Canllawiau

Rhifyn mis Chwefror 2024 o Fwletin y Cyflogwr

Diweddarwyd 16 February 2024

Rhagarweiniad 

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:  

TWE 

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad 

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid  

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt  

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.  

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.  

TWE 

Cynlluniau gwobrwyo trethadwy 

Efallai y caiff cwmnïau trydydd parti eu defnyddio er mwyn rhoi gwobrau cymhelliant nad ydynt ar ffurf arian parod, megis buddiannau neu dalebau nad ydynt ar ffurf arian parod i gyflogeion ar ran eu cyflogwr. 

Mae treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar unrhyw wobrau o’r fath. Os ydych yn darparu gwobrau o’r fath, dylech ddefnyddio cynllun gwobrwyo trethadwy er mwyn gwneud taliad i CThEF sy’n cwmpasu’r rhwymedigaeth treth sy’n ddyledus ar wobrau a wnewch. 

Mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod am y wobr ar eu Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o’r gwerth sydd wedi’i grosio i fyny, a’r dreth a dalwyd ar werth y wobr, er mwyn iddynt allu gwneud hyn. Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid iddynt dalu treth bellach os yw cynllun gwobrwyo trethadwy’n cwmpasu eu gwobr, oni bai eu bod yn agored i dalu treth ar gyfradd uwch a bod y cynllun gwobrwyo trethadwy’n cwmpasu’r gyfradd sylfaenol yn unig. 

Mae’r Uned Gwobrau Cymhelliant yn delio â phob agwedd ar gynllun gwobrwyo trethadwy, gan gynnwys prisio gwobrau a’r math o drefniant contractiol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ynghylch sut i gysylltu â’r Uned Gwobrau Cymhelliant yma (yn Saesneg)

Ar gyfer gwobrau a roddir yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024, mae’n rhaid cytuno ar gynllun gwobrwyo trethadwy erbyn 6 Gorffennaf 2024. 

2024 Newid i gyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 

Yn Natganiad yr Hydref ar 22 Tachwedd 2023, cyhoeddodd y llywodraeth y bydd newidiadau Yswiriant Gwladol yn dechrau dod i rym o fis Ionawr 2024 ymlaen. Cafodd hyn ei gynnwys ym Mwletin y Cyflogwr mis Rhagfyr

Mae CThEF yn atgoffa cyflogwyr o’r prif newidiadau: 

  • toriad i brif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion Dosbarth 1 o 12% i 10% o 6 Ionawr 2024 ymlaen 

  • toriad i brif gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol hunangyflogedig Dosbarth 4 o 9% i 8% o 6 Ebrill 2024 ymlaen 

  • dileu rhwymedigaeth i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol hunangyflogedig Dosbarth 2 o 6 Ebrill 2024 ymlaen 

  • mae’r rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr sy’n cyflogi cyn-aelodau o luoedd arfog rheolaidd y DU wedi’i ymestyn i flwyddyn dreth 2024 i 2025 

Yn ogystal, gallwn hefyd gadarnhau bod cyfradd is y menywod priod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’i thorri 2 bwynt canrannol o 5.85% i 3.85% o 6 Ionawr 2024 ymlaen. 

Efallai y byddai’n ddefnyddiol ailadrodd bod y gyfradd gyfun o 11.5% yn berthnasol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer 2023 i 2024 ar gyfer cyfarwyddwyr. 

Yn flaenorol, gwnaethom ofyn i gyflogwyr gymryd camau i baratoi ar gyfer y newidiadau i’r gyflogres o 6 Ionawr 2024 ymlaen, gan weithio gyda’u darparwyr meddalwedd a’u partneriaid darparu TG fel y bo’n briodol. 

Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion cyflogwyr a’u darparwyr meddalwedd i fod yn barod ar gyfer 6 Ionawr 2024.  Mae llawer wedi gallu gweithredu’r newidiadau mewn pryd. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod yr amserlen yn dynn ac efallai na fydd rhai cyflogwyr wedi gweithredu’r newidiadau i systemau’r gyflogres mewn pryd. 

Os nad yw cyflogwyr wedi gallu gwneud newidiadau i ddod i rym o 6 Ionawr 2024 ymlaen, byddant wedi codi’r gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 anghywir i’w cyflogeion ac mae angen iddynt gywiro hyn. Mae manylion ar sut i ddatrys problemau gyda rhedeg y gyflogres (yn Saesneg) ar gael. 

Gallwch lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol CThEF (BPT), a gafodd ei ddiweddaru ar 6 Ionawr 2024. 

Mae’r cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u diweddaru (yn Saesneg) ar gael yma. 

