Canllawiau

Credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (R&D)

Sut i hawlio credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) ar gyfer rhyddhad Treth Gorfforaeth ar Ymchwil a Datblygu eich cwmni, os ydych yn gwmni mawr neu’n fenter bach a chanolig.

Mae rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn rhoi cymorth i gwmnïau sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Ni allwch hawlio os yw’r cynnydd yn y meysydd canlynol:

  • y celfyddydau
  • dyniaethau
  • gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg

Credyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC)

Credyd gwariant yw credyd treth y gellir ei hawlio os ydych yn un o’r canlynol:

P’un a yw’ch cwmni’n gwneud elw neu golled, gallwch ddefnyddio rhywfaint o’r credyd gwariant, neu’r cyfan, i setlo rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth eich cwmni chi, neu rwymedigaethau Treth Gorfforaeth cwmnïau eraill sy’n rhan o’r grŵp.

Dan rai amgylchiadau, gall y credyd gwariant:

  • gael ei ddefnyddio i setlo rhwymedigaethau treth eraill y mae eich cwmni’n agored iddynt
  • arwain at daliad credyd i’ch cwmni

Cyfraddau credyd gwariant

Mae’r credyd gwariant yn cael ei gyfrifo fel canran o’ch gwariant Ymchwil a Datblygu cymwys — y cyfraddau yw:

  • 11% ar wariant a wnaed o 1 Ebrill 2015 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2017
  • 12% ar wariant a wnaed o 1 Ionawr 2018 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2020
  • 13% ar wariant a wnaed o 1 Ebrill 2020 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023
  • 20% ar wariant a wnaed o 1 Ebrill 2023 ymlaen

Gwiriwch pa wariant sy’n gymwys ar gyfer credyd gwariant

Cyn i chi hawlio credyd gwariant, gwiriwch fod y costau:

  • yn rhan o brosiect penodol i wneud cynnydd ym maes gwyddoniaeth neu dechnoleg — ni all fod yn gynnydd yn y celfyddydau, y dyniaethau na’r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg
  • yn bodloni’r diffiniad safonol o Ymchwil a Datblygu
  • yn gymwys ar gyfer credyd gwariant, a restrir yn yr adran ‘Pa wariant sy’n gymwys ar gyfer credyd gwariant’

Pa wariant sy’n gymwys ar gyfer credyd gwariant

Gallwch hawlio’r credyd gwariant ar rai o’r costau yr ewch iddynt o ddechrau’r prosiect Ymchwil a Datblygu i’r diwedd.

Mae Ymchwil a Datblygu yn cychwyn pan fydd gwaith yn dechrau i ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, ac yn dod i ben pan fydd yr ansicrwydd hwnnw wedi’i ddatrys neu pan ddaw’r gwaith i’w ddatrys i ben.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn rhoi gwybod i chi pa gostau y gallwch hawlio ar eu cyfer, a pha rai na allwch hawlio ar eu cyfer.

Gallwch hefyd ddod o hyd i arweiniad pellach yn CIRD81900 o’r Llawlyfr Ymchwil a Datblygu Costau Anghyffyrddadwy Corfforaethol (yn Saesneg).

Eitemau traul

Gallwch hawlio am y gyfran berthnasol o eitemau traul a ddefnyddiwyd yn yr Ymchwil a Datblygu, gan gynnwys:

  • tanwydd
  • deunyddiau
  • pŵer
  • dŵr

Ni allwch hawlio’r costau os byddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth yr eitemau traul a ddefnyddiwyd yn yr Ymchwil a Datblygu.

Gwirfoddolwyr treialon clinigol

Ar gyfer prosiectau Ymchwil a Datblygu yn y diwydiant fferyllol, gallwch hawlio am daliadau a wneir i wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol.

Cyfraniadau ar gyfer Ymchwil a Datblygu (R&D) annibynnol

Gallwch hawlio am gyfraniadau a wneir ar gyfer Ymchwil a Datblygu annibynnol, cyn belled â’ch bod yn gwmni mawr.

Mae’n rhaid i’r person sy’n cael y cyfraniad fod yn:

  • corff cymwys
  • unigolyn
  • ffỳrm lle mae pob aelod yn unigolyn

Ni allant fod yn gysylltiedig â’ch cwmni.

Mae’n rhaid i’r cyfraniadau a wneir gennych ar gyfer yr Ymchwil a Datblygu annibynnol:

  • fod yn berthnasol i’ch masnach
  • peidio â chael ei is-gontractio gan eich cwmni

Ni allwch hawlio unrhyw gyfraniadau os ydych yn MBaCH.

Trwydded data a chyfrifiadura cwmwl

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd gwariant cymwys yn cael ei ymestyn i gynnwys yr elfennau perthnasol o gostau trwydded data a chostau cyfrifiadura cwmwl.

