Canllawiau

Gwirio a yw prosiect yn cynnwys gweithgareddau sy’n gymwys fel Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddysgu a yw’ch prosiect yn cynnwys Ymchwil a Datblygu (R&D) at ddibenion treth.

Mae rhyddhadau treth Ymchwil a Datblygu yn rhoi cymorth i gwmnïau yn y DU sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg.

I hawlio’r rhyddhadau treth yma, mae’n rhaid i’ch prosiect fodloni meini prawf penodol. Mae gweithgaredd dim ond yn gymhwysol os yw’n bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth.

Bydd yr offeryn hwn:

  • yn eich helpu os ydych yn hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu am y tro cyntaf, neu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch
  • yn rhoi safbwynt CThEF o ran p’un a yw’ch prosiect yn cynnwys Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth, a hynny ar sail yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi

Bydd angen i chi gwblhau’r offeryn gan ystyried ffeithiau pob prosiect yn unigol.

Gallwch ddefnyddio’r offeryn i’ch helpu i wneud y canlynol:

  • deall cysyniadau allweddol ynglŷn â pha brosiectau sy’n bodloni’r amodau ar gyfer Ymchwil a Datblygu
  • gwirio’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi cyn i chi wneud hawliad
  • gwirio a yw’ch prosiect yn cynnwys Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth

Mae hefyd gan yr offeryn gysylltiadau i’ch cynorthwyo drwy gydol y broses. Dylech ddarllen yr arweiniad ar y cwestiynau hynny cyn ateb. Mae hyn er mwyn sicrhau’r canlyniad cywir i chi ar gyfer pob prosiect.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen gweithiwr proffesiynol cymwys arnoch i ateb rhai o’r cwestiynau yn yr offeryn.

Gallwch ddarllen rhagor am bwysigrwydd gweithiwr proffesiynol cymwys (yn agor tudalen Saesneg). Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • pwy sy’n cael ei ystyried yn weithiwr proffesiynol cymwys
  • tystiolaeth o fod yn weithiwr proffesiynol cymwys
  • barn gweithiwr proffesiynol cymwys

Mae blwch testun rhydd opsiynol ar gael wrth gadw neu argraffu eich canlyniad. Mae hyn er mwyn i chi gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol, ac mae’n bosibl y gall eich helpu wrth i chi baratoi i wneud hawliad Ymchwil a Datblygu.

Ni fydd yr wybodaeth a roddir gennych yn cael ei chadw na’i defnyddio gan CThEF a does dim angen i chi roi unrhyw fanylion personol er mwyn defnyddio’r arweiniad hwn.

Gwirio a yw’ch prosiect yn gymwys

Os nad ydych yn siŵr a yw’ch prosiect yn cynnwys Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth, gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio.

Gwirio nawr

Ar ôl i chi ddefnyddio’r offeryn

Mae CThEF yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn:

  • cadw neu argraffu eich canlyniad
  • cadw cofnod o’r wybodaeth a ddefnyddiwyd gennych i ateb pob cwestiwn

Bydd hyn yn eich helpu wrth i chi wneud hawliad ac os bydd gwiriad cydymffurfio yn cael ei agor ar gyfer yr hawliad hwnnw.

Os yw’ch atebion yn yr offeryn yn seiliedig ar ffeithiau eich prosiect ac y gallwch gefnogi ac egluro’r ffeithiau hynny, yna rydym yn annhebygol o anghytuno ei fod yn cynnwys gweithgareddau Ymchwil a Datblygu. Os byddwn yn anghytuno, byddwn yn esbonio pam.

Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr offeryn, efallai yr hoffech geisio cyngor proffesiynol gan ymgynghorydd treth cymwys.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf

Os yw’ch prosiect yn gymwys fel Ymchwil a Datblygu at ddibenion treth, nid yw hyn bob amser yn golygu y gallwch hawlio rhyddhad treth ar yr holl gostau sy’n gysylltiedig ag Ymchwil a Datblygu.

Bydd angen i chi ddilyn yr arweiniad ar gyfer hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Y cam nesaf i chi yw gwirio pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.

Rhagor o wybodaeth

I gael cymorth ychwanegol, gallwch wirio’r arweiniad i weld a yw’r gwaith yr ydych yn ei wneud yn gymwys fel Ymchwil a Datblygu (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • diben, cwmpas a chefndir
  • disgwyliadau’r hawlwyr
  • pwysigrwydd gweithiwr proffesiynol cymwys
  • sut i adnabod gweithgareddau Ymchwil a Datblygu sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysol
  • y dull o weithredu a argymhellir ar gyfer gwneud hawliadau a chadw cofnodion

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2025

Argraffu'r dudalen hon