Canllawiau

Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) ar gyfer mentrau bach a chanolig

Sut i hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth ar gyfer costau Ymchwil a Datblygu os ydych yn fenter bach a chanolig (MBaCh).

Mae rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn rhoi cymorth i gwmnïau sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Ni allwch hawlio os yw’r cynnydd yn y meysydd canlynol:

  • y celfyddydau
  • dyniaethau
  • gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg

Rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) ar gyfer mentrau bach a chanolig (MBaCh)

Mae’r rhyddhad treth yn galluogi eich cwmni i wneud y canlynol:

  • didynnu 86% ychwanegol o’ch gwariant cymhwysol o’ch elw masnachu at ddibenion treth, yn ogystal â’r didyniad arferol o 100%, gan wneud cyfanswm y didyniad yn 186%
  • hawlio credyd treth taladwy os yw’r cwmni wedi hawlio rhyddhad ac wedi gwneud colled

Mae’r credydau treth taladwy yn werth hyd at:

  • 10% o’r golled y gellir ei hildio
  • 14.5% o’r golled y gellir ei hildio os yw’r cwmni yn bodloni’r amod dwyster

Oni bai eich bod wedi’ch eithrio rhag cap TWE (Talu Wrth Ennill), ni all eich hawliad am gredydau treth fod dros y cap.

I hawlio’r rhyddhad, mae angen i chi fod yn MBaCh a dangos sut mae’ch prosiect yn bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth.

Os ydych yn gwneud hawliad am y tro cyntaf, efallai y byddwch yn gallu hawlio am sicrwydd ymlaen llaw.

I fodloni’r amod dwyster

Mae’n rhaid i’ch gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol (ynghyd â gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol unrhyw gwmnïau cysylltiedig) fod o leiaf 40% o gyfanswm eich gwariant perthnasol (ynghyd ag unrhyw gwmnïau cysylltiedig).

Dim ond cwmnïau masnachu sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU (neu gwmnïau sy’n gymwys i hawlio rhyddhad ar gyfer gwariant cyn masnachu o dan adran 1045 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009) all gael gwariant Ymchwil a Datblygu perthnasol.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024

Bydd y cynllun MBaCh yn cael ei ddisodli gan gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys. Mae hyn ond ar gael i MBaChau sydd ag Ymchwil a Datblygu dwys ac sy’n gwneud colled.

Cwmnïau sy’n gallu hawlio

Gallwch hawlio rhyddhad treth os ydych yn MBaCh sydd â’r canlynol:

  • llai na 500 o staff
  • trosiant o lai na 100 miliwn ewro, neu gyfanswm y fantolen o dan 86 miliwn ewro

Os oes gan eich cwmni fuddsoddwyr allanol, gall hyn effeithio ar eich statws fel MBaCh. Bydd angen i chi gynnwys ffigurau mentrau cysylltiedig, a mentrau sy’n bartneriaid, pan fyddwch yn gweithio allan a ydych yn MBaCh.

Dylid cynnwys staff, trosiant a mantolenni unrhyw fentrau cysylltiedig, neu rhai sy’n bartneriaid, yn eich cyfanswm.

Mentrau cysylltiedig

Mae eich cwmni yn gysylltiedig ag un arall os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich cwmni’n dal dros 50% o’r hawliau pleidleisio mewn menter arall
  • mae menter arall yn dal dros 50% o’r hawliau pleidleisio yn eich cwmni
  • mae gan eich cwmni hawliau eraill sy’n caniatáu iddo reoli menter arall
  • mae gan gwmni arall hawliau eraill sy’n caniatáu iddo reoli eich cwmni
  • mae eich cwmni chi, yn ogystal â menter arall, yn cael ei reoli gan barti arall

Mentrau sy’n bartneriaid

Mae gennych fenter sy’n bartner os yw’r canlynol yn wir:

  • mae cwmni arall yn dal o leiaf 25% o’ch hawliau pleidleisio neu gyfalaf
  • rydych yn dal o leiaf 25% o hawliau pleidleisio neu gyfalaf cwmni arall

Bydd angen i chi gynnwys cyfran o’r staff, trosiant a mantolenni y cwmnïau sy’n bartneriaid. Dylai hyn fod yn seiliedig ar ganran yr hawliau pleidleisio a chyfalaf sy’n cysylltu’r 2 gwmni.

Er enghraifft, os ydych yn berchen ar 30% o gwmni arall, dylech gynnwys 30% o’i staff, trosiant a mantolenni wrth gyfrifo a ydych yn MBaCh.