Mae trwydded data yn drwydded i gael mynediad at gasgliad o ddata digidol, a’i ddefnyddio.

Mae cyfrifiadura cwmwl yn cynnwys:

  • storio data
  • cyfleusterau caledwedd
  • systemau gweithredu
  • llwyfannau meddalwedd

Gallwch hawlio am y rhan fwyaf o gostau data a chyfrifiadura cwmwl a dreulir ar Ymchwil a Datblygu.

Costau gweithwyr a ddarperir yn allanol

Mae gweithwyr a gyflenwir gan ddarparwr staff, megis asiantaeth gyflogi, yn cael eu hystyried yn weithwyr a ddarperir yn allanol.

Gallwch wneud y canlynol:

  • hawlio 100% o’r taliadau perthnasol, os yw’ch cwmni a’r darparwr staff yn gysylltiedig
  • hawlio 65% o’r taliadau perthnasol a wneir i ddarparwr staff, nad yw’n gysylltiedig â’ch cwmni, os yw’n cyflenwi gweithwyr a ddarperir yn allanol ar gyfer y prosiect

Costau staff

Ar gyfer staff sy’n gweithio’n uniongyrchol ar y prosiect Ymchwil a Datblygu, gallwch hawlio am y costau canlynol, cyn belled â’u bod yn ymwneud ag Ymchwil a Datblygu:

  • bonysau
  • cyflogau
  • cyfraniadau i gronfa bensiwn
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 eilaidd a delir gan y cwmni

O dan amgylchiadau penodol, gallwch hefyd hawlio am staff gweinyddol neu staff cynorthwyol sy’n rhoi cymorth i brosiect yn uniongyrchol, er enghraifft:

  • adnoddau dynol a ddefnyddir i recriwtio person penodol i weithio ar y prosiect
  • staff glanhau arbenigol

Gelwir y rhain yn weithgareddau anuniongyrchol cymwys.

Dyma ambell enghraifft o gostau staff na allwch hawlio amdanynt:

  • taliadau diswyddo
  • costau staff ar gyfer gwaith clerigol neu waith cynnal a chadw a fyddai wedi’i wneud beth bynnag, megis rheoli’r gyflogres

Meddalwedd

Gallwch hawlio ar gyfer ffioedd trwyddedau meddalwedd ar gyfer Ymchwil a Datblygu, a chyfran resymol o’r costau ar gyfer meddalwedd a ddefnyddir yn rhannol yn ystod eich gweithgareddau Ymchwil a Datblygu.

Costau isgontractwyr

Ni ellir hawlio gwariant wedi’i is-gontractio oni bai ei fod yn cael ei wneud yn uniongyrchol gan:

  • corff cymwys, er enghraifft elusen, sefydliad addysg uwch, sefydliad ymchwil wyddonol neu gorff gwasanaeth iechyd
  • unigolyn
  • ffỳrm lle mae pob aelod yn unigolyn

Enghreifftiau o gostau nad ydynt yn gymwys

Dyma ambell enghraifft arall o gostau na allwch hawlio amdanynt:

  • cynhyrchu a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau
  • gwariant cyfalaf
  • cost y tir
  • cost y patentau a nodau masnach
  • rhent neu ardrethi

Cyfrifo’r credyd gwariant

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r credyd gwariant.

  1. Cyfrifwch y costau y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i’r Ymchwil a Datblygu.

  2. Dylech leihau unrhyw daliadau perthnasol i isgontractwr neu ddarparwr staff allanol i 65% o’r gost wreiddiol.

  3. Ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd.

  4. Lluoswch y ffigur â’r gyfradd credyd gwariant i gyfrifo’r credyd gwariant.

Cyn i chi hawlio

Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn cyn i chi hawlio’r credyd gwariant, neu efallai na fydd eich hawliad yn ddilys.

  1. Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, gwiriwch a oes angen i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad cyn i chi wneud hynny. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddarparu pan fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

  2. O 8 Awst 2023 ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad. Dysgwch am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddarparu, a sut i anfon yr wybodaeth hon, pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth fanwl cyn i chi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Sut i hawlio

Hawliwch gan ddefnyddio Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) a:

  • dangos y credyd gwariant fel incwm trethadwy yn eich cyfrif elw a cholled, neu drwy ei ychwanegu at eich elw yn y ffeil cyfrifiannau iXBRL sengl
  • rhoi ‘X’ ym mlwch 656 i gadarnhau eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad
  • rhoi ‘X’ ym mlwch 657 i roi gwybod i ni eich bod wedi cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol
  • dylech gynnwys eich manylion banc fel y gall CThEF wneud y taliad

Llenwi’r ffurflen atodol CT600L.

Mae arweiniad ar gael i’ch helpu i lenwi (yn Saesneg) eich Ffurflen Dreth y Cwmni.

