Canllawiau

Rhifyn mis Rhagfyr 2023 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 6 December 2023

Rhagarweiniad   

Ar 22 Tachwedd 2023, gwnaeth Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS, ei gyhoeddiadau ar gyfer Datganiad yr Hydref.  

Y prif fesur treth sy’n berthnasol i gyflogwyr oedd:  

cyfraddau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) (yn Saesneg)  

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi toriad i brif gyfradd CYG cyflogeion Dosbarth 1 o 12% i 10% o 6 Ionawr 2024 ymlaen a thoriad i brif gyfradd CYG hunangyflogedig Dosbarth 4 o 9% i 8% o 6 Ebrill 2024.  Mae hefyd wedi cyhoeddi na fydd yn ofynnol i unrhyw un dalu CYG hunangyflogedig Dosbarth 2 o 6 Ebrill 2024 ymlaen. Dyma’r manylion am y newid hwn: 

  • o 6 Ebrill 2024 ymlaen, ni fydd yn ofynnol mwyach i bobl hunangyflogedig sydd ag elw uwchlaw £12,570 dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ond byddant yn parhau i gael mynediad at fudd-daliadau cyfraniadol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth  
  • bydd y rhai sydd ag elw rhwng £6,725 a £12,570 yn parhau i gael mynediad at fudd-daliadau cyfraniadol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth trwy gredyd Yswiriant Gwladol heb dalu CYG fel y maent ar hyn o bryd    
  • bydd y rhai sydd ag elw o dan £6,725 ac eraill sy’n talu CYG Dosbarth 2 yn wirfoddol i gael mynediad at fudd-daliadau cyfraniadol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, yn parhau i allu gwneud hynny 

Bydd y llywodraeth yn nodi’r camau nesaf ar ddiwygiad Dosbarth 2 y flwyddyn nesaf. 

Gofynnwn i chi gymryd camau nawr i ddechrau gweithio gyda’ch darparwr meddalwedd cyflogres, a lle bo’n berthnasol, partneriaid cyflenwi TG, i baratoi i weithredu’r newid i CYG cyflogeion Dosbarth 1 sy’n dod i rym o 6 Ionawr 2024 ymlaen. Bydd cynnyrch Offer TWE Sylfaenol CThEF yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid hwn.  

Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr holl fesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref 2023 (yn Saesneg). I gael trosolwg o’r holl ddeddfwriaeth a chyfraddau treth a gyhoeddwyd, darllenwch Ddatganiad yr Hydref 2023: Trosolwg o ddeddfwriaeth a chyfraddau treth (OOTLAR) (yn Saesneg).

Hefyd, yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE   

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad 

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid  

TWE 

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, Dull Cydymffurfio Daearyddol — cymorth i gyflogwyr 

Fel rhan o’n dull cydymffurfio rydym yn cysylltu â chyflogwyr, yn seiliedig ar leoliad daearyddol yn hytrach na’r math o fusnes. Mae hyn yn ein galluogi i roi cymorth ar draws ystod eang o fusnesau mewn maes penodol. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu gwybodaeth am gymhlethdodau deddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) a chefnogi cyflogwyr i wneud pethau’n iawn, gan leihau’r risg o ddiffyg cydymffurfio. Rydym wedi ymweld â 10 lleoliad hyd yma gyda llawer mwy wedi’u cynllunio.   

Sut olwg sydd ar y cymorth hwn  

Rydym yn darparu addysg ac arweiniad i gyflogwyr ar faterion cyffredin NMW, gan eu hannog i adolygu eu trefniadau cyflog i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith. Bydd rhai cyflogwyr hefyd yn cael cynnig galwad rhad ac am ddim gydag un o’n harbenigwyr NMW i siarad am unrhyw arferion busnes a all arwain at dandaliadau NMW. Os nodir unrhyw faterion posibl, byddwn yn rhoi cyfle iddynt eu cywiro heb unrhyw sancsiynau yn cael eu cymhwyso, er enghraifft dim cosbau nac enwi’n gyhoeddus. 

