Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn bwriadu hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) trwy wneud hysbysiad hawlio

Gwiriwch pryd y mae angen i chi roi gwybod i CThEF ymlaen llaw am hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu, pa wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi a sut i’w hanfon.

Pryd i roi gwybod

Os ydych yn bwriadu hawlio rhyddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad os:

  • ydych yn hawlio am y tro cyntaf

  • gwnaethoch eich hawliad diwethaf fwy na 3 blynedd cyn dyddiad olaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad ar gyfer dau gyfnod cyfrifyddu olynol — a hynny os cafodd eich hawliad blaenorol ei gyflwyno yn ystod 6 mis olaf y cyfnod ar gyfer gwneud diwygiadau i’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Bydd yr enghreifftiau hyn yn dangos pryd y mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad, os byddwch yn mynd i gostau Ymchwil a Datblygu naill ai yn ystod un neu ddau gyfnod cyfrifyddu olynol.

Enghraifft 1 — pryd i gyflwyno am gyfnod rhoi cyfrif o 12 mis (un cyfnod cyfrifyddu)

Os yw’r cyfnod rhoi cyfrif, pan fyddwch yn mynd i gostau Ymchwil a Datblygu, yn rhedeg o 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024:

  • diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu yw 1 Ionawr 2024

  • dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu yw 31 Rhagfyr 2024

  • cyflwynwch y ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad rhwng 1 Ionawr 2024 a 30 Mehefin 2025

Enghraifft 2 — pryd i gyflwyno am gyfnod rhoi cyfrif o 15 mis (2 gyfnod cyfrifyddu)

Os yw’r cyfnod rhoi cyfrif, pan fyddwch yn mynd i gostau Ymchwil a Datblygu, yn rhedeg o 1 Ionawr 2024 i 31 Mawrth 2025:

  • dyddiad dechrau’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw 1 Ionawr 2024, a’r dyddiad dod i ben yw 31 Rhagfyr 2024

  • dyddiad dechrau’r ail gyfnod cyfrifyddu yw 1 Ionawr 2025, a’r dyddiad dod i ben yw 31 Mawrth 2025

  • cyflwynwch y ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad rhwng 1 Ionawr 2024 a 30 Medi 2025

Cyn i chi ddechrau

Dilynwch y camau hyn i wirio’ch dealltwriaeth o bryd i gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am hawliad.

Cam 1 — pryd mae eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad

Bydd yr enghraifft hon yn esbonio sut i adnabod eich cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad.

Mae gan gwmni gyfnod rhoi cyfrif a chyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Mae hyn yn golygu mai’r un cyfnod o 12 mis yw’r cyfnod rhoi cyfrif a’r cyfnod cyfrifyddu.

Gall y cwmni roi gwybod i CThEF am ei fwriad i hawlio rhyddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn yn ystod y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad.

Yn yr enghraifft hon, mae’r cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yn:

  • dechrau ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu, sef 1 Ebrill 2025 yn yr achos hwn

  • dod i ben 6 mis ar ôl diwedd y cyfnod rhoi cyfrif y mae’r cyfnod cyfrifyddu sy’n cynnwys yr hawliad yn perthyn iddo, sef 30 Medi 2026 yn yr achos hwn

Cam 2 — gwirio a yw’r eithriad 3 blynedd yn berthnasol

Bydd yr enghraifft hon yn esbonio sut i wirio a yw’r eithriad 3 blynedd yn berthnasol.

Mae’r cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad yn dechrau ar 1 Hydref 2023 ac yn dod i ben ar 30 Medi 2026 (3 blynedd).

Does dim rhaid i gwmni gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am hawliad ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu presennol ar yr amod ei fod wedi gwneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer cyfnod cynharach rywbryd yn ystod y 3 blynedd.

Cam 3 — os nad yw’r eithriad 3 blynedd yn berthnasol

Mae’n bosibl y bydd amgylchiadau penodol pan wneir hawliad perthnasol ar gyfer cyfnod cyfrifyddu cynharach ar ôl dyddiad olaf y cyfnod ar gyfer rhoi gwybod am hawliad ar gyfer y cyfnod presennol.

Ni fyddai’r hawliad hwn yn cael ei ystyried fel rhan o’r eithriad 3 blynedd, ond mae’n bosibl y byddai’n cael ei ystyried fel rhan o’r eithriad cyfnod rhoi cyfrif hir.

Er enghraifft, mae cwmni yn gwneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer cyfnod cynharach, ond yn ei wneud ar 1 Tachwedd 2026 (sef, ar ôl y dyddiad cau arferol ar gyfer gwneud hawliad, ond cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud diwygiadau i Ffurflen Dreth y Cwmni).

Os oes gan gwmni gyfnod rhoi cyfrif hir sy’n cwmpasu’r cyfnod cynharach yn ogystal â’r cyfnod presennol, nid oes angen defnyddio ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am hawliad ar gyfer y cyfnod presennol. Mae hyn oherwydd bod y ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am hawliad yn cwmpasu’r holl gyfnod rhoi cyfrif, ac mae’r eithriad cyfnod rhoi cyfrif hir yn berthnasol.

