Canllawiau

Cyflwyno gwybodaeth i ategu’ch hawliad am ryddhadau Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Pa wybodaeth fanwl y mae angen i chi ei hanfon at CThEF i ategu’ch hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) a phryd a sut i’w gyflwyno.

Pryd y bydd angen i chi gyflwyno

Mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i CThEF i ategu hawliadau newydd am ryddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu (R&D), neu’r ddau.

Mae angen i chi lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu hir, bydd angen i chi gyflwyno:

  • ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu o 12 mis
  • ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu byr canlynol

Dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cyfnod cyfrifyddu dan sylw y dylai’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol ei chynnwys ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Gall cyfnod cyfrifyddu gynnwys hawliadau am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu a chredyd gwariant Ymchwil a Datblygu. Os yw hynny’n berthnasol, mae’r gofynion a restrir yn y 3 adran ganlynol yn berthnasol i bob hawliad ar wahân, nid i’r cyfnod cyfrifyddu yn ei gyfanrwydd:

  • cynnwys manylion am y gwariant cymhwysol
  • rhoi manylion am brosiectau rydych yn hawlio ar eu cyfer
  • rhoi disgrifiad ar gyfer pob prosiect

Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen gwybodaeth ychwanegol atom naill ai cyn neu ar yr un diwrnod y byddwch yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol, ni fydd unrhyw hawliad Ymchwil a Datblygu na chredyd gwariant yn ddilys.

Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau y byddwn yn dileu’ch hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu o’ch Ffurflen Dreth y Cwmni. Os bydd hyn yn digwydd yn agos at y dyddiad olaf ar gyfer diwygio’r ffurflen, efallai na fyddwch yn gallu gwneud hawliad Ymchwil a Datblygu dilys am y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.

Pwy all gyflwyno

Gallwch lenwi’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol os ydych:

Os ydych yn asiant

Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant cyn y gallwch lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar ran eich cleient. Dylai’r cwmni roi caniatâd i chi i lenwi’r ffurflen ar ei ran.

Dysgwch ragor am gofrestru gyda CThEF i gael cyfrif gwasanaethau asiant.

Cynnwys manylion y cwmni a manylion cyswllt

I lenwi’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol, bydd angen y manylion canlynol arnoch.

Manylion y cwmni

Y manylion canlynol am eich cwmni:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) — mae’n rhaid i hwn gyfateb i’r un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni
  • cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • rhif cofrestru TAW
  • y math o fusnes, er enghraifft, eich cod dosbarthiad diwydiannol safonol (SIC) presennol

Manylion cyswllt

Y manylion cyswllt ar gyfer y bobl ganlynol:

  • y prif uwch gyswllt Ymchwil a Datblygu mewnol yn y cwmni sy’n gyfrifol am yr hawliad R&D, er enghraifft un o gyfarwyddwyr y cwmni
  • unrhyw asiant sy’n ymwneud â’r hawliad Ymchwil a Datblygu

Mae unrhyw asiant sy’n ymwneud â’r hawliad Ymchwil a Datblygu yn cynnwys:

  • pob asiant sydd wedi rhoi cyngor mewn perthynas ag unrhyw ran o’r hawliad Ymchwil a Datblygu

  • asiantau sydd wedi helpu gyda pharatoi’r hawliad cyfan, neu rannau ohono, drwy asesiad technegol neu drwy ddadansoddi costau

  • asiantau sy’n ymwneud â’r hawliad, er enghraifft drwy’r canlynol:

    • darparu gwybodaeth ar gyfer ffurflenni ar-lein, neu lenwi’r ffurflenni hynny

    • cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni

Dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu

Dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn hawlio rhyddhad treth ar ei gyfer. Mae’n rhaid i’r dyddiadau gyd-fynd â’r rhai a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Cynnwys manylion o ran dwyster Ymchwil a Datblygu

Ar gyfer gwariant Ymchwil a Datblygu a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

Gallwch hawlio cyfradd uwch o gredyd treth taladwy ar gyfer y cynllun mentrau bach a chanolig (MBaCh) os ydych yn bodloni’r amod dwyster Ymchwil a Datblygu fel MBaCh a bod eich cyfnod cyfrifyddu wedi dechrau cyn 1 Ebrill 2024.