Yr hyn i’w wneud os byddwch yn cael llythyr 

Os byddwch chi, neu’ch asiant (os mai ef yw’ch cyfeiriad busnes cofrestredig) yn cael llythyr gennym, gweithredwch i adolygu eich gweithlu i wirio bod pob un ohonynt yn cael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog. Rydym yn cydnabod bod camgymeriadau’n hawdd i’w gwneud ac efallai na fyddwch bob amser yn ymwybodol os yw rhywbeth wedi mynd o’i le. Er bod talu’r gyfradd cyflog gywir yn bwysig, nid yw bob amser mor syml â hynny ac mae llawer o ffyrdd y gellir tandalu gweithwyr sy’n cael eu talu ar neu hyd yn oed yn uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae enghreifftiau’n cynnwys: 

  • didyniadau o gyflog am eitemau sy’n gysylltiedig â’r swydd 

  • amser gwaith di-dâl gan gynnwys teithio a hyfforddiant   

Os byddwch yn cael llythyr yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn galwad cymorth rhad ac am ddim gydag un o’n harbenigwyr, rydym yn eich annog yn gryf i fanteisio ar y cynnig. Mae adborth gan y tua 2,500 o fusnesau sydd wedi cymryd rhan mewn galwad hyd yma wedi bod yn hynod gadarnhaol.  

Mae busnesau yn yr ardal a ddewiswyd sy’n dewis peidio â chymryd camau, neu gymryd rhan yn yr alwad pan gaiff ei chynnig, yn wynebu’r risg y bydd tîm NMW CThEF yn cynnal adolygiad swyddogol llawn o’u busnes. Byddai’r sancsiynau arferol yn berthnasol pe bai unrhyw achos o dandalu gweithwyr yn cael ei nodi.  

Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifo’r isafswm cyflog, a’i orfodi (yn Saesneg) ar gael.  

Mae gan dîm yr NMW hefyd gyfres weminarau wedi’u recordio ar gael ar sut i osgoi camgymeriadau cyffredin, cadw cofnodion a’r hyn i’w ddisgwyl o wiriad gan CThEF (yn Saesneg)

Gwariant Perthnasol ar Foduro — effaith penderfyniad diweddar yr Uwch Dribiwnlys ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol 

Pan fydd cyflogeion yn defnyddio eu car eu hunain ar gyfer gwaith, gall rhyddhad rhag treth incwm a diystyru cyfatebol rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 fod yn ddyledus yn seiliedig ar nifer y milltiroedd busnes sy’n cael eu gyrru. Ar gyfer Yswiriant Gwladol, mae’n rhaid ystyried taliadau a wneir mewn perthynas â defnydd o’r cerbyd yn Wariant Perthnasol ar Foduro er mwyn i ddiystyru fod ar gael. Mae’r gyfradd a ddefnyddir ar gyfer y diystyru yn seiliedig ar gyfradd uchaf berthnasol y Taliad Lwfans Milltiroedd Cymeradwy ar gyfer treth (yn Saesneg). Nid yw’r diystyru ar gael ar symiau sydd ar ben symiau o Wariant Perthnasol ar Foduro. 

Mae colled ddiweddar CThEF yn yr Uwch Dribiwnlys yn achos Wilmott Dixon a Laing O’Rourke wedi pennu bod y mathau o daliadau a all ddod o fewn y diffiniad o Wariant Perthnasol ar Foduro yn ehangach na chymhwysiad blaenorol CThEF. Dyfarnodd y tribiwnlys fod y taliadau yn ymwneud â defnydd posibl a ragwelir o’r cerbyd, yn ogystal â defnydd gwirioneddol ohono. Bydd hyn yn effeithio ar y rhai sy’n cael taliadau o lwfans car ar swm penodedig lle mae’r taliadau hynny’n cael eu gwneud ymlaen llaw am ddefnydd posibl o gerbyd cymwys. Lle mae taliadau o lwfans car wedi’u gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, am ddefnydd o gerbyd cymwys, mae’n bosibl y byddant bellach yn elwa o swm diystyru uwch oherwydd gallai’r symiau a ystyrir yn Wariant Perthnasol ar Foduro fod yn uwch. Mae arweiniad pellach ar gerbydau cymwys ar gael (yn Saesneg)

