Canllawiau

Gwirio hawliad blaenorol drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Defnyddiwch y gwasanaeth er mwyn bwrw golwg dros neu ddileu hawliadau ffyrlo blaenorol. Gallwch hefyd ddarganfod sut i wirio arweiniad ar gyfer y cynllun.

Dychwelyd i’ch hawliad

Daeth y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws i ben ar 30 Medi 2021. 14 Hydref 2021 oedd y dyddiad olaf i wneud cais ar gyfer mis Medi.

Gallwch fynd yn ôl i’r gwasanaeth er mwyn bwrw golwg dros hawliad blaenorol.

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer TWE ar-lein.

Dychwelyd i’r hawliad

Argaeledd y gwasanaeth

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth (yn Saesneg).

Gwirio arweiniad ar gyfer y cynllun

Gallwch ddarllen arweiniad i wirio’r canlynol:

  1. Os oeddech yn gymwys i hawlio.

  2. Pa gyflogeion y gallech fod wedi’u rhoi ar ffyrlo

  3. Camau i’w cymryd wrth gyfrifo hawliad.

  4. Sut i gyfrifo hawliad

  5. Arweiniad ar gyfer gwneud hawliad (pan oedd y cynllun ar agor).

  6. Sut i roi gwybod am daliadau drwy’r system Gwybodaeth Amser Real TWE.

Gallwch hefyd ddarllen fersiynau blaenorol o’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws yn yr Archifau Gwladol.

Sut i ad-dalu’r grant

Dysgwch ragor am ad-dalu grantiau os ydych wedi:

  • gorhawlio
  • penderfynu gwneud taliad gwirfoddol

Os nad ydych wedi talu digon i’ch cyflogeion

Dysgwch sut i ychwanegu at gyflogau’ch cyflogeion os ydych wedi hawlio’r grant ond nad ydych wedi talu digon i’ch cyflogeion.

Cysylltu â CThEM

Gallwch gysylltu â CThEM os na allwch gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Nid oes hawl i apelio os nad ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws. Dylech gysylltu â ni os ydych o’r farn nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra oherwydd:

  • gwall gan CThEM
  • oedi afresymol a achoswyd gan CThEM

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y gwnaethom ymdrin â’ch cwyn.

Cyhoeddwyd ar 29 October 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 August 2022 + show all updates
  1. Information and link to HMRC's digital assistant removed from the 'Contacting HMRC' section.

  2. Added information on 'If you've underpaid employees.'

  3. Added translation