Os nad oes cyfnod rhoi cyfrif hir, byddai’n rhaid i’r cwmni gyflwyno ffurflen newydd sy’n rhoi gwybod i CThEF am hawliad er mwyn i’r hawliad ar gyfer y flwyddyn bresennol fod yn ddilys.

Os nad ydych wedi rhoi gwybod i ni pan fo’n ofynnol i chi wneud hynny, a’ch bod eisoes wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau y byddwn yn dileu’ch hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu o’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Os ydych wedi hawlio drwy ddefnyddio Ffurflen Dreth y Cwmni ar bapur yn flaenorol, dylech gyflwyno ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad er mwyn osgoi unrhyw ymholiadau neu oedi wrth i CThEF brosesu’ch hawliad.

Pwy sy’n gallu rhoi gwybod

Gallwch lenwi’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad a’i chyflwyno os ydych:

  • yn gynrychiolydd o’r cwmni

  • yn asiant sy’n gweithredu ar ran y cwmni

Pa wybodaeth y bydd ei hangen arnoch

I lenwi’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad, bydd angen y manylion canlynol arnoch:

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer y cwmni — mae’n rhaid i hwn gyfateb i’r un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni

  • y prif uwch gyswllt Ymchwil a Datblygu mewnol yn y cwmni sy’n gyfrifol am yr hawliad Ymchwil a Datblygu, er enghraifft un o gyfarwyddwyr y cwmni

  • manylion cyswllt unrhyw asiant sy’n ymwneud â’r hawliad Ymchwil a Datblygu

  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn hawlio’r rhyddhad treth neu gredyd gwariant ar ei gyfer — rhaid i hwn gyfateb i’r un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni

  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod rhoi cyfrif

  • crynodeb o’r gweithgareddau lefel uchel a gynlluniwyd. Er enghraifft, os ydych wedi datblygu meddalwedd, sut y caiff ei ddefnyddio er mwyn dangos bod y prosiect yn bodloni’r diffiniad safonol o Ymchwil a Datblygu (yn agor tudalen Saesneg) — does dim rhaid i chi gynnwys tystiolaeth ar y ffurflen, ond bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth ar y ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg)

Mae “unrhyw asiant sy’n ymwneud â’r hawliad Ymchwil a Datblygu” yn cynnwys

  • pob asiant sydd wedi rhoi cyngor mewn perthynas ag unrhyw ran o’r hawliad Ymchwil a Datblygu

  • asiantau sydd wedi helpu gyda pharatoi’r hawliad cyfan, neu ran ohono, trwy asesiadau technegol neu drwy ddadansoddi costau

  • asiantau sy’n ymwneud â llunio’r hawliad, gan gynnwys llenwi’r ffurflenni ar-lein a chyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni — neu ddarparu gwybodaeth ar gyfer y naill neu’r llall

Os ydych yn gwsmer sy’n fusnes mawr

I gael gwybodaeth am sut mae CThEF yn delio â hawliadau credyd gwariant ar gyfer cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr, darllenwch CIRD80370 Llawlyfr Ymchwil a Datblygu o ran Asedion Anniriaethol Corfforaethol (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am hawliad, gallwch gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg) gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost cyswllt perthnasol a chan gopïo’ch rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid i’r e-bost.

Cyflwyno’ch ffurflen

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi gyflwyno gan ddefnyddio un o’r canlynol:

  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth — os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un wrth i chi fewngofnodi am y tro cyntaf

  • cyfeiriad e-bost

Ni fyddwch yn gallu cael at y ffurflen unwaith y byddwch wedi ei chyflwyno, felly cadwch gopi cyn gwneud hynny.

Dechrau nawr

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau ein bod wedi cael y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod.

Cadwch nodyn o’r cyfeirnod hwn am y rhesymau canlynol:

  • gallwch drafod eich ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad gyda CThEF

  • os oes angen, gallwn wirio eich bod wedi cyflwyno’ch ffurflen sy’n rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad

Does dim rhaid i chi wneud dim byd arall os byddwch yn penderfynu peidio â pharhau â’ch hawliad.

Sut i hawlio’r rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D)

Os ydych yn penderfynu parhau â’ch hawliad:

Rhagor o wybodaeth am sut i lenwi Ffurflen Dreth y Cwmni.

Newidiadau o 8 Awst 2023 ymlaen

O 8 Awst 2023 ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch holl hawliadau am ryddhad treth neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu. Os na fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol, ni fydd eich hawliad yn ddilys.

Darllenwch yr arweiniad sy’n esbonio sut i anfon y ffurflen gwybodaeth ychwanegol (yn agor tudalen Saesneg) a’r wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi.

Cyhoeddwyd ar 1 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 January 2024 + show all updates
  1. Clarification added of who needs to submit a claim notification form, the statutory deadline for doing so and which agents involved in the claim need to provide contact details.

  2. The guidance on when you must notify and when you may need to notify HMRC by submitting a claim notification form has been clarified. A new section 'Before you start' has been added to help you check your understanding of when to submit a claim notification form. The information on when you must submit an additional information form has been updated from 1 August 2023 to 8 August 2023, and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed.

  3. The dates in example 1 and example 2 in the section 'When you must notify by' have been amended to show the correct periods of account and submission dates.

  4. Added translation