Lle mae taliadau o lwfans car wedi’u gwneud a bod cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u talu ar y symiau hyn am gyfnodau blaenorol nad ydynt bellach yn ddyledus, gellir hawlio ad-daliad o gyfraniadau sydd wedi’u gordalu. Er mwyn i hawliad fod yn llwyddiannus, mae’r holl reolau presennol yn dal i fod yn berthnasol. Mae diystyru yn seiliedig ar nifer y milltiroedd busnes mesuradwy sydd wedi’u gyrru y gellir darparu tystiolaeth ohonynt. Ni fydd hawliadau yn llwyddiannus os na ellir darparu tystiolaeth. Nid oes unrhyw ddiystyru ar gael ar daliadau a wneir, sydd o fewn y diffiniad o Wariant Perthnasol ar Foduro, os yw cyflog yn cael ei aberthu o gyflog unigolyn. 

Mae arweiniad CThEF yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r canlyniad hwn a bydd gohebu pellach er mwyn tynnu’ch sylw at y newidiadau hyn pan fyddant wedi’u gwneud. 

Sut i hawlio ad-daliad — cyflogwyr 

Bydd busnesau sydd â phatrwm ffeithiau tebyg i achosion yr Uwch Dribiwnlys yn gallu cywiro unrhyw ordaliad. Pan ddefnyddir Gwybodaeth Amser Real (RTI) i gywiro hyn, bydd angen cadarnhau’r hawliadau hyn fesul cyfnod cyflog gyda’r dystiolaeth ganlynol: 

  • rhestr o’r cyflogeion, gyda’u rhifau Yswiriant Gwladol wedi’u cynnwys yn yr hawliad 

  • tystiolaeth o nifer y milltiroedd busnes a gyflawnir gan bob cyflogai 

  • swm y taliadau Lwfans Car a ddaeth i law’r cyflogeion hyn 

  • manylion unrhyw daliadau Gwariant Perthnasol ar Foduro eraill sydd wedi dod i law’r cyflogeion (er enghraifft, os ydynt wedi cael taliadau milltiroedd ar lai na chyfradd gymeradwy CThEF) 

  • y prif Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a’r CYG Dosbarth 1 eilaidd sy’n cael eu hadennill 

Mae ffurflenni RTI yn destun ymholiadau posibl felly mae’n rhaid i fusnesau sicrhau bod y dystiolaeth berthnasol yn cael ei chadw. 

Ar gyfer cyflogwyr ymhlith Busnesau Mawr CThEF, dylech wneud hawliadau drwy’ch Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid. 

Lle nad yw cyflogwyr yn gallu newid eu ffurflenni RTI, gallant gyflwyno hawliadau ysgrifenedig. Os gwneir hawliad ysgrifenedig, yn ychwanegol at yr holl dystiolaeth uchod, mae’n rhaid rhoi’r wybodaeth ganlynol: 

  • mae’n rhaid defnyddio’r cyfeirnod “Gwariant Perthnasol ar Foduro / Relevant Motoring Expenditure” 

  • y rheswm pam na ellir gwneud y diwygiad drwy RTI 

Mae rhagor o arweiniad ar gael i gyflogwyr ar ddatrys problemau gyda rhedeg y gyflogres

Sut i hawlio ad-daliad — cyflogeion 

Pan fydd cyflogeion yn credu eu bod yn ddyledus i ad-daliad, mae’n rhaid iddynt gysylltu â’u cyflogwr yn gyntaf. Os yw cyflogwr wedi hawlio ad-daliad, dylai ad-dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’u gordalu sy’n ddyledus i’w cyflogeion. Os nad yw’r cyflogwr wedi gwneud cais am ad-daliad, bydd yn rhaid i gyflogeion roi’r canlynol fesul cyfnod cyflog: 