Mae hefyd gennym offeryn ar-lein i gwsmeriaid amcangyfrif sut mae’r prif newid cyfradd cyflogeion Dosbarth 1 yn effeithio arnynt

Offer TWE Sylfaenol ― ar eu newydd wedd 

Bydd diweddariad i’r Offer TWE Sylfaenol (BPT) yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Mawrth ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru i fersiwn 24.0, a’i ddefnyddio o 6 Ebrill 2024 ymlaen. Er mwyn diweddaru neu chwilio am ddiweddariadau, dylech ddewis ‘gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau yng nghornel dde uchaf yr offeryn. Argymhellwn y dylech ddewis ‘Iawn’ i’r diweddariad awtomatig hefyd. 

Fel cwsmer newydd, cyn i chi allu defnyddio BPT i redeg eich cyflogres, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein yn unol â’r cyfarwyddyd yn eich llythyr i gyflogwr newydd. 

Mae rhagor o wybodaeth a help ar sut i lawrlwytho BPT ar gael yma

Lleihau’r risg y bydd eich cyflogai yn talu gormod o fenthyciadau myfyrwyr 

Os yw ad-daliad yn ddyledus gan eich cyflogai, bydd CThEF yn anfon hysbysiad dechrau benthyciad myfyriwr neu’r ddau hysbysiad dechrau benthyciad ôl-raddedig naill ai ar-lein neu drwy’r post. 

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio ac yn defnyddio’r canlynol yn gywir: 

  • y dyddiad dechrau a ddangosir ar yr hysbysiad 

  • y math o fenthyciad neu gynllun ar yr hysbysiad 

Mae hyn yn helpu’ch cyflogai i dalu’r swm cywir ar yr adeg gywir. 

Dylech barhau i wneud didyniadau hyd nes y bydd CThEF yn dweud wrthych am roi’r gorau i wneud hynny. 

Os yw enillion eich cyflogai uwchlaw’r trothwyon perthnasol ar gyfer benthyciadau myfyriwr a benthyciadau ôl-raddedig, ac nid ydych yn gwneud didyniadau, bydd CThEF yn anfon neges atoch drwy’r gwasanaeth hysbysu generig i’ch atgoffa. Os nad yw’r didyniadau wedi dechrau o hyd, efallai y byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. 

Os yw enillion eich cyflogai yn is na’r trothwyon perthnasol ar gyfer benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig, dylech wneud y canlynol: 

  • diweddaru cofnod cyflogres eich cyflogai i ddangos bod ganddo fenthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig 

  • cyflwyno’r hysbysiad dechrau 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch didyniadau benthyciadau myfyriwr a benthyciadau ôl-raddedig (yn Saesneg). 

Hysbysu ar ddiwedd y flwyddyn 

Mae’n amser paratoi i wneud eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) olaf neu’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) olaf ar gyfer y flwyddyn. 

Mae angen i’ch FPS neu’ch EPS olaf y flwyddyn, hyd at a chan gynnwys 5 Ebrill 2024, gynnwys dangosydd i nodi eich bod yn gwneud y cyflwyniad terfynol. Mae hyn yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi anfon popeth yr oeddech yn disgwyl ei anfon, ac y gallwn derfynu’n cofnodion ar eich cyfer chi a’ch cyflogeion. 

Ni fydd ambell feddalwedd fasnachol y gyflogres yn caniatáu i chi osod y dangosydd ar FPS. Os yw hynny’n wir, anfonwch eich FPS olaf ac yna anfonwch EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio. Gallwch hefyd anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio os gwnaethoch anghofio gosod y dangosydd ar eich cyflwyniad FPS olaf ar gyfer y flwyddyn dreth. 

Hefyd, mae’n rhaid i chi baratoi ar gyfer rhoi P60 i’ch cyflogeion os ydynt yn eich cyflogaeth ar 5 Ebrill 2024. Mae’n rhaid i’r wybodaeth hon gael ei darparu i’r cyflogwr erbyn 31 Mai 2024. 

Os nad ydych yn mynd i dalu unrhyw un eto yn ystod y flwyddyn dreth hon, cofiwch anfon EPS gyda’r dangosydd wedi’i dicio i ddangos na wnaethoch dalu unrhyw un yn ystod y cyfnod cyflog olaf ac i ddangos mai dyma’r cyflwyniad terfynol. Mae gennych hyd at 19 Ebrill 2024 i wneud hyn. Os nad ydych wedi cyflwyno cais erbyn 11 Ebrill 2024, byddwch yn cael nodyn atgoffa gan y Gwasanaeth Hysbysu Generig. 

Llyfryn talu’r cyflogwyr ddim ar gael mwyach 

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr bellach yn gwneud eu taliadau TWE ar-lein, ond mae nifer fach yn defnyddio llyfryn wedi’i brintio o hyd. Os ydych chi’n un o’r rhain, mae angen i chi wybod y bydd hyn yn newid. Ni fydd cyflogwyr bellach yn cael llyfryn talu er mwyn gwneud taliadau TWE mewn banc neu gymdeithas adeiladu, neu ei anfon gyda siec drwy’r post. Ni fyddant yn gallu gwneud cais am lyfr talu newydd chwaith. 

