Canllawiau

Rhyddhad Treth Ymchwil a Datblygu: Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys ar gyfer MBaChau sy’n gwneud colled ac wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon

Dysgu a allwch hawlio Cymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys (YG ERIS) fel menter bach a chanolig (MBaCH) sy’n gwneud colledion yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Deddf Cyllid 2025 yn darparu ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (MBaChau) sy’n gwneud colledion, sy’n ddwys o ran Ymchwil a Datblygu, ac sydd â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r darpariaethau hyn yn dod i rym ar gyfer hawliadau a wnaed ar neu ar ôl 30 Hydref 2024.

Gallwch ddewis optio allan o’r darpariaethau hyn os ydych yn MBaCh sydd â swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon ac nid yw’ch gweithgarwch busnes yn ymwneud â masnachu nwyddau, na gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â thrydan. Gallwch roi gwybod i CThEF os ydych am optio allan pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad Ymchwil a Datblygu.

Os yw’ch cwmni yn cael ei effeithio gan y darpariaethau hyn, nid ydych yn agored i gyfyngiadau ar ryddhad ar daliadau i gontractwyr tramor neu i ddarparwyr gweithwyr a ddarperir yn allanol. Byddwch yn gallu hawlio ERIS, yn amodol ar derfyn o 3 blynedd. Uwchlaw’r terfyn hwn, mae rhyddhad credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) ar gael (i gwmnïau sy’n bodloni’r amodau cymhwystra) o dan y cynllun cyfun newydd.

Dylech ddarllen yr arweiniad hwn os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn MBaCh sy’n hawlio ERIS
  • mae’ch swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon
  • mae gennych un o’r canlynol:
    • masnach mewn nwyddau, neu fasnach sy’n cynnwys gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â thrydan
    • dim masnach mewn nwyddau, ac nid yw’ch masnach yn cynnwys gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â thrydan, ond nid ydych wedi penderfynu optio allan drwy roi gwybod i CThEF

Gweithgareddau perthnasol yw cynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu, cyflenwi, masnachu cyfanwerthu a chyfnewid trydan trawsffiniol.

Pwy all optio allan

Gallwch optio allan o ddarpariaethau ERIS Gogledd Iwerddon os yw’ch gweithgarwch busnes yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw elfen o fasnach mewn nwyddau
  • dim gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â’r farchnad drydan

Bydd angen i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ategu’ch hawliad Ymchwil a Datblygu.

Os byddwch yn gwneud hyn, bydd y cyfyngiadau tramor yn berthnasol, ond ni fydd y terfyn ar swm y rhyddhad sydd ar gael mewn cyfnod o 3 blynedd yn berthnasol.

Cyfyngiadau tramor

Ar gyfer cwmnïau sy’n cael eu heffeithio: os ydych yn hawlio o dan ERIS, ni fydd y cyfyngiadau o ran rhyddhad ar gyfer gwariant tramor sy’n ymwneud ag Ymchwil a Datblygu sydd wedi’i gontractio allan a gweithwyr a ddarperir yn allanol (a nodwyd o dan s1138A o Ddeddf Treth Gorfforaeth (CTA) 2009) yn berthnasol.

Bydd y cyfyngiadau sy’n cyfyngu hawliadau am y gwariant hwn (oni bai am ambell eithriad) yn berthnasol ar gyfer unrhyw symiau gweddilliol y mae Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu yn cael eu hawlio ar eu cyfer o dan y cynllun cyfun.

Beth yw masnach mewn nwyddau

Mae gennych fasnach mewn nwyddau os yw unrhyw un o’ch gweithgareddau busnes yn cynnwys unrhyw elfen o fasnachu mewn nwyddau.

Os nad ydych yn siŵr, dylech fynd ymlaen ar y sail eich bod yn masnachu mewn nwyddau.

Gweithgareddau perthnasol mewn perthynas â’r farchnad drydan

Gweithgareddau perthnasol yw cynhyrchu, trosglwyddo, dosbarthu, cyflenwi, masnachu cyfanwerthu a chyfnewid trydan trawsffiniol.

Faint y gallwch ei hawlio o dan ERIS

Rhyddhad ERIS yw cymorth gwladwriaethol de minimis. Mae terfyn i’r swm o gymorth gwladwriaethol de minimis y gall busnes ei gael o fewn cyfnod penodol. Mae’r terfyn amser o 3 blynedd yn gymwys i gyfanswm y rhyddhad ychwanegol a gafwyd gan y busnes o dan gynllun ERIS, ac unrhyw gymorth de minimis arall a gafwyd gan y cwmnïau yn y grŵp.

Ni all y swm hwn fod yn fwy na €300,000 (ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau).

Ceir terfynau is ar gyfer rhai busnesau, er enghraifft y rhai sydd â’u prif weithgarwch yn y sector amaethyddiaeth neu bysgodfeydd. Gallwch gysylltu â CThEF am gymorth drwy e-bostio randd.policy@hmrc.gov.uk.