I fodloni’r amod dwyster

Mae’n rhaid i’ch gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol (ynghyd ag unrhyw gwmnïau cysylltiedig) fod o leiaf 40% o gyfanswm eich gwariant perthnasol (ynghyd ag unrhyw gwmnïau sy’n gysylltiedig â chi).

Bydd angen i chi roi manylion y canlynol:

  • gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol
  • cyfanswm y gwariant cymhwysol
  • gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol a chyfanswm gwariant cwmnïau cysylltiedig

Cwmnïau cysylltiedig

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gwmnïau sy’n gysylltiedig â chi ar o leiaf un diwrnod yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y gwneir yr hawliad amdano.

Dim ond cwmnïau masnachu sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU (neu gwmnïau sy’n gymwys i hawlio rhyddhad ar gyfer gwariant cyn masnachu o dan adran 1045 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009) all gael gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth am wariant cyn masnachu, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD90200 (yn agor tudalen Saesneg).

I gael rhagor o wybodaeth am gysylltiad, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD82150 (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfanswm y gwariant cymhwysol

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwariant a ystyriwyd o dan arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (GAAP) i gyfrifo elw masnach, sy’n bwydo i mewn i’r sefyllfa elw (colled) cyn treth yn y cyfrif elw a cholled neu’r gyfriflen incwm yn eich cyfrifon GAAP
  • os nad ydych wedi dechrau masnachu eto, unrhyw wariant cyn masnachu y byddwch yn cael rhyddhad arno o dan adran 1045 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD90200(yn agor tudalen Saesneg)
  • unrhyw swm o wariant Ymchwil a Datblygu wedi’i gyfalafu lle rydych yn cael didyniad treth o dan adran 1308 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD81450 (yn agor tudalen Saesneg)

Nid yw’n cynnwys:

  • unrhyw swm o amorteiddiad y mae’n rhaid i chi ei adio’n ôl yn eich cyfrifiannau treth oherwydd eich bod yn cael neu wedi cael didyniad a1308
  • gwariant ar daliadau neu drosglwyddiadau eraill o werth i gwmni cysylltiedig

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024

Mae’r gyfradd credyd uwch o 14.5% ar gael o dan gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys, ac mae hyn ond yn disodli’r cynllun MBaCh ar gyfer MBaChau sydd ag Ymchwil a Datblygu dwys ac sy’n gwneud colled. Mae’r trothwy dwyster yn gostwng o 40% i 30%.

Bydd angen i chi hefyd fod yn gymwys i wneud colled. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud colled at ddibenion treth cyn cael y didyniad ychwanegol ar gyfer y rhyddhad. Oni bai eich bod yn gwneud colled o’r fath, ni allwch hawlio’r didyniad ychwanegol na’r credyd treth taladwy.

Yn lle hynny, gall MBaChau sy’n gwneud elw ac sydd ddim ag Ymchwil a Datblygu dwys, hawlio rhyddhad o dan y cynllun credyd gwariant Ymchwil a Datblygu cyfunol, cyn belled â bod yr holl amodau eraill wedi’u bodloni.

Cyfnod gras

Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu hawlio cymorth ychwanegol o dan y cyfnod gras, cyn belled â’ch bod wedi gwneud y canlynol yn eich cyfnod cyfrifyddu 12 mis olaf:

  • gwnaethoch fodloni’r amod dwyster
  • gwnaethoch hawlio rhyddhad MBaCh neu gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar wariant a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

Cynnwys manylion am y gwariant cymhwysol

Dylech gynnwys manylion am y gwariant cymhwysol — gwiriwch fod y gwaith yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth R&D.

