Casgliad

Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu

Dod o hyd i wybodaeth am y gwahanol fathau o ryddhad Treth Gorfforaeth ar gyfer cwmnïau sy’n gweithio ar Ymchwil a Datblygu, a beth sydd angen i chi ei wneud cyn i chi hawlio.

Mae rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu (R&D) yn cefnogi cwmnïau yn y DU sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg.

Cyn cyflwyno hawliad dylech ystyried a fydd eich gweithgaredd yn gymwys ar gyfer rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu.

Mae’n annhebygol iawn y byddwch yn gymwys os yw’r canlynol yn wir am eich gweithgaredd:

  • nid yw’n cael ei gydnabod fel arloesedd gwyddonol neu dechnolegol

  • mae eisoes wedi’i gynnal neu mae wrthi’n cael ei gynnal mewn man arall

Mae’r mathau o hawliadau sy’n anaml yn gymwys ar gyfer rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu yn cynnwys y rhai a wneir gan y canlynol:

  • cartrefi gofal

  • darparwyr gofal plant

  • hyfforddwyr personol

  • cyfanwerthwyr a manwerthwyr

  • tafarndai

  • bwytai

Ni allwch hawlio os yw’r cynnydd yn y meysydd canlynol:

  • y celfyddydau

  • dyniaethau

  • gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg

Mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi dalu cosb os gwnewch hawliad anghymwys.

Os ydych o’r farn y gall eich cwmni fod yn gymwys i gael rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, darllenwch y canllawiau canlynol.

Arweiniad ar ryddhad treth Ymchwil a Datblygu

Mae’r arweiniad hwn yn esbonio beth yw Ymchwil a Datblygu, a’r gwahanol fathau o ryddhad y gallwch eu hawlio.

Rhoi gwybod i CThEF cyn i chi hawlio

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu.

Cyflwyno gwybodaeth fanwl cyn i chi hawlio

O 8 Awst 2023 ymlaen, mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i CThEF i ategu’ch holl hawliadau am ryddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu.

Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer mentrau bach a chanolig (MBaChau)

Mae rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu MBaChau yn caniatáu i gwmnïau ddidynnu 86% yn ychwanegol o’u costau cymwys, ar ben y didyniad arferol o 100% o’u helw blynyddol.

Gallwch hefyd ddewis hawlio credyd taladwy os yw’ch cwmni’n gwneud colled.

Os nad ydych wedi hawlio rhyddhad treth o’r blaen ar brosiectau Ymchwil a Datblygu, efallai y gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw.

Credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

Os ydych yn gwmni mawr, gallwch hawlio credyd gwariant ar rai o’ch costau gwariant cymwys.

Gallwch hefyd hawlio os ydych yn MBaCh ac na allwch hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu MBaChau.

Cyhoeddwyd ar 5 May 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 July 2023 + show all updates
  1. The information about when you must submit an additional information form has been updated from 1 August 2023 to 8 August 2023

  2. First published.