Rhifyn mis Ebrill 2026 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 15 Ebrill 2026
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
-
Gwella’r broses ad-dalu Yswiriant Gwladol ar gyfer hawliadau am fwy nag un cyflogai
-
Alinio hysbysiadau TWE â’r terfyn Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor
-
Diweddariadau negeseuon testun ar gyfer cwsmeriaid Cytundeb Setliad TWE
-
Cynyddodd cyfradd iawndal Rhyddhad Cyflogwyr Bach o 8.5% i 9%
-
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026
-
Nodyn atgoffa o ddyddiadau a phrosesau allweddol ar gyfer rhoi gwybod am Fuddiannau (BiKs)
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
-
Dileu’r rhyddhad treth ar gyfer treuliau gweithio gartref nad ydynt yn cael eu had-dalu
-
Cynllun y Diwydiant Adeiladu — Gweithredu diwygiadau ym mis Ebrill 2026
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
-
Ffordd symlach o dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC)
-
Newidiadau i Dâl Salwch Statudol — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Gwella’r broses ad-dalu Yswiriant Gwladol ar gyfer hawliadau am fwy nag un cyflogai
Mae CThEF yn bwriadu cyflwyno awtomeiddio yn fuan i brosesu ad-daliadau Yswiriant Gwladol na ellir eu cywiro drwy RTI. Bydd y newid hwn yn symleiddio sut mae CThEF yn trin yr achosion hyn yn fewnol a bydd yn ein helpu i brosesu ad-daliadau cymeradwy yn fwy effeithlon.
Unwaith y bydd y swyddogaeth hon yn fyw, bydd CThEF yn ad-dalu ad-daliadau cymeradwy drwy roi credyd i’ch cyfrif TWE ar-lein, gan ddisodli’r dull presennol o anfon ad-daliadau drwy drosglwyddiad banc.
Nid oes unrhyw newid i sut rydych yn cyflwyno hawliad.
Dylai cyflogwyr barhau i ddilyn yr arweiniad i gywiro didyniadau Yswiriant Gwladol cyflogai (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd CThEF yn darparu diweddariadau pellach wrth i’r broses weithredu fynd rhagddo.
Cyfraddau newydd ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yn ôl y gyfraith, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yw’r cyfraddau fesul awr isaf y mae’n rhaid i chi eu talu i’ch gweithwyr, waeth faint o bobl rydych yn eu cyflogi.
Mae’r cyfraddau’n cynyddu ar 1 Ebrill bob blwyddyn dreth. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfraddau newydd o’r cyfnod talu cyntaf sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026.
Darllenwch am gyfraddau newydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg).
Osgowch gamgymeriadau wrth gymhwyso’r cyfraddau
Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn fwy na dim ond cyfraddau fesul awr – cyfrifiadau ydyn nhw. Heb sylweddoli hynny, mae llawer o gyflogwyr yn tandalu eu cyflogau oherwydd eu bod yn gwneud camgymeriadau wrth gyfrifo’r cyfraddau. Er enghraifft, gwneud didyniadau sy’n gostwng cyflog gweithwyr islaw’r isafswm cyflog, neu beidio â thalu am eu holl amser gwaith.
Mae gweminarau ar gael yn allanol ar wefan GoToStage.com (yn agor tudalen Saesneg) i’ch helpu gyda’r canlynol:
- paratoi ar gyfer y cynnydd i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- Gwaith cyflogedig — oriau dros ben
- Aberth Cyflog a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- amser gwaith a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- helpu cyflogwyr i gael pethau’n iawn
- Camgymeriadau cyffredin yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a sut i’w hadnabod
Alinio hysbysiadau TWE â’r terfyn Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor
Gall cyflogwyr sydd â chyflogeion cymwys gyflwyno ffurflen hysbysu TWE (yn agor tudalen Saesneg), a elwir yn ‘adran 690’ yn flaenorol, i roi gwybod i CThEF mai dim ond i ran o incwm cyflogai sy’n symud yn fyd-eang y byddant yn cymhwyso TWE.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, pan gyflwynir ffurflen hysbysu TWE ar gyfer cyflogai sy’n breswylydd newydd gymwys (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer Rhyddhad Diwrnod Gwaith Tramor (yn agor tudalen Saesneg) (OWR), mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau mai’r ganran a nodir yw’r amcangyfrif gorau o enillion nad ydynt yn y DU, ac felly nid yn TWE, ac nad yw’n fwy na 30%. Bydd y terfyn hwn yn lleihau tandaliadau posibl, gan fod 30% yn adlewyrchu’r ganran uchaf o ryddhad treth y gellir ei hawlio o dan OWR trwy Ffurflen Dreth Hunanasesiad y cyflogai.