Os ydych yn bodloni’r amodau, yn Ffurflen Dreth y Cwmni, gallwch hawlio am y canlynol:

  • rhyddhad treth fel menter bach a chanolig (MBaCh)
  • credyd gwariant fel cwmni mawr neu fel MBaCh

Os ydych yn gwneud hawliad ar gyfer rhyddhad treth MBaCh, mae’n bosibl y gallwch hawlio am y canlynol:

  • costau cyfrifiadura cwmwl ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gan gynnwys storfeydd
  • eitemau traul, gallai hyn gynnwys deunyddiau, dŵr, tanwydd a phŵer
  • costau trwydded data ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023
  • gweithwyr a ddarperir yn allanol
  • taliadau i’r sawl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol
  • meddalwedd
  • staff
  • costau isgontractwyr

Os ydych yn hawlio am gredyd gwariant, mae’n bosibl y gallwch hawlio am y canlynol:

  • costau cyfrifiadura cwmwl ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gan gynnwys storfeydd
  • eitemau traul, gallai hyn gynnwys deunyddiau, dŵr, tanwydd a phŵer
  • cyfraniadau at gostau Ymchwil a Datblygu annibynnol

  • costau trwydded data ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

  • gweithwyr a ddarperir yn allanol

  • taliadau i’r sawl sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol
  • meddalwedd
  • staff
  • rhai costau isgontractwyr

Os ydych chi’n hawlio rhyddhad treth a chredyd gwariant MBaCh, bydd angen i chi ddarparu manylion y gwariant cymhwysol ar gyfer eich hawliadau rhyddhad treth a chredyd gwariant ar wahân. 

Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau’r cap TWE ar gyfer pob hawliad MBaCh sy’n ymwneud â chyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021.

Dim ond cwmnïau sydd â chyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023 sydd â’r opsiwn o gyflwyno:

  • nifer y gweithwyr a ddarperir yn allanol sydd wedi bod yn rhan o brosiectau
  • cyfeirnod TWE y Cyflogwr ar gyfer pob gweithiwr a ddarperir yn allanol

Nid yw hyn yn atal cwmnïau rhag hawlio costau ar gyfer gweithwyr a ddarperir yn allanol yn y cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2023.

Cynnwys gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol

Mae’r rhain yn weithgareddau sy’n ffurfio rhan o brosiect, ond nad ydynt yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol.

Gallwch wneud hawliad ar gyfer y mathau o wariant cymhwysol sydd wedi’u nodi yn yr adran ‘Manylion am y gwariant cymhwysol’, os cawsant eu gwario ar y gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol canlynol:

  • gwasanaethau gwybodaeth wyddonol a thechnolegol, sydd wedi’u cyflawni i roi cymorth i waith Ymchwil a Datblygu, megis paratoi’r adroddiad gwreiddiol ynghylch canfyddiadau’r gwaith Ymchwil a Datblygu
  • gweithgareddau anuniongyrchol cynorthwyol, megis cynnal a chadw, diogelwch, gweinyddu a gweithgareddau clerigol, a gweithgareddau cyllid a phersonél, sydd wedi’u cyflawni ar gyfer prosiect Ymchwil a Datblygu
  • gweithgareddau ategol sy’n angenrheidiol i gyflawni prosiect Ymchwil a Datblygu, er enghraifft:

    • cyflogi staff a’u talu

    • prydlesu labordai

    • cynnal a chadw offer Ymchwil a Datblygu, gan gynnwys cyfrifiaduron a ddefnyddir at ddibenion Ymchwil a Datblygu

  • hyfforddiant sydd ei angen er mwyn cynorthwyo â phrosiect Ymchwil a Datblygu yn uniongyrchol
  • ymchwil a gafodd ei chynnal mewn prifysgolion gan fyfyrwyr neu ymchwilwyr
  • ymchwil (gan gynnwys casglu data perthnasol) i ddatblygu dulliau profi, arolygu neu samplu gwyddonol neu dechnolegol newydd, lle nad yw’r ymchwil hwn yn Ymchwil a Datblygu yn ei rinwedd ei hun
  • astudiaethau dichonoldeb i lywio cyfeiriad strategol gweithgaredd Ymchwil a Datblygu penodol

Rhoi manylion am brosiectau rydych yn hawlio ar eu cyfer

Mae angen i chi roi manylion i ni ynghylch y prosiectau rydych yn hawlio ar eu cyfer yn ystod y cyfnod cyfrifyddu. Mae’r manylion sydd angen i chi eu rhoi i ni yn dibynnu ar y nifer o brosiectau rydych yn gwneud hawliadau ar eu cyfer.