Os oes gennych, fel cyflogwr, lyfr talu cyfredol, gallwch barhau i’w ddefnyddio i wneud taliad mewn banc neu gymdeithas adeiladu neu ei gynnwys â siec drwy’r post hyd nes 5 Ebrill 2024. 

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, gallwch naill ai dalu ar-lein neu drwy anfon siec atom drwy’r post gan nodi’r cyfeirnod ar gefn y siec. 

Talu ar-lein yw’r ffordd hawsaf a chyflymaf i sicrhau bod eich taliad yn dod i law ac yn cael ei brosesu. 

Rydym yn ysgrifennu at y cyflogwyr hynny sydd wedi cael llyfrynnau talu gennym yn y gorffennol i roi gwybod iddynt am y newidiadau hyn. 

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ynghylch ffyrdd o dalu ar y dudalen Talu TWE y cyflogwr

Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024 

Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol    

O 6 Ebrill 2023 ymlaen, fe wnaeth CThEF roi’r gorau i dderbyn trefniadau anffurfiol newydd. Os ydych wedi sefydlu un o’r trefniadau anffurfiol hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru nawr i dalu’ch treuliau a’ch buddiannau ar gyfer 2024 i 2025 drwy’r gyflogres.  

Gall y cyflogwyr hynny nad ydynt eto wedi ymuno â chyflogres ar gyfer 2024 i 2025 gofrestru nawr i dalu’ch treuliau a’ch buddiannau drwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2024 ymlaen.    

Ni fydd angen i chi gyflwyno P11D mwyach ar gyfer pob cyflogai sy’n cael treuliau a buddiannau gennych drwy’r gyflogres. Mae talu drwy’ch cyflogres yn gyflymach ac yn haws. 

Mae’n bosibl y bydd gan y cyflogwyr hynny sy’n talu treuliau a buddiannau rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A o hyd ac felly bydd angen iddynt wneud y canlynol: 

  • anfon P11D(b) i roi gwybod i ni faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y Cyflogwr sydd arnoch 

  • cyflwyno P11D ar-lein i ddangos unrhyw dreuliau a buddiannau a daloch na wnaethoch dalu drwy’r gyflogres 

Yn lle rhoi ffurflen P11D i’ch cyflogeion, mae angen i chi roi llythyr iddynt yn egluro pa dreuliau a buddiannau yr ydych wedi’u talu drwy’r gyflogres. 

Mae rhagor o wybodaeth ar dalu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres a rhoi gwybod amdanynt ar gael. 

I’r cyflogwyr hynny nad ydynt eto’n talu drwy’r gyflogres, y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw gostau a buddiannau P11D a ddarperir ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024 ar-lein yw 6 Gorffennaf 2024. Gall cyflwyniad hwyr arwain at gosb. Mae CThEF yn codi cosbau’n fisol ac yn cyhoeddi hysbysiadau o gosb bob chwarter nes i chi gyflwyno’ch ffurflenni.    

Ni fydd CThEF yn derbyn ffurflenni P11D a P11D(b) papur mwyach. Mae hyn yn cynnwys rhestrau. Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:  

Mae gwasanaeth TWE ar-lein CThEF yn rhad ac am ddim a bydd yn caniatáu cyflwyniadau o hyd at 500 o gyflogeion. 

Os ydych yn gwneud camgymeriad ac angen cyflwyno diwygiad  

Nid yw CThEF bellach yn derbyn datganiadau papur. Os gwnewch gamgymeriad, cyfeiriwch at arweiniad ar roi gwybod am a thalu treuliau a buddiannau i gyflogwyr a defnyddiwch y ffurflenni cywiro ar-lein i gyflwyno’ch P11D a P11D(b) diwygiedig. 

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad 

Diwygiad y cyfnod sail 

Mae CThEF yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau yn sgil diwygio’r cyfnod sail o fis Ebrill 2024 ymlaen. Byddwn yn rhyddhau fideo YouTube yn gynnar yn 2024 i’ch helpu, os oes effaith arnoch, gan dynnu’ch sylw at ba gymorth pellach sydd ar gael. 

Byddwn hefyd yn anfon llythyrau at ein cwsmeriaid sydd heb gynrychiolaeth yn chwarter cyntaf 2024, gan roi gwybodaeth i chi am y newidiadau yn sgil diwygio’r cyfnod sail a’ch cyfeirio at y cymorth pellach sydd ar gael i chi. 

Does dim newidiadau wedi’u cynllunio ar hyn o bryd i’r SA800 ar gyfer partneriaethau o ganlyniad i ddiwygio’r cyfnod sail. Bydd partneriaethau yn parhau i lenwi’r SA800 yn yr un modd ag y byddant yn bresennol. 

Mae arweiniad pellach ar Dreth Incwm: diwygio’r cyfnod sail (yn Saesneg) ar gael. 

Newidiadau i Dreth Incwm yr Alban o 6 Ebrill 2024 ymlaen

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi newidiadau i Dreth Incwm yr Alban, a fydd yn digwydd o 6 Ebrill 2024 ymlaen, gan gynnwys cyflwyno band treth newydd, cyfradd Uwch. 

Am ragor o wybodaeth am y newidiadau hynny, cyfeiriwch at daflen wybodaeth Treth Incwm yr Alban 2024 i 2025 (yn Saesneg) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban. 

Mae CThEF wedi ymgysylltu â darparwyr meddalwedd gyflogres ar gyfer diweddaru cynhyrchion meddalwedd gyflogres ar gyfer 2024 i 2025 i sicrhau bod Treth Incwm yr Alban yn cael ei chyfrifo a’i didynnu’n gywir o ddechrau’r flwyddyn dreth newydd. 

Bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi cyn y flwyddyn dreth newydd. 

Taliadau Terfyn Cyflogaeth — y trywydd cywir i’w ddilyn er mwyn sicrhau cliriad lle gall fod ansicrwydd ynghylch trin treth yn gywir 

Mae CThEF yn alinio’i ddull o ran darparu sicrwydd ymlaen llaw i ymholiadau sy’n ymwneud â thaliadau terfyn cyflogaeth penodol.  

Mae arweiniad CThEF ’ wedi’i ymrwymo i roi ateb rhwymol os gwnaethoch ymholiadau ynghylch achosion terfyn cyflogaeth mewn perthynas â’r canlynol:

  • yr eithriad o ran iawndal ar gyfer anabledd neu anaf 

  • yr eithriad o ran gwasanaeth tramor 

  • sut mae’r trothwy £30,000 yn berthnasol i daliadau a wnaed gan y trydydd parti a’r cyflogwr 

  • darpariaethau nad ydynt ar ffurf arian parod 

Ni fydd CThEF bellach yn rhoi ateb rhwymol yn yr achosion hyn, y tu allan i’r broses Glirio Anstatudol arferol, er enghraifft, os oes gwir bwynt o ansicrwydd o ran y driniaeth gywir. 

Os oes gennych chi neu gan eich ymgynghorydd gwir bwynt o ansicrwydd o ran y ffordd caiff Treth ac Yswiriant Gwladol eu trin mewn perthynas â thaliad terfynu cyflogaeth, dylech ddefnyddio’r Gwasanaeth Clirio Anstatudol (yn Saesneg).  

Yn flaenorol, roedd arweiniad CThEF yn cynghori y byddai CThEF yn rhoi cymorth i gwsmeriaid os oedd angen esboniad arnynt o ran y ffordd y mae mathau o Ddatganiadau Ymarfer a Chonsesiynau All-statudol penodol yn gweithredu yng nghyd-destun achos o derfynu cyflogaeth. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • SP2/81: cyfraniadau a wnaed i gynllun pensiwn fel rhan o drefniadau terfynu cyflogaeth 

  • SP10/81: yr hyn a olygir wrth anabledd  

  • SP13/91: taliadau gwirfoddol ar ymddeoliad a wnaed cyn 6 Ebrill 2006 

  • SP1/94: gweithdrefnau clirio ar gyfer cynlluniau diswyddo gwirfoddol 

  • ESC A10: cyfandaliadau o gynlluniau pensiwn tramor 

  • ESC A81: treuliau cyfreithiol mewn setliadau terfynu swydd 

Dylid ymdrin â’r ymholiadau hyn yn yr un ffordd drwy’r Gwasanaeth Clirio Anstatudol (yn Saesneg)

Mae EIM12800 Taliadau a buddiannau terfyn cyflogaeth — cynnwys (yn Saesneg)  yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr er mwyn sefydlu’r ffordd o drin Treth ac Yswiriant Gwladol mewn perthynas â thaliad terfynu cyflogaeth. 

Gellir dod o hyd i safle presennol CThEF ynghylch trin ag ymholiadau a wnaed mewn perthynas â thaliad terfyn cyflogaeth yn EIM12820 — Taliadau a buddiannau terfyn cyflogaeth (yn Saesneg)

Symleiddio adrodd ar Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fuddiannau   

Ar 16 Ionawr 2024, cyhoeddodd y llywodraeth y bydd yn gorfodi cyflogwyr i adrodd a chasglu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A a Threth Incwm a Dosbarth 1A ar fuddiannau cyflogaeth trwy feddalwedd cyflogres o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Mae hyn yn golygu mai blwyddyn dreth 2025 i 2026 fydd y flwyddyn olaf y bydd cyflogwyr yn gallu cyflwyno P11Ds a P11D(b) gyda CThEF yn y rhan fwyaf o achosion. O’r dyddiad hwn, bydd treth ar fuddiannau cyflogaeth yn cael ei chasglu mewn amser real ac nid trwy godau treth mewn ôl-ddyledion. Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A hefyd yn cael eu casglu mewn amser real ar gyfer pob cyfnod cyflog yn hytrach nag ar ddiwedd y flwyddyn. 

Nid bwriad y mesur ei hun yw cynyddu trethi i unrhyw un. Trwy adeiladu rhyngwynebau digidol symlach, rydym am ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws i gyflogwyr roi gwybod am eu buddiannau. 

Bydd CThEF yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i drafod ein cynigion i lywio penderfyniadau dylunio a chyflawni, a chyhoeddir deddfwriaeth ddrafft yn ddiweddarach yn y flwyddyn fel rhan o’r broses deddfwriaeth dreth arferol. Bydd CThEF hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant i gynhyrchu arweiniad, a fydd ar gael cyn 6 Ebrill 2026. 

Mae’r cynlluniau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd a bydd CThEF yn croesawu barn rhanddeiliaid ar gynigion cyflawni cyn eu gweithredu. Gellir cyflwyno adborth cyffredinol ac awgrymiadau ynghylch y cynigion i’r blwch post policyemploymentbenefitsexpenses@hmrc.gov.uk. Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymateb i bob awgrym ond byddwn yn eu hystyried. 

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid 

Newidiadau sydd ar y gweill o ran Absenoldeb Tadolaeth a Thâl Tadolaeth 

Mae Llywodraeth EF yn newid y ffordd y mae Absenoldeb Tadolaeth a Thâl Tadolaeth yn cael eu hawlio a’u cymryd — a hynny er mwyn gwneud y broses yn fwy hyblyg i dadau a phartneriaid gael mynediad. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024 ar gyfer tadau a phartneriaid. Fodd bynnag, gall cyflogeion sy’n disgwyl genedigaeth plentyn ar, neu ar ôl, 6 Ebrill 2024 ddechrau rhoi gwybod i’w cyflogwyr am unrhyw ddyddiadau o absenoldeb y maent am eu cymryd o 8 Mawrth 2024 ymlaen. 

Bydd y newidiadau hyn yn galluogi tadau a phartneriaid i gymryd blociau o absenoldeb heb iddynt orfod bod yn olynol. Ar hyn o bryd, dim ond un bloc o absenoldeb sydd ar gael i’w gymryd, a hynny am gyfnod o un wythnos neu bythefnos. Bydd y newidiadau yn tynnu’r rhwystr hwn, ac yn galluogi tadau a phartneriaid i gymryd bythefnos o absenoldeb heb iddynt orfod bod yn olynol.  

Bydd y newidiadau hefyd yn galluogi tadau a phartneriaid i gymryd eu habsenoldeb a thâl ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl enedigaeth neu fabwysiadaeth y plentyn. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i dadau a phartneriaid cymryd Absenoldeb Tadolaeth ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.   

Bydd hyn yn byrhau’r cyfnod rhybudd y mae’n ofynnol i dadau a phartneriaid rhoi i’w cyflogwyr ar gyfer pob cyfnod o absenoldeb. O dan y mesur newydd hwn, bydd dim ond yn rhaid i gyflogeion roi 4 wythnos o rybudd cyn pob cyfnod o absenoldeb. Mae hyn yn golygu y bydd ganddynt yr opsiwn i gymryd absenoldeb ar fyr rybudd er mwyn ymateb i unrhyw anghenion teuluol a godwyd. 

Arweiniad ar gyfer cyflogwyr ynghylch sut i adennill taliadau statudol os bydd cyflogai yn cymryd Absenoldeb ar Dâl Tadolaeth Statudol yn gynnar cyn 6 Ebrill oherwydd enedigaeth gynnar neu gynamserol

Bydd tadau a phartneriaid yn gymwys i hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol o dan y rheolau newydd os yw dyddiad geni disgwyliedig y baban ar ôl 6 Ebrill 2024.  

Byddant hefyd yn gallu hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol o dan y rheolau newydd os taw 6 Ebrill 2024 oedd dyddiad geni disgwyliedig y baban, ond cafodd ei eni’n gynnar. Gall tadau a phartneriaid ddechrau cymryd Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol cyn gynted ag y bydd y baban wedi’i eni. Mae hyn yn golygu y bydd tadau a phartneriaid yn gallu cymryd pythefnos o absenoldeb heb iddynt orfod bod yn olynol cyn 6 Ebrill ar gyfer babanod sy’n ddisgwyliedig ar ôl 7 Ebrill. 

Cyfnod pontio cyn i’r feddalwedd TWE gael ei diwygio 

Bydd Offer TWE Sylfaenol (BPT) CThEF yn cael ei ddiweddaru gyda’r telerau Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol newydd erbyn 6 Ebrill 2024.  

Mae’n bosibl i dadau a phartneriaid ddewis cymryd Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol cyn y dyddiad hwnnw, a chyn i’r feddalwedd TWE gael ei diwygio, os daw’r baban yn gynnar. Mae hyn yn golygu y bydd angen i rai cyflogwyr hawlio ad-daliad ar gyfer Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) a dalwyd o dan y rheolau newydd, ond cyn i’r BPT gael ei diwygio. 

Beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr 

Dylai cyflogwyr gadw cofnod o’r cyflogeion sy’n disgwyl baban ar ôl 6 Ebrill 2024, ac sydd wedi rhoi hysbysiad rhybudd neu hysbysiad o fwriad i hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol. Os nad oes gennych unrhyw gyflogai sy’n bodloni’r amodau hyn erbyn y dyddiad hwnnw, ni fydd angen i chi ystyried dilyn yr arweiniad trosiannol.  

Arweiniad trosiannol ynghylch adennill Taliadau Tadolaeth Statudol cyn 6 Ebrill 2024 o dan y ‘rheolau newydd’ 

Os gwnaeth eich cyflogai gymryd un bloc o Dâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol cyn 6 Ebrill 2024, byddwch yn gallu hawlio ad-daliad o’r Tâl Tadolaeth Statudol ar gyfer un bloc o Dâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol a gymerwyd yn olynol. Gall un bloc o absenoldeb fod yn un wythnos neu’n bythefnos. Gall cyflogwyr adennill taliad naill ai yn ôl yr arfer, neu drwy ddefnyddio’u meddalwedd gyflogres.  

Os gwnaeth eich cyflogai gymryd dau floc o Dâl ac Absenoldeb Tadolaeth Statudol nad oeddynt yn olynol cyn 6 Ebrill 2024, byddwch dim ond yn gallu hawlio ad-daliad ar gyfer un o’r blociau hynny cyn 6 Ebrill 2024. Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio ad-daliad ar gyfer yr ail floc o Dâl Tadolaeth Statudol erbyn y dyddiad hwn, pan fydd y system TWE wedi’i ddiweddaru. 

Gall busnesau bach i ganolig hawlio taliad am gostau SPP ymlaen llaw. Os gwnaeth eich busnes dalu £45,000 neu lai mewn Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, a hynny heb gynnwys unrhyw ostyngiadau (megis Lwfans Cyflogaeth) yn ystod y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf, ac os na allent fforddio i wneud taliadau statudol, gallwch hawlio taliad ymlaen llaw gan CThEF Gallwch wneud cais hyd at 4 wythnos cyn i chi eisiau cael y taliad cyntaf.  

Mae arweiniad pellach ar gael ynghylch sut i adennill Taliadau Tadolaeth Statudol

Help i Gartrefi 

Mae help gyda chostau byw ar gael i filiynau o gartrefi. Fel cyflogwr, gofynnwn i chi rannu’r wybodaeth hon â’ch cyflogeion. 

Mae Help i Gartrefi (yn Saesneg) yn cynnig dros 40 o gynlluniau cymorth. Mae cymorth gyda chostau gofal plant, costau teithio a mwy ar gael. Hefyd, mae gwybodaeth ychwanegol ar sut i arbed arian ar filiau ynni (yn Saesneg)

Os yw’ch cyflogeion yn byw yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, mae’n bosibl y bydd cymorth gwahanol neu ychwanegol ar gael. 

Ewch i’n pecyn cymorth ymgyrch Help i Gartrefi (yn Saesneg) i gael awgrymiadau ar gyfer negeseuon, asedion cyfryngau cymdeithasol a logos i’ch helpu gyda rhannu’r wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn cylchlythyrau ac ar wefannau. 

Helpu’ch gweithwyr i osgoi arbed treth 

Os ydych yn gweithio gyda chontractwyr, byddem yn eich cynghori i ddweud wrthynt am ein hymgyrch ‘Arbed treth — peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn Saesneg).   

Mae gennym ddigon o gymorth ar gael i’ch gweithwyr i wneud y canlynol: 

  • adnabod beth yw arbed treth drwy sylwi ar yr arwyddion 

  • cael help i adael cynllun arbed treth 

  • rhoi gwybod am gynllun amheus 

Rydym hefyd wedi cyhoeddi manylion cynlluniau arbed treth a’u hyrwyddwyr sydd angen eu hosgoi (yn Saesneg). Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Efallai fod rhai eraill nad ydym yn gallu cyhoeddi ar hyn o bryd. Cofiwch, nid yw CThEF ar unrhyw adeg yn cymeradwyo defnydd cynlluniau arbed treth. 

Rydym yn eich annog i rannu adnoddau cefnogol ein hymgyrch i’n helpu i amddiffyn eich gweithwyr rhag arbed treth, gan gynnwys rhannu a hoffi ein swyddi ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol perthnasol fel Facebook, LinkedIn, and X (Twitter)

Cuddio gwerthiant electronig — mae CThEF yn cau’n dynn ar dwyll tiliau difrifol 

Cuddio gwerthiannau electronig (ESS) yw lle mae busnes yn camddefnyddio’i systemau til yn fwriadol i guddio neu ostwng gwerth neu swm gwirioneddol y gwerthiant. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio offer ESS, megis camddefnydd o swyddogaethau’r til ei hun neu osod meddalwedd sydd wedi’i dylunio’n benodol i guddio gwerthiannau. 

Mae camddefnyddio system til yn gostwng trosiant y busnes sy’n cael ei gofnodi a swm y dreth dylai’r busnes ei dalu, tra ar yr un pryd ei fod yn rhoi beth sy’n ymddangos fel cofnod cywir a chyflawn. Twyll treth yw hwn. Dylai perchnogion busnesau a chyflogwyr gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelu eu hunain rhag ymwneud ag ESS ac osgoi ymchwiliadau sifil neu droseddol. 

Mae CThEF yn defnyddio gwybodaeth drydydd parti gan gynnwys cyfrifon banc a data am drafodion o lwyfannau ar-lein a derbynwyr masnachol i wirio yn erbyn yr hyn sydd wedi’i gyflwyno gan y cwsmer. Rydym yn cynnig y cyfle i fusnesau, cyflogwyr a’u hasiantau i godi eu llaw o’u gwirfodd a datgelu eu gwerthiannau ESS nad ydynt wedi’u datgelu drwy ddefnyddio cyfleuster datgelu CThEF (yn Saesneg), a fydd yn lleihau unrhyw gosbau ariannol posibl. 

Ym mis Rhagfyr 2023, cynhaliodd CThEF ymweliadau dirybudd i fusnesau ledled y DU fel rhan o’n hymchwiliadau parhaol i dwyll tiliau (yn Saesneg). Mae hyn yn ychwanegu at ymchwiliad helaeth a chudd-weithrediad yn i ESS, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2022. 

Bydd CThEF yn parhau i gysylltu â chwsmeriaid, a’u targedu, trwy gydol 2024. Os na fydd cwsmeriaid yn codi llaw, efallai bydd CThEF yn anfon asesiad o’r hyn rydym o’r farn sy’n ddyledus gan y busnes, gan gynnwys llog a chosbau, neu’n agor ymchwiliad a allai arwain at euogfarn droseddol. Mae rhagor o wybodaeth am ESS ar gael (yn Saesneg)

Mae CThEF yn annog unrhyw un i adrodd gwybodaeth am ESS neu unrhyw ffurf arall ar dwyll treth i ni ar-lein

Canolfan seiberddiogelwch genedlaethol yn cynnig hyfforddiant sgam we-rwydo 

Yn ôl yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (yn Saesneg), gwe-rwydo oedd yr ymosodiad seiber mwyaf cyffredin a gafodd effaith ar fusnesau yn y DU yn ystod 2023.

Er mwyn delio â’r broblem gynyddol hyn, mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cynhyrchu pecyn e-ddysgu i hyfforddi cyflogeion, o’r enw  Staying Safe Online:  Top Tips for Staff (yn Saesneg)

Yn ôl yr NCSC, mae e-byst gwe-rwydo yn mynd yn anoddach i’w sylwi, felly mae’n bwysicach nag erioed bod cyflogeion yn ymwybodol o’r risgiau. Mae’r pecyn hyfforddi wedi ei gynllunio ar gyfer cynulleidfa sydd heb gefndir technegol ac sydd efallai yn gwybod ychydig bach, neu dim byd o gwbl, am seiberddiogelwch. Mae’r pecyn yn rhad ac am ddim ac yn cymryd llai na 30 munud i’w gwblhau. 

Mae’r hyfforddiant yn esbonio pam fod seiberddiogelwch yn bwysig ac mae’n delio â thri maes allweddol: 

  • diogelu eich hunain yn erbyn gwe-rwydo 

  • defnyddio cyfrineiriau cryf 

  • diogelu’ch dyfeisiau 

I gael rhagor o wybodaeth am seiberddiogelwch i unig fasnachwyr a pherchnogion busnesau bach, ewch i dudalen Sefydliadau Bach a Chanolig (yn Saesneg) a Chanllaw Busnesau Bach (yn Saesneg) yr NCSC

Er mwyn helpu CThEF brwydro yn erbyn seiberdroseddu, anfonwch negeseuon testun amheus sy’n honni eu bod yn dod oddi wrth CThEF i 60599, e-byst i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i CThEF am unrhyw alwadau ffôn ynghylch sgamiau treth (yn Saesneg).   

Os ydych am gael eich diweddaru o ran yr wybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau sydd gan yr NCSC ar gyfer busnesau bach a chanolig, gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr i sefydliadau bach yr NCSC (yn Saesneg)

Hawlio rhyddhad treth ar dreuliau cyflogai 

Mae’n bosibl y byddwch chi, a’ch cyflogeion, yn gallu hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith. Dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd i wneud hawliad ar-lein, ac mae’n sicrhau eich bod yn cael 100% o’r arian sydd gennych hawl iddo.  

Gall cwsmeriaid ddefnyddio’r offeryn ar-lein i wirio cymhwystra ac i weld rhestr lawn o dreuliau gwaith y mae modd eu hawlio, gan gynnwys: 

  • gwisgoedd unffurf a dillad ar gyfer y gwaith 

  • prynu offer sy’n gysylltiedig â’r gwaith 

  • ffioedd proffesiynol, aelodaeth o undeb, a thanysgrifiadau 

  • defnyddio’u cerbydau eu hunain i deithio ar ran y gwaith, gan eithrio’r daith o’r cartref i’r gwaith 

Dysgwch ragor am sut i hawlio treuliau sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Mae adnoddau cyfathrebu ar gyfer hawlio rhyddhad treth (yn Saesneg) hefyd ar gael i chi rannu â’ch cyflogeion. 

