Canllawiau

Gwirio os ydych mewn perygl o arbed treth

Dysgwch sut i wirio’ch risg o fod yn rhan o arbed treth os ydych yn weithiwr asiantaeth neu’n gontractwr sy’n gweithio drwy gwmni ambarél.

Defnyddiwch y gwiriwr risg rhyngweithiol i ddarganfod a allai’ch trefniadau cyflogaeth gynnwys arbed treth.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn os ydych chi’n gweithio drwy gwmni ambarél. Os ydych chi’n ansicr, gallwch gael gwybod a ydych chi’n gweithio drwy gwmni ambarél drwy wirio’ch:

Dysgwch ragor am yr hyn i’w ddisgwyl wrth weithio drwy gwmni ambarél (yn Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Casglwch y dogfennau y gallai fod eu hangen arnoch. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc
  • contractau neu gytundebau cyflogaeth
  • dogfen gwybodaeth allweddol
  • cyngor ar dalu
  • unrhyw ddogfennau eraill sydd gennych sy’n ymwneud â’ch trefniadau cyflogaeth

Dydy’r rhestr hon ddim yn gynhwysfawr.

Sut i wirio

Mae’r gwiriwr risg rhyngweithiol hwn ond yn cwmpasu’r arwyddion mwyaf cyffredin o arbed treth i fod yn wyliadwrus ohonynt.

Does dim angen i chi roi unrhyw fanylion personol, fel eich enw neu’ch cyfeiriad, wrth ddefnyddio’r gwiriwr hwn.

Dechrau nawr

Cyhoeddwyd ar 18 November 2021