Rhoi gwybod am safonau gwasanaeth gwael mewn perthynas â rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu
Sut i roi gwybod am safonau gwasanaeth gwael mewn perthynas â hawliadau rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) os ydych chi’n asiant.
Os ydych chi’n asiant (neu’n weithiwr proffesiynol yn y maes cyfrifyddu) ac rydych yn amau bod asiant arall yn cynnig safonau gwasanaeth gwael mewn perthynas â rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D), megis:
- rhoi gwybodaeth gamarweiniol
- bod â gwybodaeth dechnegol wael
- ymddygiad anonest
Gallwch roi gwybod i CThEF amdano. Bydd gwneud hyn yn ein helpu i leihau camgymeriadau a thwyll.
Sut i wneud cwyn am asiant
Er mwyn gwneud cwyn am asiant, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- eich enw
- y cwmni rydych yn gweithio iddo
- enw’r asiant rydych yn ei amau
- manylion am yr hyn a ddigwyddodd a phryd y digwyddodd (os yw’n hysbys)
Anfonwch yr wybodaeth hon drwy e-bost i: wmbciandrclaimstandards@hmrc.gov.uk.
Gallwch hefyd ychwanegu rhagor o fanylion at y cwyn, megis graddfa’r broblem a’r effaith y mae’n ei chael, os ydych o’r farn ei fod yn berthnasol.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Unwaith y byddwn wedi cael eich cwyn, byddwn yn:
- adolygu’r wybodaeth
- cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion arnom
- penderfynu a allwn ymchwilio
Oherwydd cyfrinachedd, ni fyddwn yn dweud wrthych os byddwn yn penderfynu ymchwilio.
Ni fyddwn yn ymateb chwaith os defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn at unrhyw ddiben arall.