Confensiwn newydd ar nawdd cymdeithasol gyda Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy 

Gall y rhai sy’n symud rhwng y DU a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy, nawr manteisio ar Gonfensiwn newydd ar gydlynu nawdd cymdeithasol (yn Saesneg) a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2024. 

Mae’r confensiwn yn ategu gweithgarwch busnes a masnach drwy ddiogelu sefyllfa gweithwyr traws-ffiniol o ran nawdd cymdeithasol, gan sicrhau fod cyflogwyr a’u cyflogeion, ynghyd â’r sawl sy’n hunangyflogedig, dim ond yn agored i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol mewn un wlad ar y tro. Bydd hyn hefyd yn sicrhau mynediad at bensiwn y wladwriaeth y DU ar gyfradd uwch ac at drefniadau gofal iechyd dwyochrog. 

Dylai’r unigolion hynny sy’n mynd i weithio yng Ngwlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy, barhau i ddilyn yr arweiniad (yn Saesneg)

Diffoddwyr tân wedi’u cadw 

Mae diffoddwyr tân dwedi’u cadw yn gategori o ddiffoddwyr tân rhan amser nad oeddent yn cael ymuno â chynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân o’r blaen. 

Penderfynodd Tŷ’r Arglwyddi yn Matthews v Kent ac Awdurdod Tân Trefi Medway 2006 fod diffoddwyr tân wedi’u cadw wedi cael eu gwahaniaethu’n anghyfreithlon mewn perthynas â’r telerau ac amodau o gymharu â diffoddwyr tân rheolaidd a bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân wedi’u cadw cael triniaeth gyfartal o ran hawliau pensiwn. 

O ganlyniad, gall diffoddwyr tân wedi’u cadw trosi eu haelodaeth ac ymuno â Chynlluniau Awdurdodau Tân o 6 Ebrill 2000 i 5 Ebrill 2016. Bydd cofnod Yswiriant Gwladol yr unigolion yn cael ei ddiwygio i ddangos eu bod wedi’u contractio allan yn y Cynllun Awdurdodau Tân perthnasol a bydd addasiadau priodol yn cael eu talu i’r cyflogwr a’r cwsmer. 

Mae CThEF eisoes wedi cysylltu â phob Awdurdod Tân yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gofyn am wybodaeth mewn perthynas ag ad-daliadau Yswiriant Gwladol ar gyfer mynediad ôl-weithredol i’r cynllun pensiwn. 

Gwybodaeth sy’n ofynnol gan CThEF 

Mae angen i gynlluniau awdurdod diffoddwyr tân wneud cais i gofrestru a chael Tystysgrif Etholiad wedi’i ddilysu i ganiatáu i’r aelodaeth ymuno â’u cynllun. Heb y cofrestriad a’r tystysgrifau cywir, ni fydd cofnodion cwsmeriaid yn cael eu newid gan CThEF. 

Mae angen i Awdurdodau Tân ddarparu dyddiad dechrau a dod i ben pob cyfnod aelodaeth ôl-weithredol i gwsmeriaid. Heb yr wybodaeth gywir, ni fydd cofnodion cwsmeriaid yn cael eu newid gan CThEF. 

Mae angen i Awdurdodau Tân hefyd ddarparu manylion cyfrif banc y cyflogwr ac nid eu haelodau. Bydd CThEF yn ysgrifennu at aelodau’n uniongyrchol yn gofyn am fanylion eu cyfrif banc wrth brosesu eu had-daliad. Heb fanylion banc y cyflogwr, ni fydd cofnodion cwsmeriaid yn cael eu diwygio gan CThEF. 

Ni fydd CThEF yn gweithredu achosion os nad yw’r holl wybodaeth yn cael ei darparu. 

Mae’r mater hwn wedi bod yn broses hir ac mae dyddiad dod i ben wedi’i bennu ar 5 Ebrill 2024. 

Mae holl gynlluniau’r Awdurdod Tân wedi cael gwybodaeth wedi’i theilwra iddynt ac mae’n rhaid iddynt ymateb yn unol â hynny. Mae’n rhaid rhoi gwybodaeth gyflawn erbyn 5 Ebrill 2024, ni fydd unrhyw wybodaeth a roddir ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei symud ymlaen na’i herlid. 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at wmbc.policeandfiresectorpbg@hmrc.gov.uk gyda’r llinell pwnc ‘Retained Firefighter — Urgent’. 

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr 

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â: 

  • nam ar eu golwg 

  • anawsterau echddygol 

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu 

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw 

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt. 

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe): 

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur: 
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol 
  • i gadw’r ddogfen fel PDF: 
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig 
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF 

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn Saesneg)

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at mary.croghan@hmrc.gov.uk