Os yw’ch hawliad am ryddhad treth yn cwmpasu mwy na 12 mis, cyflwynwch hawliad ar wahân ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Gallwch hawlio rhyddhad treth hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’n berthnasol iddi.

Gwiriwch yr adran ‘Cyn i chi hawlio’ er mwyn gwneud yn siŵr y bydd eich hawliad am ryddhad treth yn ddilys.

Sut i ddefnyddio’r credyd gwariant

Mae’n rhaid i chi ddilyn y camau hyn er mwyn defnyddio’r credyd gwariant cyn i’r swm terfynol gael ei dalu i’ch cwmni.

Cam 1

Defnyddiwch y credyd i setlo eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu. Os yw’r credyd yn golygu bod ad-daliad Treth Gorfforaeth sydd eisoes wedi’i thalu yn ddyledus i chi, bydd y llog yn cael ei gyfrifo ar sail yr olaf i mewn, y cyntaf allan.

Os oes unrhyw gredyd gwariant dros ben, ar ôl setlo eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth, ewch i gam 2.

Os nad oes credyd gwariant ar ôl, does dim rhaid i chi ddilyn cam 2 i gam 7.

Cam 2

Cymharwch swm y credyd gwariant a ddygwyd ymlaen o gam 1 gyda swm net y credyd gwariant rydych wedi’i hawlio. Mae’r ffigur isaf o’r ddau uchod yn cael ei gario i lawr i gam 3.

Os yw’r credyd gwariant a ddygwyd ymlaen yn fwy na’r swm net, mae’n bosibl y bydd yr hyn sydd dros ben naill ai yn cael ei ildio i gwmni arall sy’n rhan o’r grŵp i setlo rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sydd arno i CThEF, neu yn cael ei gario ymlaen i setlo rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth y cwmni yn y dyfodol.

Swm net y credyd gwariant yw’r ffigur rydych wedi’i hawlio, llai Treth Gorfforaeth ar y brif gyfradd.

Cam 3

Cymharwch y credyd gwariant a ddygwyd ymlaen o gam 2 gyda chyfanswm gwariant eich cwmni ar TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y gweithwyr Ymchwil a Datblygu. Mae’r ffigur isaf o’r ddau uchod yn cael ei gario i lawr i gam 4.

Os yw’r credyd gwariant a ddygwyd ymlaen yn fwy na’r cyfanswm a wariwyd ar TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol y gweithwyr Ymchwil a Datblygu, caiff y swm dros ben ei gario ymlaen i gyfnodau yn y dyfodol.

Cam 4

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r swm sy’n weddill i dalu unrhyw rwymedigaethau Treth Gorfforaeth sy’n ddyledus ar gyfer unrhyw gyfnodau cyfrifyddu.

Cam 5

Gallwch ildio’r credyd yn gyfan gwbl neu’n rhannol i unrhyw aelod o’r grŵp. Dim ond i setlo rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yr aelod hwnnw o’r grŵp y gellir defnyddio’r swm a ildiwyd.

Cam 6

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r credyd gwariant i setlo unrhyw rwymedigaethau eraill sydd ar y cwmni, megis TAW neu rwymedigaethau o dan setliad contract.

Cam 7

Mae’r swm terfynol yn cael ei dalu i’ch cwmni.

Cyhoeddwyd ar 1 January 2007
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 July 2023 + show all updates
  1. The 'Staff costs' section has been updated to include the treatment of bonuses and clarify that in some specific circumstances, you can claim for an element of administrative or support staff if they relate to an R&D project. Additional information has been added in step 2 of 'How to use the expenditure credit'. The information on when you must submit an additional information form has been updated from '1 August 2023' to '8 August 2023', and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed in step 2 of section 'Before you claim'.

  2. More information has been added about R&D expenditure credit (RDEC). How to calculate the expenditure credit, how to claim and how to use the expenditure credit have been updated. New sections have been added about expenditure credit rates, how to check what expenditure qualifies for expenditure credit, and what you need to do before you claim the expenditure credit for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.

  3. The 'Overview' section has been updated with information about when R&D expenditure credit can be claimed and to clarify what tax liabilities can be discharged with the credit.

  4. The email address in the 'When you cannot use the online service' section has been updated.

  5. The Research and Development Expenditure Credit rate changed from 12% to 13% on expenditure incurred on or after 1 April 2020.

  6. The Research and Development Expenditure Credit rate changed from 12% to 13%.

  7. Page has been updated with information about your expenditure when working out Research and Development Expenditure Credit

  8. You can now send supporting information for your RDEC claim using an online service - a link to the service and details of what you'll need has been added to this guidance.

  9. The Research and Development Expenditure Credit changed from 11% to 12% on 1 January 2018.

  10. First published.