Mae enghraifft wedi’i nodi yn y llawlyfr PAYE81517 (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r newid hwn yn berthnasol i hysbysiadau TWE ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027 ymlaen. Nid yw’n berthnasol i gyflogeion sy’n agored i ddarpariaethau trosiannol. Darllenwch am ddarpariaethau trosiannol yn y llawlyfr EIM43605 (yn agor tudalen Saesneg).
Diweddariadau arfaethedig i TWE ar-lein i gyflogwyr
Dyraniadau credyd
Mae tudalen dyrannu credyd newydd yn cael ei datblygu. Mae’n debyg i’r dudalen hanes taliadau presennol gyda thudalennau dadansoddiad blynyddol a misol yn parhau i ddangos i ble mae credydau wedi’u dyrannu.
Fodd bynnag, bydd y dudalen dyrannu credydau newydd yn dangos o ble y cododd y credyd, yn ogystal â ble y mae wedi’i ddyrannu. Bydd yn fyw cyn diwedd mis Ebrill 2026.
Addasiadau Diwedd Blwyddyn Dreth
Dim ond cyfran fach o gyflogwyr sydd angen gwneud addasiadau diwedd blwyddyn dreth. Bydd angen i nifer fach o’r rhain wneud sawl addasiad. Dim ond cyfanswm yr holl addasiadau diwedd blwyddyn dreth, ynghyd â llog, a ddangosir ar y dudalen datganiad blynyddol presennol. Gallai’r ffigur hwn gynnwys un addasiad, neu sawl addasiad a nifer o daliadau llog ar wahân. Er mwyn helpu i wneud pethau’n gliriach, byddwn yn cyflwyno cysylltiad ychwanegol sy’n darparu crynodeb o’r taliadau, ynghyd â dadansoddiad o bob tâl sydd wedi’i gynnwys yn y crynodeb. Dylai hyn fod yn fyw o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich dyraniad credyd neu addasiad diwedd blwyddyn dreth, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, lle bydd y staff profiadol yn gallu eich cynorthwyo.
Diweddariadau negeseuon testun ar gyfer cwsmeriaid Cytundeb Setliad TWE
O 2 Mawrth 2026 ymlaen, bydd CThEF yn anfon diweddariadau negeseuon testun at rai cwsmeriaid yn rhoi gwybod iddynt am gynnydd eu hymholiad Cytundeb Setliad TWE.
Bydd y negeseuon yn cadarnhau’r camau a gymerwyd mewn ymateb i gyswllt cwsmeriaid yngylch cytundebau, diwygiadau, canslo a chyfrifiadau.
Gallwch wirio a yw neges destun sydd wedi dod i law gan CThEF yn ddilys ar-lein.
Cynyddodd cyfradd iawndal Rhyddhad Cyflogwyr Bach o 8.5% i 9%
Cynyddodd y gyfradd i 9% ar 6 Ebrill 2026. Gall cyflogwyr sy’n gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwyr Bach — os ydynt wedi talu £45,000 neu lai yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, adennill 100% o’r holl daliadau statudol y maent yn eu talu, ynghyd ag iawndal ychwanegol o 9%. Mae hyn yn golygu y gall cyflogwyr bach adennill 109% o CThEF erbyn hyn. Yr unig eithriad yw Tâl Salwch Statudol, na ellir ei adennill.
Mae’r gyfradd iawndal yn berthnasol i’r canlynol:
-
Taliadau Mamolaeth Statudol
-
Taliadau Tadolaeth Statudol
-
Taliadau Mabwysiadu Statudol
-
Taliadau Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
-
Taliadau Gofal Newyddenedigol Statudol
-
Taliadau ar y Cyd i Rieni
Gall pob cyflogwr arall, sy’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, adennill 92% o’r hyn y maent yn ei dalu yn y taliadau statudol.
Darllenwch am y canlynol:
-
Lwfans Cyflogaeth — beth fyddwch yn ei gael a gwiriwch a ydych yn gymwys (yn agor tudalen Saesneg)
-
Lwfans Cyflogaeth — arweiniad pellach i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) gan gynnwys manylion am gwmnïau cysylltiedig, elusennau cysylltiedig, cwmnïau sydd â dim ond un cyfarwyddwr, cyflogwyr gweithwyr gofal a chymorth
-
cael cymorth ariannol gyda thâl statudol — yr hyn y gallwch ei hawlio
Cyflwyno hawl i daliad yn sgil camesgoriad newydd a hawliau diwrnod cyntaf ar gyfer Absenoldeb a Thâl i Rieni mewn Profedigaeth yng Ngogledd Iwerddon
Mae Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i Absenoldeb a Thâl i Rieni mewn Profedigaeth. Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i rieni sy’n dioddef colli plentyn o dan 18 oed, gan gynnwys marw-enedigaeth o 24 wythnos o feichiogrwydd, ac maent bellach yn ymestyn i hawl i gamesgoriad, sy’n cynnwys colled ddigymell ac ymyriadau meddygol penodedig.