Pryd na allwch hawlio

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer prosiect os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi cael cyfanswm o Gymorth Gwladwriaethol sy’n fwy na 7.5 miliwn ewro ar gyfer y prosiect
  • rydych wedi cael unrhyw Gymorth Gwladwriaethol arall (gan eithrio’r rhyddhad treth MBaCh) ar gyfer y prosiect
  • mae ar gyfer gwaith sydd wedi’i is-gontractio i chi
  • mae’n cael cymhorthdal mewn rhyw ffordd arall, er enghraifft drwy grant, ond efallai y gallwch hawlio ar gyfer y rhan nad yw’n cael cymhorthdal

Dysgwch a allwch hawlio credyd gwariant Ymchwil a Datblygu yn lle hynny.

Gwiriwch pryd mae costau’n gymwys

Cyn i chi hawlio am gostau Ymchwil a Datblygu i gael rhyddhad treth neu gredyd treth taladwy, gwiriwch fod y costau:

  • yn rhan o brosiect penodol i wneud cynnydd ym maes gwyddoniaeth neu dechnoleg — ni all fod yn gynnydd yn y celfyddydau, y dyniaethau na’r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg
  • yn bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu
  • yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth, a restrir yn yr adran ‘Pa gostau sy’n gymwys’

Pa gostau sy’n gymwys

Gallwch hawlio’r rhyddhad treth ar rai o’r costau yr ewch iddynt o ddechrau’r prosiect i’r diwedd.

Mae Ymchwil a Datblygu yn cychwyn pan fydd gwaith yn dechrau datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, ac yn dod i ben pan fydd yr ansicrwydd hwnnw wedi’i ddatrys neu pan ddaw’r gwaith i’w ddatrys i ben.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn rhoi gwybod i chi pa gostau y gallwch hawlio ar eu cyfer, a pha rai na allwch hawlio ar eu cyfer.

Gallwch hefyd ddod o hyd i arweiniad pellach yn CIRD82000 o’r Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg).

Eitemau traul

Gallwch hawlio am y gyfran berthnasol o eitemau traul a ddefnyddiwyd yn yr Ymchwil a Datblygu, gan gynnwys:

  • tanwydd
  • deunyddiau
  • pŵer
  • dŵr

Ni allwch hawlio’r costau os byddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth yr eitemau traul a ddefnyddiwyd yn yr Ymchwil a Datblygu.

Gwirfoddolwyr treialon clinigol

Ar gyfer prosiectau Ymchwil a Datblygu yn y diwydiant fferyllol, gallwch hawlio am daliadau a wneir i wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol.

Trwydded data a chyfrifiadura cwmwl

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd gwariant cymwys yn cael ei ymestyn i gynnwys costau trwydded data a chostau cyfrifiadura cwmwl.

Mae trwydded data yn drwydded i gael mynediad at gasgliad o ddata digidol, a’i ddefnyddio.

Mae cyfrifiadura cwmwl yn cynnwys:

  • storio data
  • cyfleusterau caledwedd
  • systemau gweithredu
  • llwyfannau meddalwedd

Gallwch hawlio am y rhan fwyaf o gostau data a chyfrifiadura cwmwl a dreulir ar Ymchwil a Datblygu.

Costau gweithwyr a ddarperir yn allanol

Mae gweithwyr a gyflenwir gan ddarparwr staff, megis asiantaeth gyflogaeth, yn cael eu hystyried yn weithwyr a ddarperir yn allanol.

Gallwch wneud y canlynol:

  • hawlio 100% o’r taliadau perthnasol, os yw’ch cwmni a’r darparwr staff yn gysylltiedig
  • hawlio 65% o’r taliadau perthnasol a wneir i ddarparwr staff, nad yw’n gysylltiedig â’ch cwmni, os yw’n cyflenwi gweithwyr a ddarperir yn allanol ar gyfer y prosiect

Costau staff

Ar gyfer staff sy’n gweithio’n uniongyrchol ar y prosiect Ymchwil a Datblygu, gallwch hawlio am y costau canlynol, cyn belled â’u bod yn ymwneud ag Ymchwil a Datblygu:

  • bonysau
  • salarïau
  • cyflogau
  • cyfraniadau i gronfa bensiwn
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd a delir gan y cwmni

O dan amgylchiadau penodol, gallwch hefyd hawlio am staff gweinyddol neu staff cynorthwyol sy’n rhoi cymorth i brosiect yn uniongyrchol, er enghraifft:

  • adnoddau dynol a ddefnyddir i recriwtio person penodol i weithio ar y prosiect
  • staff glanhau arbenigol

Gelwir y rhain yn weithgareddau anuniongyrchol cymwys.