Gallwch ddysgu rhagor am gymorth Ymchwil a Datblygu dwys ar CIRD12500 – Rhyddhadau Treth Ymchwil a Datblygu: rhyddhadau diwygiedig: ERIS: cwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

Ystyr cymorth gwladwriaethol de minimis yw cymorth a ddarperir o dan unrhyw un o nifer o reoliadau’r UE. O bryd i’w gilydd, mae’r rheoliadau’n cael eu diwygio neu ddisodli; ar adeg cyhoeddi’r arweiniad hwn (19 Mawrth 2025), mae’r rheoliadau canlynol yr UE yn berthnasol:

Swm y buddiant ychwanegol ar gyfer hawliad ERIS penodol yw’r swm y mae buddiant yr hawliad o dan ERIS yn fwy na buddiant yr hawliad cyfatebol am gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu (RDEC) o dan y cynllun cyfunol.

Cyfrifiad i gyfrifo’r buddiant ychwanegol 

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo’r buddiant ychwanegol.

  1. Adiwch yr holl fudd-daliadau a ddaeth o’r hawliad at ei gilydd.

  2. Tynnwch werth net yr RDEC – yr hyn y byddai’r cwmni wedi bod yn gymwys iddo os oedd y treuliau wedi’u hawlio o dan Bennod 1A o Ran 13 o Ddeddf Treth Gorfforaeth (2009). Dyma’r trydydd swm sy’n cael ei gwmpasu o dan adran 1042K o Ddeddf Treth Gorfforaeth (2009), swm cychwynnol y credyd gwariant, minws y didyniad treth dybiannol.

Dylech gynnwys swm y buddiannau canlynol yn eich cyfrifiad:

  • swm y credyd treth Ymchwil a Datblygu y mae gan y cwmni hawl iddo, ac y mae’n ei hawlio, am y cyfnod
  • swm unrhyw ostyngiad i rwymedigaeth unrhyw gwmni arall o ran talu treth gorfforaeth yn ystod y cyfnod, a hynny o ganlyniad i golled sydd:
    • yn codi o ganlyniad i ryddhad Pennod 2 a gafwyd gan y cwmni am y cyfnod
    • yn cael ei ildio gan y cwmni i’r cwmni arall o dan Ran 5 neu 5A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (ildio rhyddhad rhwng aelodau o grwpiau a chonsortia)
  • swm y gostyngiad i rwymedigaeth y cwmni o ran talu treth gorfforaeth yn ystod unrhyw gyfnod cyfrifyddu yn y dyfodol, a hynny o ganlyniad i unrhyw golledion a ddygwyd ymlaen o’r cyfnod presennol oherwydd yr hawliad ERIS

I gyfrifo’r terfyn amser o 3 blynedd

Dylech wneud y cyfrifiad sy’n ymddangos yn yr adran, ‘cyfrifiad i gyfrifo buddiant ychwanegol’ ar gyfer hawliadau ERIS a wnaed yn ystod unrhyw gyfnod cyfrifyddu blaenorol y cwmni, hynny yw’r cyfnodau a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, ac a ddaeth i ben o fewn y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben ar y diwrnod y gwnaed yr hawliad.

Dylech ychwanegu gwerth yr holl gymorth de minimis yr ydych wedi cael yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu gan unrhyw fusnes yn y grŵp i’r swm hyn. Er enghraifft, swm unrhyw grant sy’n cael ei gyfrif fel cymorth de minimis. Yna, dylech wneud hyn ar gyfer yr holl symiau y cawsoch yn ystod y 3 blynedd sy’n dod i ben ar y diwrnod y gwnaed yr hawliad.

Os yr ydych yn ansicr a yw’r swm a gawsoch yn gymorth de minimis neu beidio, dylech ofyn i’r person neu’r awdurdod a wnaeth ddarparu’r swm.

Dylai hwn gynnwys unrhyw fuddiannau ERIS y cawsoch gan unrhyw gwmni, er enghraifft os yw’r cwmni arall yn hawlio ERIS ei hun.

Ni ddylai’r ffigur canlyniadol (yr holl fuddiannau, llai yr RDEC) fod yn uwch na’r terfyn ar gyfer y cwmni (darllenwch yr adran ‘How much you can claim under ERIS’).

Ni chaniateir hawliadau am ERIS sy’n mynd dros y terfyn hwn. Mae gan CThEF y pŵer i fynd i’r afael ag unrhyw anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth. Os byddwch yn cyflwyno hawliad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn dod yn agored i gosbau ar sail y dreth. Bydd y swm llawn sy’n dod o dan gymorth de minimis yn cael ei dynnu os yw’r swm yn mynd y tu hwnt i’r terfyn ar gyfer cymorth gwladwriaethol.

Rhyddhad y gallwch ei gael am wariant na allwch ei hawlio o dan ERIS

Os oes unrhyw wariant na allwch hawlio ERIS ar ei gyfer, oherwydd y bydd mynd â chi dros y terfyn, efallai y gallwch hawlio RDEC am y gwariant hwn o dan gynllun cyfun newydd, os ydych yn bodloni’r rheolau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth ychwanegol o ran Ymchwil a Datblygu dwys yn:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mawrth 2025 show all updates
  1. The 'How much you can claim under ERIS' section has been updated and 2 new sections added on 'Calculation to work out the additional benefit' and 'To work out the 3-year limit'.

  2. Added translation

  3. We have updated the guidance in line with the Autumn Finance Bill 2024 which makes provision for loss-making, R&D intensive, SMEs that have a registered office in Northern Ireland. These provisions take effect for claims made on or after 30 October 2024.

  4. Added Welsh translation. The paragraph cited from The Research and Development (R&D) Relief (Chapter 2 Relief) Regulations 2024 has been corrected to paragraph (3)(b) of regulation 2.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon