Bwletin y Cyflogwr: Rhagfyr 2023
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, Dull Cydymffurfio Daearyddol — cymorth i gyflogwyr
- talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025
- rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) — cyfle i oedi setliad
- helpu i wirio a yw gwaith yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu
- gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’ch dyletswyddau pensiwn gweithle
- Dewisiadau Gofal Plant — helpu teuluoedd i jyglo gwaith a bywyd
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.