o’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’.

Os ydych yn defnyddio BPT i ddilysu rhif Yswiriant Gwladol yn unig ond yn defnyddio meddalwedd arall i gynhyrchu’ch cyflogres, dewiswch, er enghraifft, y flwyddyn dreth bresennol 2021 i 2022 ac ewch i Gam 2: dewiswch y cyflogai cywir.

Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio BPT fel eich offer cyflogres ym mis Ebrill bob blwyddyn, bydd yn rhaid i chi actifadu’r flwyddyn dreth newydd yn ffurfiol. I wneud hyn, dilynwch y camau isod.

O’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’, dewiswch y flwyddyn dreth 2021 i 2022 o’r bar offer ar frig y sgrin, fel y gwelir isod:

Delwedd o’r sgrin i ddewis y flwyddyn dreth.

Bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos. Diben y sgrin yw’ch atgoffa i wirio eich bod wedi cwblhau’r holl dasgau diwedd y flwyddyn am y flwyddyn rydych yn ei gadael. Hyd yn oed os nad yw’r tasgau hyn wedi’u cwblhau, rydych yn gallu actifadu’r flwyddyn newydd, ond bydd angen i chi fynd yn ôl i’r flwyddyn rydych yn ei gadael i sicrhau ei bod wedi’i chwblhau.

Delwedd o’r sgrin atgoffa ar gyfer tasgau diwedd blwyddyn.

Pan fyddwch yn dewis ‘Nesaf’, bydd y sgrin ganlynol yn ymddangos, ond bydd y flwyddyn a ddangosir ar gyfer actifadu 2021 i 2022:

Delwedd o’r sgrin i actifadu’r flwyddyn dreth.

Dewiswch ‘Nesaf’ i symud ymlaen i’r flwyddyn dreth nesaf.

Byddwch yn dal i allu cael mynediad at y blynyddoedd blaenorol, ond mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol na fydd unrhyw ddiwygiadau a wnewch mewn blwyddyn flaenorol yn symud ymlaen i 2021 i 2022 unwaith y bydd y flwyddyn newydd wedi’i hactifadu. Rydych yn gyfrifol am ddiweddaru’r data hyn â llaw i’r flwyddyn newydd sydd wedi’i hactifadu.

Ar y cam hwn, bydd yr holl wybodaeth a gadwyd o dan 2020 i 2021 wedi ‘symud’ i’r flwyddyn newydd. Dim ond cyflogeion gweithredol fydd yn cael eu ‘symud’ i 2021 i 2022, felly os ydych wedi actifadu 2021 i 2022 ond wedi nodi cyflogai newydd ar gyfer 2020 i 2021, gan y bydd yr holl wybodaeth flaenorol wedi’i dwyn ymlaen, bydd sgrin newydd arall, ‘Symud cyflogeion’, yn ymddangos.

Bydd y sgrin hon yn dangos y cyflogai newydd. Pan gaiff ‘Nesaf’ ei ddewis ar waelod y sgrin, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chario ymlaen.

Nid oes disgwyl i’r sefyllfa hon godi’n aml.

Cam 2: dewis y cyflogai cywir

Gallwch ond creu un NVR ar y tro.

Dewiswch y cysylltiad ‘Rheoli cyflogeion’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.

Delwedd o’r sgrin a ddefnyddir i ddangos cysylltiad i reoli cyflogeion.

Mae’r sgrin nesaf yn rhoi rhestr o’r holl gyflogeion ar gyfer y cyflogwr.

Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr.

Delwedd o’r sgrin a ddefnyddir i ddewis y cyflogai perthnasol o restr.

Mae hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’.

Cam 3: creu’r NVR

O’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’, dewiswch y cysylltiad ‘NVR’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.

Delwedd o’r sgrin a ddefnyddir i ddewis y cysylltiad NVR.

Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.

Delwedd o’r sgrin NVR.

Dewiswch ‘Nesaf’ i fynd yn eich blaen.

Mae’r sgrin nesaf yn cadarnhau eich bod wedi creu NVR ar gyfer y cyflogai hwn. Cliciwch ‘Nesaf’ i orffen y broses.

Delwedd o’r sgrin cadarnhad NVR.

Yna, byddwch yn dychwelyd at y sgrin ‘Manylion y cyflogai’.

Cam 4: anfon yr NVR

Rydych nawr wedi creu’r NVR yn barod i’w anfon i CThEM.

Cofiwch: mae’n rhaid i chi aros 2 wythnos ar ôl anfon eich FPS cyntaf cyn anfon NVR.

Gallwch greu NVR ar gyfer cyflogai arall trwy ailadrodd camau 1 a 2. Pan fyddwch wedi gorffen creu’r NVR, dylech anfon y cyflwyniad(au) i CThEM.

Dewiswch ar enw’r cyflogwr ‘Navigate’, fel y dangosir.

Delwedd sy’n dangos enw’r cyflogwr yn yr adran ‘Llywio’ ar ochr chwith y sgrin.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’.

Dewiswch y cysylltiad ‘Bwrw golwg ar gyflwyniadau heb eu gwneud’.

Delwedd o’r sgrin ‘Bwrw golwg ar gyflwyniadau heb eu gwneud’.

Yma, gallwch weld bod un cyflwyniad heb ei wneud, sef yr NVR.

Dewiswch y cysylltiad ‘Anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno’ o’r ddewislen ar y chwith. Darllenwch yr wybodaeth ar y sgrin nesaf a chliciwch ‘Nesaf’.

Delwedd o’r sgrin ‘Anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno’.

Sgrin wybodaeth yw’r sgrin nesaf sydd i’w gweld. Darllenwch hi’n ofalus ac yna dewiswch ‘Nesaf’ er mwyn cael eich cyfeirio at Borth y Llywodraeth.

Delwedd o’r sgrin sy’n cynnwys gwybodaeth am gyflwyno data ar-lein i CThEM.

Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr ID a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth yn y meysydd isod ar gyfer cyflwyniad ar-lein ac yna dewiswch ‘Nesaf’.

Government Gateway User ID and password screen

Delwedd o’r sgrin a ddefnyddir i nodi Dynodydd Defnyddiwr ID a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Dylech wedyn gael statws cyflwyno ar y sgrin.

Status of your submission screen

Delwedd o’r sgrin a ddangosir i nodi statws eich cyflwyniad.

Yn olaf, cewch gadarnhad o’ch cyflwyniad ar y sgrin, a fydd yn dangos cyfeirnod unigryw.

Submission confirmation and unique reference number screen

Delwedd yn dangos cadarnhad cyflwyniad a sgrin cyfeirnod unigryw.