  • tystiolaeth o nifer y milltiroedd busnes 

  • faint o daliadau Lwfans Car a gawsant 

  • manylion unrhyw daliadau Gwariant Perthnasol ar Foduro eraill a gawsoch (er enghraifft, os ydych wedi cael taliadau milltiroedd ar lai na chyfradd gymeradwy CThEF) 

  • y prif Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1 sy’n cael eu hadennill 

  • y rheswm pam nad yw eu cyflogwr yn gwneud cais am yr ad-daliad hwn ar ei ran 

Bydd proses arferol CThEF ar gyfer hawlio ad-daliadau Yswiriant Gwladol yn berthnasol. Mae rhagor o arweiniad ar hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol ar gael

Talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 

Gallwch gofrestru nawr er mwyn talu’ch buddiannau drwy’r gyflogres o 6 Ebrill 2024 ymlaen.  

 Mae defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn golygu na fydd yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF yn ystod y proses cofrestru pa fuddiannau yr ydych am dalu drwy’r gyflogres. 

Bydd y codau treth ar gyfer bob cyflogai sy’n cael y buddiannau hyn yn cael eu diwygio, oni bai eich bod yn eithrio unrhyw cyflogeion nad ydych am dalu buddiannau drwy’r gyflogres ar eu cyfer yn y gwasanaeth ar-lein.  

Gallwch ddysgu rhagor am dalu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres a rhoi gwybod amdanynt

Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol  

Os oedd gennych drefniant anffurfiol ar waith, mae’n rhaid i chi gofrestru nawr i dalu’ch buddiannau drwy’r gyflogres.  

Ni fydd CThEF yn derbyn trefniadau anffurfiol newydd mwyach, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. 

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad 

Arweiniad ynghylch cwmnïau ambarél ar gyfer busnesau cyflogaeth a gweithwyr 

Trwy weithio gyda Thrysorlys EF a’r Adran Busnes a Masnach, rydym wedi cyhoeddi arweiniad newydd ar gyfer busnesau cyflogaeth sy’n defnyddio cwmnïau ambarél i gyflogi gweithwyr (yn Saesneg).

Bydd yr arweiniad hwn yn helpu busnesau cyflogaeth i ddeall eu cyfrifoldebau cyfreithiol, yn ogystal â’u helpu i ddiogelu eu busnes rhag unigolion drwg yn eu cadwyni cyflenwi, a rhoi cymorth i weithwyr cwmnïau ambarél. Gallai darllen yr arweiniad helpu busnesau cyflogaeth i leihau eu risg o ddiffyg cydymffurfio.   

Mae CThEF hefyd wedi cyhoeddi diweddariadau i’r arweiniad ar gyfer gweithwyr cwmnïau ambarél (yn Saesneg). Mae’r arweiniad nawr yn cynnwys cyngor i weithwyr ynghylch sut y gallent ddiogelu eu hunain rhag gweithgareddau gan gwmnïau ambarél twyllodrus.  

Mae’r arweiniadau hyn wedi’u diweddaru yn dilyn ymgynghoriad diweddar gan y llywodraeth ynghylch y camau posibl i gymryd er mwyn dod â chwmnïau ambarél o dan reoliadau’r llywodraeth, a’r opsiynau o ran mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio treth yn y sector. Mae’r llywodraeth yn ystyried yr ymatebion sydd wedi dod i law wrth iddi fynd ati i roi cymorth pellach i weithwyr a busnesau sydd yn y farchnad cwmnïau ambarél. Bydd y llywodraeth yn cyhoeddi ymateb maes o law.   

Rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) — cyfle i oedi setliad

Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref ar 22 Tachwedd 2023, mae’r llywodraeth yn cyflwyno newid mewn polisi a allai effeithio ar sefydliadau sydd â gwiriad cydymffurfio agored fel rhan o’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) diwygiedig.   

