Gofyn i CThEM beidio â chyhoeddi manylion eich hawliadau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws
Dysgwch beth i’w wneud os ydych yn gyflogwr a gallai cyhoeddi manylion eich hawliad beri fod unigolion mewn perygl o drais neu fygythiadau.
Gallwch chi neu’ch asiant ofyn i CThEM beidio â chyhoeddi manylion eich hawliadau drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws os gallwch ddangos tystiolaeth y byddai gwneud hynny’n arwain at risg ddifrifol o drais neu fygythiadau i:
- chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi
- unigolyn sy’n gysylltiedig â’ch busnes neu unrhyw un sy’n byw gyda nhw
Mae enghreifftiau o unigolion sy’n gysylltiedig â’ch busnes yn cynnwys:
- cyflogai
- cyfarwyddwr, swyddog neu gyflogai i’r cwmni hwnnw
- partner, swyddog neu gyflogai i’r bartneriaeth honno
- aelod neu gyflogai partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
- setlwr, ymddiriedolwr neu fuddiolwr ymddiriedolaeth
Ni fyddwn yn cyhoeddi’ch manylion nes bydd penderfyniad wedi’i wneud a’ch bod wedi cael gwybod amdano.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
I gyflwyno cais, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth fel cyflogwr
- eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
- enw’ch busnes
- eich manylion cyswllt
Mae’n rhaid i chi ddarparu manylion ysgrifenedig sy’n nodi pam rydych yn credu y gallai cyhoeddi gwybodaeth arwain at risg o drais neu fygythiadau, ynghyd â thystiolaeth sy’n egluro pam rydych yn credu y byddai risg ddifrifol. Gall tystiolaeth gynnwys:
- rhif ymchwiliad yr heddlu os ydych eisoes wedi cael eich bygwth neu wedi bod yn destun ymosodiad
- lluniau o fygythiad neu ymosodiad blaenorol
- tystiolaeth o darfu neu dargedu posibl
- unrhyw ddeunydd arall a all ategu’ch cais
Cyflwyno cais
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw ddata newydd ynghylch hawliadau ar ôl 16 Rhagfyr 2021.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais
Cewch e-bost i gadarnhau ei fod wedi ein cyrraedd. Yna byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi gyda’n penderfyniad.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 December 2021 + show all updates
-
You can no longer use this service. HMRC will not publish any new claims data after 16 December 2021.
-
Added translation
-
Updated to show you or your agent can request your Coronavirus Job Retention Scheme claim details are not published.
-
Added translation
-
First published.