Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu: y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys
Dysgwch a allwch hawlio o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) neu’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS) ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Mae’n bosibl y bydd camau eraill y mae’n rhaid i chi eu cymryd cyn gweithio allan pa ryddhad y gallwch ei hawlio. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.
Y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys
Mae’r cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (ERIS) yn disodli’r hen gynllun RDEC a’r cynllun mentrau bach a chanolig (MBaChau) ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024. Mae’r rheolau o ran gwariant cymhwysol ar gyfer y ddau gynllun newydd yn union yr un peth, ond mae’r cyfrifiad ar gyfer swm y credyd yn wahanol.
Nod y rhyddhadau hyn yw annog a rhoi cymorth i Ymchwil a Datblygu, a helpu i oresgyn diffyg yn y farchnad (allanoldeb positif) sy’n achosi llai o fuddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu.
Hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, gallwch ddewis hawlio o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, ond ni allwch hawlio’r un gwariant o dan y ddau gynllun.
Os yw’ch credyd yn fwy na’r cap TWE
Yn ôl rheolau y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu a’r cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, ni all swm y credyd gwariant a gewch yn y cyfnod cyfrifyddu fod yn fwy na’r cap TWE, oni bai eich bod wedi’ch esemptio rhag y cap.
Os ydych yn hawlio o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, ac mae’r swm yn fwy na’r cap TWE, bydd y swm sydd dros ben yn cael ei gario ymlaen fel credyd gwariant Ymchwil a Datblygu y gallwch ei hawlio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu nesaf.
Swm y cap TWE yw £20,000 plws 300% o rwymedigaethau perthnasol y cwmni o ran cyfraniadau Yswiriant Gwladol a TWE – darllenwch CIRD140000 i gael gwybodaeth am y cap TWE (yn agor tudalen Saesneg).
Y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu
Pwy all hawlio
Mae’r cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu yn gredyd gwariant trethadwy, a gall gael ei hawlio gan gwmnïau sydd:
- yn masnachu
- yn agored i Dreth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
- â phrosiect sy’n bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu
Mae cyfyngiadau o ran hawlio yn berthnasol i wariant penodol a ysgwyddwyd tramor.
Mae’r credyd gwariant hwn yn agored i Dreth Gorfforaeth gan ei fod yn cael ei ystyried yn incwm masnachu.
Cyfraddau credyd gwariant
Cyfradd y credyd gwariant Ymchwil a Datblygu o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu yw 20%.
Mae cyfraddau gwahanol yn berthnasol i fasnachau wedi’u diogelu(yn agor tudalen Saesneg).
Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys
Mae cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn caniatáu MBaChau ag Ymchwil a Datblygu dwys sy’n gwneud colled i wneud y canlynol:
-
didynnu 86% ychwanegol o’u costau cymhwysol wrth gyfrifo eu colled masnachu wedi’i haddasu, yn ogystal â’r didyniad o 100% sydd eisoes yn ymddangos yn y cyfrifon (neu yn y cyfrifiannau o ganlyniad i a1308 o CTA 2009), gan wneud cyfanswm y didyniad yn 186%
-
hawlio credyd treth taladwy nad yw’n agored i dreth ac sy’n werth hyd at 14.5% o’r golled y gellir ei hildio
Mae cyfyngiadau o ran hawlio yn berthnasol i wariant penodol a ysgwyddwyd tramor. Dylai cwmnïau sydd â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at y canllaw Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu: Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled ac wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon.
Pwy all hawlio
Gallwch ond hawlio’r rhyddhad hwn os ydych yn MBaCh ag Ymchwil a Datblygu dwys sy’n gwneud colled.
Mae MBaCh yn gwneud colled os yw’n gwneud colled masnachu at ddibenion treth cyn i’r didyniad ychwanegol gael ei wneud. Oni bai eich bod wedi gwneud colled masnachu o’r fath, ni fydd gennych hawl i gael y didyniad hwnnw neu unrhyw gredyd treth taladwy, darllenwch CIRD91000 diffiniad o MBaCh (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth am MBaChau.
I hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, mae’n rhaid i chi fodloni’r amod dwyster.
Yr amod dwyster
Mae cwmni’n bodloni’r amod dwyster os yw’r canlynol yn wir:
- mae’n hawlio ar gyfer cyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
- mae ei wariant Ymchwil a Datblygu perthnasol o leiaf 30% o gyfanswm ei wariant (gan gynnwys gwariant unrhyw gwmnïau cysylltiedig – darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth)
Yn gyffredinol, bydd angen i chi fodloni’r amod am y cyfnod y gwneir yr hawliad amdano.
Gallwch hefyd hawlio os yw’r naill a’r llall beth canlynol yn berthnasol:
-
rydych wedi bodloni’r amod yn ystod eich cyfnod cyfrifyddu diwethaf o 12 mis
-
rydych wedi gwneud hawliad dilys i gael rhyddhad MBaCh neu gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn y cyfnod hwnnw, a hynny yn seiliedig ar wariant yr aed iddo ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023
Bydd angen i chi ystyried y cyfnodau canlynol:
- y cyfnod cyfrifyddu y gwneir yr hawliad amdano
- unrhyw gyfnodau rhoi cyfrif mewn perthynas â phersonau cysylltiedig (byd-eang) sy’n gorgyffwrdd â chyfnod cyfrifyddu yr hawliwr — darllenwch y Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth
Bydd angen i chi nodi’r costau sy’n ymwneud â’r cyfnodau dan sylw. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â chyfnod cyfrifyddu’r hawliwr, defnyddiwch yr union ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio dull rhesymol i ddyrannu costau’r cwmni cysylltiedig i’r cyfnod a gwmpesir gan gyfnod cyfrifyddu’r cwmni sy’n hawlio, lle bo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
-
nid yw cyfnod cyfrifyddu’r hawliwr yn cyd-fynd â chyfnod cyfrifyddu o leiaf un cwmni cysylltiedig
-
mae cwmni cysylltiedig dramor (ac felly nad oes ganddo gyfnod cyfrifyddu at ddibenion treth yn y DU)
O dan rai amgylchiadau, efallai y byddai’n briodol rhannu’r costau ar sail amser (diwrnod). Mewn achosion eraill, bydd angen ystyried pryd yr aed i’r costau er mwyn cael canlyniad teg, er enghraifft, pan ysgwyddwyd gwariant Ymchwil a Datblygu mewn ffordd anghyson yn ystod cyfnod. Dylai’r sail a ddewiswyd gennych gael ei defnyddio’n gyson, a dylech allu esbonio’n effeithiol pam rydych wedi’i defnyddio.