Beth yw’r newid?

Ar hyn o bryd, pan fydd CThEF yn canfod bod cleient wedi gwneud camgymeriad wrth gymhwyso’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres, rydym yn asesu faint y mae’r cyflogwr tybiedig yn ddyledus mewn Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. 

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd CThEF yn gallu ystyried, neu ‘osod yn erbyn’, y trethi y mae’r gweithiwr neu eu cyfryngwr eisoes wedi’u talu yn erbyn y swm sy’n ddyledus gan y cyflogwr tybiedig.  

Mae’r polisi yn berthnasol i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydym yn eu hasesu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, o gamgymeriadau gweithio oddi ar y gyflogres mewn taliadau ers 6 Ebrill 2017.   

Beth allai hyn ei olygu i chi 

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau’n gallu oedi cyn setlo eu gwiriad cydymffurfio gweithio oddi ar y gyflogres agored tan ar ôl 6 Ebrill 2024.    

Gallwn ond ystyried saib os yw’r canlynol yn wir:  

  • mae’r gwiriad cydymffurfio wedi cyrraedd setliad, a:  
    • mae’r sefydliad wedi cydnabod wrth ysgrifennu camgymeriad wrth weithredu’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres 
    • cytunwyd ar rwymedigaeth gros y cyflogwr tybiedig, gan gynnwys unrhyw gosb,  
  • mae’r sefydliad yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i gyfrifo gosodiad yn erbyn. Mae hyn yn cyfeirio at y canlynol:
    • enw’r Cwmni Gwasanaeth Personol a Rhif Cofrestru’r Cwmni
    • enw llawn neu rif Yswiriant Gwladol y gweithiwr  

Yr hyn sy’n digwydd nesaf 

Ar gyfer sefydliadau sydd â gwiriadau cydymffurfio gweithio oddi ar y gyflogres agored, byddwn yn parhau â’n gwiriad cydymffurfio fel arfer.   

Os yw sefydliad yn bodloni’r amodau uchod pan fyddwn yn barod i gytuno ar setliad, byddwn yn gofyn i’r sefydliad a ydynt am oedi. Os ydym yn cytuno i oedi, byddwn yn cysylltu â sefydliadau eto ar ôl 6 Ebrill 2024 i setlo’r gwiriad cydymffurfio.  

Nid oes rhaid i sefydliadau oedi yn eu setliad os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Os bydd sefydliadau’n dewis oedi, byddem yn cynghori sefydliadau i wneud taliad ar gyfrif am y swm llawn, er mwyn atal llog statudol rhag cronni.  

Mae rhagor o wybodaeth am newid polisi ar gael (yn Saesneg)

Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — help i gydymffurfio â’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) diwygiedig

Mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio newydd yn ddiweddar — help i gydymffurfio â’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) diwygiedig (yn Saesneg).

Os ydych yn hurio neu’n cyflenwi contractwyr, rydym yn eich annog i ddarllen y canllawiau hyn i’ch helpu chi weithredu’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres yn gywir.  

Mae’r Canllawiau hyn ar gyfer Cydymffurfio yn nodi camau ymarferol i chi eu dilyn:  

  • gan gynnwys arferion gorau ac enghreifftiau o systemau a phrosesau da gallwch eu haddasu ar gyfer eich sefydliad eich hun  

  • i’ch helpu chi leihau’r risg o wneud gwall wrth bennu statws gweithiwr at ddibenion treth  

Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi arweiniad ymarferol i roi cymorth i gwsmeriaid. Gall y canllawiau hyn eich helpu chi i ddeall yn well yr hyn y mae CThEF yn ei ystyried yn arfer da ac eglurhau ein safbwyntiau mewn meysydd cymhleth neu newydd yn y system dreth, neu feysydd sy’n cael eu camddeall yn eang. Mae Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn Saesneg) yn rhoi rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyhoeddiadau eraill. 