Dyma ambell enghraifft o gostau staff na allwch hawlio amdanynt:

  • taliadau diswyddo
  • costau staff ar gyfer gwaith clerigol neu waith cynnal a chadw a fyddai wedi’i wneud beth bynnag, megis rheoli’r gyflogres

Meddalwedd

Gallwch hawlio ar gyfer ffioedd trwyddedau meddalwedd ar gyfer Ymchwil a Datblygu, a chyfran resymol o’r costau ar gyfer meddalwedd a ddefnyddir yn rhannol yn ystod eich gweithgareddau Ymchwil a Datblygu.

Costau isgontractwyr

Gallwch hawlio:

  • 65% o’r costau Ymchwil a Datblygu perthnasol a wneir i isgontractwr
  • y costau Ymchwil a Datblygu perthnasol os yw’r is-gontractwr yn gysylltiedig â’ch cwmni

Enghreifftiau o gostau nad ydynt yn gymwys

Dyma ambell enghraifft arall o gostau na allwch hawlio amdanynt:

  • gwariant cyfalaf
  • cost y tir
  • cost y patentau a nodau masnach
  • rhent neu ardrethi

Cyfrifo’r gwariant uwch

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r gwariant uwch.

  1. Cyfrifwch y costau y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i’r Ymchwil a Datblygu.

  2. Dylech leihau unrhyw daliadau perthnasol i isgontractwr neu ddarparwr staff allanol i 65% o’r gost wreiddiol.

  3. Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd.

  4. Lluoswch y ffigur ag 86%.

  5. Ychwanegwch hwn at y ffigur gwreiddiol ar gyfer gwariant Ymchwil a Datblygu.

Os byddwch yn gwneud colled masnachu, gallwch ddewis ildio hyn a hawlio credyd treth taladwy.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i drosi rhyddhad treth yn gredydau treth taladwy yn CIRD90500 o’r Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn i chi hawlio

Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn cyn i chi hawlio’r rhyddhad treth, neu efallai na fydd eich hawliad yn ddilys.

  1. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gwiriwch a oes angen i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad, cyn chi wneud hynny. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei anfon i roi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

  2. O 08 Awst 2023 ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei anfon, a sut i anfon yr wybodaeth hon, pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth fanwl cyn i chi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Sut i hawlio

Gallwch hawlio neu wneud diwygiad gan ddefnyddio Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) a:

  • llenwi’r ffeil cyfrifiannau iXBRL sengl
  • rhoi ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad
  • rhoi ‘X’ ym mlwch 657 i roi gwybod i ni eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol
  • llenwi’r ffurflen atodol CT600L os ydych yn hawlio credyd treth taladwy neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu

Mae arweiniad ar gael i’ch helpu i lenwi eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Os yw’ch hawliad am ryddhad treth yn cwmpasu mwy na 12 mis, cyflwynwch hawliad ar wahân ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Gallwch hawlio rhyddhad treth hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddi.

Gwiriwch yr adran ‘Cyn i chi hawlio’ er mwyn gwneud yn siŵr y bydd eich hawliad am ryddhad treth yn ddilys.

Cyhoeddwyd ar 23 December 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 May 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information about how to meet the Research and Development (R&D) intensity condition for loss-making SMEs has been added.

  3. The 'Staff costs' section has been updated to include the treatment of bonuses and clarify that in some specific circumstances, you can claim for an element of administrative or support staff if they relate to an R&D project. The 'Subcontractor costs' section, second bullet point has been updated to tell you that you can claim for the relevant R&D costs if the subcontractor is connected to your company. The information on when you must submit an additional information form has been updated from '1 August 2023' to '8 August 2023', and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed in step 2 of section 'Before you claim'.

  4. Added translation

  5. More information has been added about small and medium-sized company R&D tax relief, the companies that can claim, when you cannot claim and which costs qualify for tax relief. How to calculate the enhanced expenditure and how to claim have been updated. A new section has been added to tell you what you need to do before you claim the tax relief for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.

  6. Information about how to claim relief, including what you need to complete before using the online service to send details to support your claim has been updated in the 'How to claim R&D relief' and 'How to support your claim' section. The 'Making of the R&D easier for small companies guide' has now been removed from the 'Overview' section.

  7. The email address to send details for more than 10 research and development projects has been updated.

  8. Information about how you can now use the online service to support your Research and Development tax relief claim has been added.

  9. The date to make amended claims for reimbursed expenses has been changed from 31 January 2018 to 30 April 2018.

  10. Guidance updated to advise companies if they receive more than €500,000 a year in state aid, certain details will be published on the European Commission website.

  11. First published.