Diffinnir ‘gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol’ fel costau y gellid hawlio rhyddhad Ymchwil a Datblygu arnynt am y cyfnod dan sylw, p’un a wneir hawliad ai peidio. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i’r gwariant hwn hefyd fod yn rhan o gyfanswm y gwariant perthnasol.
Mae cyfanswm y gwariant perthnasol yn cynnwys y canlynol:
-
costau sy’n cael eu hystyried o dan Arfer Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol (GAAP) (yn agor tudalen Saesneg) wrth gyfrifo elw’r fasnach — os paratoir eich cyfrifon yn gywir o dan GAAP, bydd y costau hyn yn ymddangos yn eich cyfrif elw a cholled, neu’ch datganiad incwm, fel costau sy’n cyfrannu at yr elw cyn treth
-
unrhyw gostau cyn-fasnachu y byddai’n gymwys i gael rhyddhad o dan a1045 o CTA 2009, Cynllun MBaCh (yn agor tudalen Saesneg)
-
unrhyw symiau a ddidynnwyd wrth wneud cyfrifiant treth o dan a1308 o CTA 2009, Amodau i’w bodloni (yn agor tudalen Saesneg) — caniateir fel didyniad wrth gyfrifiannu’r elw
Nid yw’n cynnwys y canlynol:
-
unrhyw symiau o amorteiddiad a gafodd eu rhoi yn ôl wrth wneud cyfrifiant treth o dan a1308 o CTA 2009, Amodau i’w bodloni (yn agor tudalen Saesneg) — caniateir fel didyniad wrth gyfrifiannu’r elw
-
unrhyw gostau sy’n cynnwys taliad, neu drosglwyddiad arall o werth, i gwmni cysylltiedig arall
Os nad ydych yn MBaCh ag Ymchwil a Datblygu dwys sy’n gwneud colled
Gall MBaChau sydd heb Ymchwil a Datblygu dwys, sy’n gwneud elw ac sydd â gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol hawlio rhyddhad o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu.
Cwmnïau sydd wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys
Os ydych yn gwmni MBaCh sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, nid ydych yn destun cyfyngiadau ar gyfer rhyddhad ar daliadau sy’n berthnasol i’r canlynol:
-
contractwyr tramor
-
gweithwyr tramor a ddarperir yn allanol (EPWs)
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn CIRD150000 — Rhyddhadau Treth Ymchwil a Datblygu: rhyddhadau wedi’u diwygio: cyfyngiadau tramor: cynnwys (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes unrhyw wariant na allwch ei hawlio fel rhan o gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio’r gwariant hwnnw o dan y cynllun cyfun ar gyfer credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, ar yr amod eich bod yn bodloni’r rheolau. Er enghraifft, gall hyn fod oherwydd y terfynau de minimis ar gyfer y sector rydych yn masnachu ynddo. Gweler CIRD150000 — Rhyddhadau Treth Ymchwil a Datblygu: rhyddhadau wedi’u diwygio:ERIS: cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon — Llawlyfr mewnol CThEF — GOV.UK (yn agor tudalen Saesneg).
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Cwmnïau sydd â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon — Sut i optio allan o’r rheolau arbennig
Os oes gan eich cwmni swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (NI ERIS), mae’n rhaid i chi ddilyn darpariaethau Gogledd Iwerddon.
Gallwch ddewis optio allan os nad yw’ch gweithgarwch busnes yn cynnwys y canlynol:
- elfen o fasnach mewn nwyddau
- gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â’r farchnad drydan
I optio allan, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni wrth i chi gyflwyno’r wybodaeth ychwanegol am eich hawliad Ymchwil a Datblygu. Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar-lein wrth i chi wneud eich hawliad.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau ERIS Gogledd Iwerddon ac optio allan yn Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu (R&D): Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled ac wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon.
Dylech barhau i ddarllen yr arweiniad hwn i ddysgu rhagor am sut i wneud hawliad.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
Mae’n rhaid i chi wirio a oes angen i chi i roi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio’r rhyddhad hwn.
Os yw’ch cwmni’n MBaCh, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am sicrwydd ymlaen llaw er mwyn cadarnhau y bydd eich hawliad yn cael ei dderbyn.
Updates to this page
-
Information has been added about if your credit exceeds the PAYE cap and How to opt out of enhanced Research and Development intensive support for companies registered office in Northern Ireland.
-
A new section on ‘How to opt out of enhanced R&D intensive support (NI ERIS) for companies registered in Northern Ireland’ has been added to ‘Connected companies’. A new section on ‘Companies registered in Northern Ireland and claiming enhanced R&D intensive support' has been added to ‘If your credit exceeds the PAYE cap’.
-
Updated the section 'Enhanced R&D intensive support' to clarify when a small and medium-sized enterprise is considered loss-making.
-
Made it clear that all expenditure is subject to a payment condition, instead of some.
-
First published.