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn diweddaru’r Llawlyfr Statws Cyflogaeth (yn Saesneg) er mwyn rhoi arweiniad manylach mewn meysydd penodol megis apeliadau ac anghytundebau i weithwyr oddi ar y gyflogres.   

Os ydych yn gorff cynrychiadol ac yn ymwybodol o sectorau neu grwpiau cwsmer penodol a fyddai’n elwa o gael addysg neu gymorth bellach, cysylltwch â offpayrollworking.legislation@hmrc.gov.uk.

Diwygio’r cyfnod sail

Mae’r rheolau y mae CThEF yn eu defnyddio er mwyn cyfrifo elw unig fasnachwyr a phartneriaid ar gyfer Treth Incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn newid i lawer o fusnesau o 2023 i 2024 ac ymlaen. Gallai’r newid hwn effeithio ar y Ffurflenni Treth y mae’n rhaid i drethdalwyr eu cyflwyno erbyn 31 Ionawr 2025 a Ffurflenni Treth wedi hynny. 

Mae CThEF yn bwriadu rhyddhau fideo YouTube ym mis Chwefror 2024, sy’n rhoi trosolwg byr o’r newidiadau a gyflwynwyd gan ddiwygio’r cyfnod sail. Bydd y fideo YouTube yn offeryn addysgiadol, yn enwedig i fusnesau bach a chwsmeriaid heb gynrychiolaeth, i’w helpu i ddeall y newidiadau yn y flwyddyn drosiannol ac o hynny ymlaen. 

Mae rhagor o wybodaeth am ddiwygio’r cyfnod sail ar gael (yn Saesneg)

Helpu i wirio a yw gwaith yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu

Mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn Saesneg) i helpu cwmnïau i weld a yw gwaith yn gymwys fel Ymchwil a Datblygu (R&D) at ddibenion treth (yn Saesneg). Dim ond cwmnïau sy’n gallu hawlio rhyddhadau R&D

Mae’r canllawiau wedi’u cynllunio i helpu i osgoi camgymeriadau cyffredin wrth nodi a chyflwyno hawliadau i Ryddhad Ymchwil a Datblygu trwy gynorthwyo busnesau i wneud y canlynol: 

  • darganfod a allai gwaith fod yn gymwys fel R&D at ddibenion treth 

  • deall disgwyliadau CThEF o’r rhai sy’n gwneud hawliadau 

  • deall barn CThEF o bwy sy’n weithiwr proffesiynol cymwys, sy’n gallu barnu a yw prosiect yn ceisio cynnydd mewn gwyddoniaeth neu dechnoleg 

  • deall ystyr ‘cynnydd gwyddonol neu dechnolegol’ at ddibenion treth 

  • penderfynu ble mae’r prosiect yn dechrau ac yn gorffen at ddibenion hawliad R&D 

  • deall y dystiolaeth o brosiect cymwys y gallai CThEF fod eisiau ei weld 

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid 

Gwybodaeth bwysig i gwsmeriaid sy’n defnyddio’r opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’ i dalu CThEF

Yn ôl adborth, mae lleiafrif bach o gwsmeriaid yn ansicr am ddefnyddio’r opsiwn i dalu CThEF drwy gyfrif banc. Maen nhw’n sylwi bod eu taliad yn mynd drwy gyfrif banc HMRC Shipley, pan oedd eu taliadau blaenorol yn arfer mynd drwy gyfrif HMRC Cumbernauld. 

Gallai cwsmeriaid fod yn dawel eu meddwl nad sgam yw hon. Yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’ yw’r dull talu sy’n well gan CThEF o hyd ac ni fydd taliadau’n cael eu nodi yn erbyn cofnodion cwsmeriaid anghywir nac yn cymryd oes i’w diweddaru. 