Os ydych yn hawlio am 1 i 3 o brosiectau, mae’n rhaid i chi ddisgrifio pob prosiect rydych yn hawlio ar ei gyfer sy’n cyfrif am 100% o’r gwariant cymhwysol.

Os ydych yn hawlio ar gyfer 4 prosiect neu’n fwy, mae angen i chi ddisgrifio’r isaf o’r canlynol:

  • nifer y prosiectau sy’n cyfrif am o leiaf 50% o’r gwariant cymhwysol, ond mae’n rhaid i chi ddisgrifio o leiaf 3 phrosiect

  • 10 prosiect

Os yw’r gwariant cymhwysol wedi’i rannu ar draws sawl prosiect llai, disgrifiwch y 10 gyda’r gwariant mwyaf cymhwysol (bydd y ffurflen yn eich galluogi i gynnwys mwy o brosiectau os oes angen).

Os ydych chi’n hawlio rhyddhad treth a chredyd gwariant MBaCh, bydd angen i chi ddarparu ar wahân:

  • manylion y nifer ofynnol o brosiectau yn seiliedig ar y gwariant cymhwysol ar gyfer eich hawliad rhyddhad treth

  • manylion y nifer ofynnol o brosiectau yn seiliedig ar y gwariant cymhwysol ar gyfer eich hawliad credyd gwariant

Er enghraifft, os oes gennych 8 prosiect MBaCh a 2 brosiect credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, yna bydd angen i chi ddarparu:

  • manylion y prosiect ar gyfer prosiectau MBaCh sy’n cyfrif am o leiaf 50% o gyfanswm y gwariant cymhwysol ar gyfer rhyddhad MBaCh, gan ddisgrifio o leiaf 3 phrosiect

  • manylion y prosiect ar gyfer y ddau brosiect rydych yn hawlio rhyddhad credyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar eu cyfer

Os ydych yn gwsmer sy’n fusnes mawr

I gael gwybodaeth am sut mae CThEF yn delio â hawliadau credyd gwariant ar gyfer cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD80370 (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol, gallwch gysylltu â’r gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost cyswllt perthnasol (yn agor tudalen Saesneg), gan gopïo’ch rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid (CCM) i’r e-bost.

Ar ben hynny, gallwch anfon manylion ategol pellach atom am eich prosiectau Ymchwil a Datblygu mewn adroddiad ar wahân. Gall yr adroddiad hwn gynnwys y canlynol:

  • methodoleg yr hawliad

  • y defnydd o samplu

  • manylion y gweithwyr proffesiynol cymwys

Gallwch gyflwyno’r adroddiad Ymchwil a Datblygu ar wahân gan wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Rhoi disgrifiad ar gyfer pob prosiect

1. Beth yw’r prif faes gwyddoniaeth neu dechnoleg?

Rhowch ddisgrifiad cryno o’r maes gwyddoniaeth neu dechnoleg y mae’r prosiect yn ymwneud ag ef.

Bydd y derminoleg ganlynol yn eich helpu i lenwi’r disgrifiad.

Gwyddoniaeth yw’r astudiaeth systematig o natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol.

Nid yw gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau na’r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg, yn wyddoniaeth at y diben hwn.

O 1 Ebrill 2023 ymlaen, bydd cynnydd ym maes mathemateg yn cael ei drin fel cynnydd ym maes gwyddoniaeth at y dibenion hyn — a hynny p’un a yw’n gynnydd o ran natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol, neu beidio.

