Datrys problemau gyda rhedeg cyflogres
Gwnaethoch dalu’r swm anghywir i’ch cyflogai neu gwnaethoch y didyniadau anghywir
Gallwch gywiro camgymeriad gyda chyflog neu ddidyniadau cyflogai drwy ddiweddaru’r ffigurau blwyddyn hyd yma yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) rheolaidd nesaf.
Gallwch hefyd ei gywiro drwy anfon FPS ychwanegol cyn bod eich FPS rheolaidd nesaf yn ddyledus. Mae angen i chi wneud y canlynol:
- diweddarwch y ffigurau ar gyfer ‘y cyfnod cyflog hwn’ gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir
- cywirwch y ffigurau am y flwyddyn hyd yma
- rhowch yr un dyddiad talu â’r FPS gwreiddiol
- rhowch yr un amlder talu â’r FPS gwreiddiol - rhowch ‘H
- Cywiriad i gyflwyniad cynharach’ yn y maes ar gyfer ‘nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr’
Cywiro buddiant marwolaeth pensiwn neu daliad hyblyg
Os ydych yn weinyddwr pensiwn y mae angen iddo gywiro taliad hyblyg neu daliad buddiant marwolaeth, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- dewis y dynodydd ar gyfer taliad pensiwn hyblyg neu’r dynodydd ar gyfer taliad buddiant marwolaeth pensiwn
- ewch ati i ddiweddaru’r maes ‘taliad trethadwy’r pensiynau a godir o’r gronfa’, neu’r maes ar gyfer ‘taliad anhrethadwy’r pensiynau a godir o’r gronfa’ (neu’r ddau), gan nodi’r gwahaniaeth rhwng yr hyn y gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r ffigurau cywir
Os gwnaethoch dandalu’ch cyflogai
Talwch yr un swm i’ch cyflogai â’r un a dandalwyd gennych. Ar neu cyn diwrnod y taliad hwn, anfonwch FPS ychwanegol gyda’r canlynol:
- y gwahaniaeth rhwng yr hyn y gwnaethoch roi gwybod amdano yn wreiddiol a’r swm cywir yn y maes ‘yn y cyfnod cyflog hwn’
- ffigurau wedi’u diweddaru am y flwyddyn hyd yma
- ‘H - Cywiriad i gyflwyniad cynharach yn y maes ar gyfer nodi’r rheswm dros gyflwyno’n hwyr
Cywiro didyniadau Yswiriant Gwladol cyflogai
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.
Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y flwyddyn dreth hon
Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich FPS rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.
Os na wnaethoch ddidynnu digon, ni allwch adennill mwy na chyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogai a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.
Enghraifft
Gwnaethoch ddidynnu £100 yn rhy ychydig ym mis Ionawr. Ym mis Chwefror, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad Yswiriant Gwladol o £80. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £80 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £160).
Adenillwch yr £20 sy’n weddill mewn mis arall.
Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y blynyddoedd treth rhwng 6 Ebrill 2020 a 5 Ebrill 2026
Anfonwch FPS gyda’r swm y dylech fod wedi ei ddidynnu.
Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’r gwahaniaeth yn negyddol oherwydd eich bod wedi didynnu gormod o Yswiriant Gwladol, neu wedi rhoi gwybod am ormod ohono
- mae arnoch ad-daliad i’ch cyflogai o hyd, er enghraifft, oherwydd ei fod wedi gadael eich cyflogaeth
Yn eich llythyr bydd angen i chi gynnwys y canlynol:
- y cyfeirnod ‘Cyfraniadau YG a ordalwyd’
- enw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol eich cyflogai
- pam y gwnaethoch ordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- ym mha flynyddoedd treth y gwnaethoch ordalu
- faint o Yswiriant Gwladol y gwnaethoch ei ordalu
- pam na allwch wneud y taliad i’r cyflogai
I hawlio ar gyfer un cyflogai, anfonwch y llythyr at:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
BX9 1ST
I hawlio ar gyfer mwy nag un cyflogai, anfonwch y llythyr i:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
BX9 1ST
Os oes tandaliad
Os na wnaethoch ddidynnu digon o Yswiriant Gwladol, talwch y tandaliad i CThEF ar unwaith. Gallwch adennill y swm oddi wrth eich cyflogai drwy wneud didyniadau o’i gyflog.
Ni allwch adennill mwy na swm yr Yswiriant Gwladol sydd ar y cyflogai mewn mis (fel nad yw’r cyflogai’n talu mwy na dwbl ei gyfraniad arferol). Trosglwyddwch y gwahaniaeth i fisoedd hwyrach - gallwch ond gwneud didyniadau yn y flwyddyn dreth pan wnaethoch y camgymeriad a’r flwyddyn ar ôl hynny.
Cywiro ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr cyflogai
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar bryd gwnaethoch y camgymeriad.
Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod y flwyddyn dreth hon
Ad-dalwch neu didynnwch y balans oddi wrth eich cyflogai. Diweddarwch y ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd yma i’r swm cywir yn eich FPS rheolaidd nesaf neu anfonwch FPS ychwanegol.
Os na wnaethoch ddidynnu digon, ni allwch adennill mwy na’r ad-daliad benthyciad myfyriwr a oedd yn ddyledus y mis hwnnw.
Enghraifft
Gwnaethoch ddidynnu £50 yn rhy ychydig ym mis Mehefin. Ym mis Gorffennaf, mae’ch meddalwedd yn cyfrifo didyniad benthyciad myfyriwr o £30. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu adennill hyd at £30 tuag at dandaliad y mis hwnnw (didyniad sy’n dod i gyfanswm o £60).
Adenillwch yr £20 sy’n weddill mewn mis arall.
Os digwyddodd y camgymeriad yn ystod blynyddoedd treth blaenorol
Does dim rhaid i chi gymryd unrhyw gamau pellach os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:
- rydych wedi didynnu swm sydd yn rhy ychydig
- rydych eisoes wedi cyflwyno eich FPS terfynol ar gyfer y flwyddyn honno
Dylai’ch cyflogai gysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i weld sut mae’n effeithio arno.
Os gwnaethoch ddidynnu gormod, ac nid ydych wedi anfon eich FPS terfynol ar gyfer y flwyddyn honno, gallwch ad-dalu eich cyflogai. Anfonwch FPS gyda’r ffigur cywir ar gyfer ad-daliad benthyciad myfyriwr am y flwyddyn hyd yma fel yr oedd ar 5 Ebrill ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.