Cyflwynwyd yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc ym mis Mawrth 2021. Mae canran fawr o’n cwsmeriaid yn defnyddio’r dull hwn yn rheolaidd. Mae eu holl fanylion talu yn cael eu llenwi’n awtomatig wrth iddynt fewngofnodi i’w cyfrif ar-lein CThEF, gan wneud y broses yn gynt ac yn haws. 

Helpu’ch contractwyr i osgoi cynlluniau arbed treth

Helpwch ni i ddiogelu’ch contractwyr drwy roi gwybod iddynt am ein hymgyrch ‘Arbed treth – peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn Saesneg).  

Rydym yn helpu contractwyr i sylwi ar arwyddion arbed treth, cael cymorth i adael cynlluniau ac i roi gwybod am gwmnïau amheus.  

Cefnogwch yr ymgyrch drwy rannu ein hadnoddau gydag unrhyw gontractwyr rydych chi’n gweithio gyda nhw. Mae’r rhain yn cynnwys:  

Rydym hefyd wedi cyhoeddi manylion cynlluniau arbed treth a’u hyrwyddwyr sydd angen eu hosgoi (yn Saesneg).  

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth sy’n cael eu marchnata ar hyn o bryd. Mae’n bosibl bod cynlluniau a hyrwyddwyr eraill ar waith ond na all CThEF gyhoeddi gwybodaeth amdanynt ar hyn o bryd. Os na fydd cynllun arbed treth neu hyrwyddwyr yn cael ei nodi, nid yw hyn yn golygu eu bod yn cael eu cymeradwyo gan CThEF mewn unrhyw ffordd. Nid ydym yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth i’w defnyddio.  

Gwnewch eich rhan drwy rannu’r newyddion a rhannu neu hoffi postiadau CThEF ar Facebook, LinkedIn ac X (Twitter)

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol ar gyfer 2023  

Bydd y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023 ar GOV.UK ar 12 Rhagfyr 2023. 

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn mynd i fanylder ar gynnydd ABAB yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad blaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys Troi Treth yn Ddigidol i Fusnesau, y camau nesaf ar gyfer Ffiniau a Thollau’r DU a’r effaith ar fusnesau bach a phrofiad chwsmeriaid. Mae’r adroddiad hefyd yn rhannu blaenoriaethau ABAB ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. 

Mae gan ABAB frwdfrydedd i wrando ar anghenion y gymuned o fusnesau bach, a’u deall. Daw aelodau’r bwrdd o sawl busnes a phroffesiwn, a’u nod yw rhoi cymorth i CThEF er mwyn creu system dreth sy’n gyflymach ac yn haws i fusnesau bach.  

Rydym yn eich annog i rannu’r adroddiad gyda chydweithwyr. Os hoffech wneud sylwadau ar yr adroddiad, neu helpu ABAB gyda’i waith, cysylltwch â: advisoryboard.adminburden@hmrc.gov.uk

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’ch dyletswyddau pensiwn gweithle

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n monitro pob cyflogwr, mawr a bach, i wneud yn siŵr bod staff yn cael y pensiynau sy’n ddyledus iddynt. Dylai cyflogwyr gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni eu dyletswyddau pensiwn gweithle. Os na fyddant yn gwneud hynny, gall TPR ganfod hyn a gall gymryd camau gorfodi. 

Mae cofrestru awtomatig yn gyfrifoldeb parhaus. Yn ogystal â monitro oedran ac enillion staff a thalu cyfraniadau, mae’n rhaid i gyflogwyr hefyd gyflawni dyletswyddau ailgofrestru, gan gynnwys y ddyletswydd i ail-ddatgan, bob tair blynedd. 

Dylai cyflogwyr ddarllen arweiniad TPR ar ddyletswyddau parhaus ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau, a dylai’r rhai sy’n cefnogi cyflogwyr gyda’u dyletswyddau edrych ar wybodaeth TPR i gynghorwyr. 

Cywiriad i’r Llawlyfr Ardoll Brentisiaethau

Ym mis Gorffennaf 2023, gwnaethom ddiweddaru cynnwys tudalen ALM070000 y Llawlyfr Ardoll Brentisiaethau (yn Saesneg).   