Technoleg yw rhoi egwyddorion neu wybodaeth wyddonol ar waith mewn ffordd ymarferol.

2. Beth oedd y lefel safonol, o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg, yr oedd y cwmni yn bwriadu ei chynyddu?

Disgrifiwch lefel yr wybodaeth neu’r gallu a oedd eisoes yn bodoli ar yr adeg pan ddechreuodd y prosiect. Er enghraifft, os mai bwriad y cwmni oedd gwneud cynnydd o ran y canlynol:

  • gwella deunydd neu ddyfais sydd eisoes yn bodoli — disgrifiwch beth oedd y nodweddion a’r galluoedd gwreiddiol

  • datblygu gwybodaeth newydd mewn maes penodol o wyddoniaeth neu dechnoleg — disgrifiwch yr hyn a oedd eisoes yn hysbys

3. Pa gynnydd yn yr wybodaeth wyddonol neu dechnolegol honno oedd y cwmni’n bwriadu’i gyflawni?

Rhowch ddisgrifiad o’r cynnydd, gan ddefnyddio’r lefel safonol, o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg, a ddefnyddiwyd yn yr ateb blaenorol fel cymhariaeth.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i lenwi’r disgrifiad.

Gall cynnydd mewn gwybodaeth neu allu o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg arwain at ganlyniadau corfforol, neu gall fod yn gynnydd mewn gwybodaeth gyffredinol. Yn y naill achos neu’r llall, byddai gweithiwr proffesiynol cymwys sy’n gweithio yn y maes hwnnw yn ei gydnabod fel gwelliant sylweddol.

Gall y gwelliannau gynnwys y canlynol:

  • creu proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy’n cynyddu’r wybodaeth neu’r gallu cyffredinol mewn maes gwyddoniaeth neu dechnoleg

  • gwelliant sylweddol o ran proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes — er enghraifft, i arbed costau neu i greu llai o wastraff (mae hyn yn cyfeirio at welliannau sylweddol iawn, y tu hwnt i uwchraddio cyffredin)

  • defnyddio gwyddoniaeth neu dechnoleg i gopïo effaith proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth presennol mewn ffordd newydd neu ffordd sy’n well

4. Yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol a wynebwyd gan y cwmni

Mae’n rhaid i chi gynnwys ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol yn unig — er enghraifft, os nad oedd y cwmni yn:

  • gwybod a oedd yn bosibl creu neu wella’r cynnyrch neu’r broses

  • gallu rhesymu sut i greu neu wella’r cynnyrch neu’r broses — er enghraifft, gwnaethoch geisio adeiladu offeryn diagnostig meddygol, a hynny’n cyfuno technoleg profi anymwthiol, deallusrwydd artiffisial (AI) a chludadwyedd, ond nid ydych yn siŵr am y dull o wneud hyn

Dylai’r disgrifiad o’r ansicrwydd a roddwyd gennych esbonio’r canlynol:

  • yr hyn sy’n eich atal rhag cyflawni cynnydd o ran gwybodaeth wyddonol neu dechnolegol (nid yw’r broblem yn ansicrwydd os oes modd ei datrys wrth ei thrafod gyda chyfoedion)

  • pam mae’r ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol hwn yn effeithio ar y diwydiant, ac nid ar eich cwmni chi yn unig

  • os bydd person proffesiynol a chymwys sy’n gweithio yn y maes yn ansicr o ran sut i gyflawni’r cynnydd, esboniwch pam

5. Sut y gwnaeth eich prosiect geisio goresgyn yr ansicrwydd hwn

Rhowch ragor o fanylion am y gweithgareddau Ymchwil a Datblygu uniongyrchol sy’n ceisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, yn ogystal â’r gweithgareddau anuniongyrchol cymwys.

Dylech ddisgrifio’r canlynol gan ddefnyddio manylion manwl:

  • y problemau a wynebwyd wrth gynnal y prosiect Ymchwil a Datblygu

  • y dulliau a gynlluniwyd, neu a ddefnyddiwyd, i ddatrys yr ansicrwydd

  • os cafodd yr ansicrwydd ei ddatrys neu beidio, ac esboniwch pam

Gall gweithgareddau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at Ymchwil a Datblygu gynnwys y canlynol:

  • creu, neu addasu, meddalwedd, deunyddiau neu offer sydd eu hangen i ddatrys yr ansicrwydd

  • gweithgareddau cynllunio, megis cynllun manwl o sut y byddwch yn rhoi’r prosiect ar waith

  • dylunio, profi a dadansoddi i ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol

Dylech gynnwys y gwariant cymhwysol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau anuniongyrchol, nad ydynt yn arwain yn uniongyrchol at ddatrys yr ansicrwydd, ar gyfer pob prosiect. Mae rhestr o’r hyn y gellir ei gynnwys ar gael yn yr adran ‘gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol’.

6. Pa ryddhad treth rydych yn ei hawlio, a beth yw’r swm

Rhowch wybod i ni am yr hyn rydych yn ei hawlio, er enghraifft rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, credyd gwariant, neu’r ddau. Dylech hefyd roi gwybod beth yw swm y gwariant cymwys sy’n berthnasol i bob prosiect penodol.

Cyflwyno’ch ffurflen

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch gyflwyno’r ffurflen os ydych:

  • yn gynrychiolydd i’r cwmni — bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth, os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un wrth i chi fewngofnodi am y tro cyntaf

  • yn asiant — bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am gyfrif gwasanaethau asiant. Os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf

Ni fyddwch yn gallu cael at y ffurflen unwaith y byddwch wedi ei chyflwyno, felly cadwch gopi cyn gwneud hynny.

Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer un mewn da bryd i gael y manylion sydd eu hangen arnoch i gyflwyno’ch ffurflen gwybodaeth ychwanegol.

Mae angen i bob cwmni sydd yn y grŵp gael ei gyfrif Porth y Llywodraeth ei hun er mwyn cyflwyno ffurflen ychwanegol. Ni allwch ddefnyddio cyfrif ‘Rheolwr Treth Grŵp’.

Dechrau nawr

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau ein bod wedi cael y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod.

Cadwch nodyn o’r cyfeirnod hwn am y rhesymau canlynol:

  • byddwch yn gallu trafod eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol gyda CThEF

  • os oes angen, gallwn wirio eich bod wedi cyflwyno eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol

Sut i hawlio

Os ydych yn penderfynu parhau â’ch hawliad:

Darllenwch ragor o wybodaeth am sut i lenwi Ffurflen Dreth y Cwmni.

Rydym yn ymwybodol o broblem gyda llenwi blychau 655 a 657 ar ffurflen CT600. Mae newidiadau a materion sy’n effeithio ar wasanaeth ar-lein Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn egluro pa gamau y dylech eu cymryd wrth i ni ddatrys y broblem hon.

Cyhoeddwyd ar 1 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 May 2024 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. A new section on Research and Development (R&D) intensity details has been added.

  3. Agents submitting additional information forms need an agent services account. They do not need to be authorised as the company’s Corporation Tax agent through Online Agent Authorisation to provide it.

  4. Who needs to submit an additional information form and what information needs to be submitted for each period has been clarified. Guidance for agents making authorised claims for companies has been added.

  5. The mandatory submission date has been changed from '1 August 2023' to '8 August 2023'. The 'Qualifying expenditure details' for claiming expenditure credit on subcontractor costs has been updated to clarify that only some of the costs can be claimed for. The 'Qualifying expenditure details' for claiming expenditure credit and SME tax relief on consumable items has been amended to remove utilities and include water, fuel and power. The list of 'qualifying indirect activities' has been updated to clarify which activities form part of a project. The 'Project details' for 11 to 100 (more) projects has been changed to clarify that you will need to describe the 10 projects with the most qualifying expenditure, and to clarify the description of the appreciable improvements.

  6. Added translation