Cafodd y diweddariad ei wneud er mwyn cywiro gwall blaenorol. Bellach, mae’n amlinellu’r ddarpariaeth ddeddfwriaethol gywir, sef bod “bil cyflog” yn seiliedig ar gyfanswm yr enillion y mae cyflogwr yn agored i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arnynt.  

Mae hyn yn cynnwys enillion o dan y Terfyn Enillion Isaf (LEL) a’r Trothwy Eilaidd (ST) ac, yn benodol, enillion sydd o dan yr LEL a’r ST sy’n cael eu cynnwys yn y bil cyflog hyd yn oed pan na fydd cyfanswm enillion y cyflogai yn y cyfnod hwnnw yn fwy na’r ST

Dewisiadau Gofal Plant — helpu teuluoedd i jyglo gwaith a bywyd

Gallai miloedd o deuluoedd fod yn arbed arian ar eu costau gofal plant ond efallai nad ydynt yn gwybod y cymorth y maent yn gymwys i’w gael.  

Mae’r Gwefan Dewisiadau Gofal Plant yn dwyn ynghyd y cynigion gofal plant presennol mewn un lle, fel y gall rhieni gael yr help sy’n addas i’w teulu. Gallai hyn fod yn Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, Gofal Plant 30 awr, neu Gredyd Cynhwysol am Ofal Plant. Mae’n bosibl y bydd rhai teuluoedd yn gymwys i ddefnyddio mwy nag un cynnig gofal plant gyda’i gilydd a manteisio i’r eithaf arno.   

Yn dibynnu ar feini prawf cymhwystra, gellid defnyddio cymorth hefyd ar gyfer: 

  • clybiau brecwast 

  • clybiau ar ôl ysgol 

  • clybiau gweithgareddau 

  • clybiau gwyliau 

  • gweithwyr gofal cartref 

  • cynlluniau chwarae 

Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf bydd y cymorth sydd ar gael i rieni yn parhau i ehangu.  

O fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd gan rieni cymwys sy’n gweithio yn Lloegr sydd â phlant 2 oed fynediad at ofal plant 15 awr.   

O fis Medi 2024 ymlaen, bydd y cynnig gofal plant 15 awr yn cael ei ehangu i rieni cymwys sy’n gweithio yn Lloegr gyda phlant rhwng 9 a 23 mis oed.   

Yn ogystal, disgwylir i rieni weld ehangu yn argaeledd gofal plant yn eu hardal leol cyn ac ar ôl ysgol, rhwng 8am a 6pm. Gelwir hyn hefyd yn ‘ofal cofleidiol’ ar gyfer plant oed ysgol gynradd.  

O fis Medi 2025 ymlaen, bydd gan rieni cymwys sy’n gweithio yn Lloegr sydd â phlant rhwng 9 mis oed ac oedran ysgol (4 neu 5 oed) fynediad at 30 awr o ofal plant.  

Mae’r Gwefan Dewisiadau Gofal Plant yn caniatáu i rieni ddarganfod beth y byddant yn gymwys ar ei gyfer a phryd i wneud cais. Byddant hefyd yn gallu cofrestru ar gyfer cylchlythyr a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth iddynt wrth i’r ehangu gael ei gyflwyno.   

Rydym wedi llunio pecyn cymorth ac adnoddau gwybodaeth i’ch helpu i hyrwyddo’r ystod o gynigion gofal plant i’ch rhwydweithiau perthnasol a’u hannog i ymweld â’r wefan Dewisiadau Gofal Plant i ddarganfod beth y maent yn gymwys ar ei gyfer.  

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr 

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:  

  • nam ar eu golwg  

  • anawsterau echddygol  

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu  

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw  

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.  

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):  

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:  
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol  
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:  
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig  
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF  

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn Saesneg).  

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @HMRCgovuk.  

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at mary.croghan@hmrc.gov.uk