Yn weithredol o 6 Ebrill 2026 ymlaen, dim ond i gyflogeion Gogledd Iwerddon y bydd newidiadau hyn yn berthnasol: Mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys ym Mwletin y Cyflogwr mis Chwefror.
Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig
Trothwyon a chyfraddau benthyciadau myfyrwyr
Y cynllun benthyciad myfyrwyr newydd a’r trothwyon a chyfraddau benthyciad ôl-raddedig o 6 Ebrill 2026 ymlaen yw:
- Cynllun 1 — £26,900
- Cynllun 2 — £29,385
- Cynllun 4 — £33,795
- Cynllun 5 — £25,000
- benthyciad ôl-raddedig — £21,000
Cyfradd didyniadau o 6 Ebrill 2026 ymlaen ar gyfer:
- Cynlluniau 1, 2, 4 a 5 yn aros ar 9% ar gyfer unrhyw enillion sy’n uwch na’r trothwyon perthnasol
- mae benthyciadau ôl-raddedig yn aros ar 6% ar gyfer unrhyw enillion sy’n uwch na’r trothwy
Mae’r arweiniad i gyflogwyr ynghylch ad-dalu benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ôl-raddedig i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u diweddaru gyda’r trothwyon newydd.
Hysbysiadau Dechrau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig
Os cewch hysbysiad dechrau benthyciad myfyriwr a/neu hysbysiad dechrau benthyciad ôl-raddedig (SL1 neuPGL1) oddi wrth CThEF neu’ch cyflogai, mae’n bwysig eich bod yn gwirio ac yn defnyddio’r fersiwn gywir o’r canlynol:
- y math o fenthyciad neu gynllun ar yr hysbysiad dechrau
- y dyddiad dechrau a ddangosir ar yr hysbysiad
Mae hyn yn sicrhau nad yw cyflogeion yn talu mwy na llai na’r hyn a ddylai.
Os yw enillion y cyflogai’n:
- is na’r trothwyon benthyciad myfyrwyr a benthyciad ôl-raddedig priodol, dylech ddiweddaru cofnod cyflogres y cyflogai i ddangos bod ganddo fenthyciad myfyriwr, benthyciad ôl-raddedig, neu’r ddau a chyflwyno’r hysbysiad dechrau — nid oes angen i chi ddychwelyd hyn i CThEF
- yn uwch na’r trothwyon benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig priodol, ac nad yw didyniadau wedi’u cymryd, bydd CThEF yn anfon proc gwasanaeth hysbysu fel nodyn atgoffa — os nad yw didyniadau wedi dechrau o hyd, gallwn gysylltu â chi’n uniongyrchol
Dylai didyniadau barhau hyd nes y bydd CThEF yn dweud wrthych am roi’r gorau i’w didynnu.
Mae’n bwysig gwirio bod gan CThEF eich gohebiaeth a’ch cyfeiriad e-bost cywir.
Darllenwch am arweiniad i gyflogwyr ynghylch ad-daliadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig (yn agor tudalen Saesneg) gan gynnwys gwybodaeth am gael hysbysiad dechrau.
Diweddariadau ar y rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn - benthyciadau myfyrwyr
Mae’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn at ddibenion TWE wedi’i diweddaru i gynnwys Cynllun 5 ac i egluro opsiynau ar gyfer cwsmeriaid sydd â sawl math o fenthyciadau.
Mae newidiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- blwch ticio ‘Cynllun 5’ yn cael ei ychwanegu at y PDF a’r fersiwn ar-lein
- cadarnhad mai dim ond un math o gynllun ‘1,2 neu 4 neu 5’ y gall cyflogeion eu dewis ar y fersiwn ar-lein, fodd bynnag gallant barhau i ddewis benthyciad ôl-raddedig ar yr un pryd â benthyciadau o’r math o gynllun
Mae arweiniad ychwanegol wedi’u hychwanegu at y ffurflenni i roi cymorth i gwsmeriaid sydd â mwy nag un benthyciad ac i helpu cyflogeion i nodi eu math o fenthyciad ad-dalu.
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026
Dyddiadau cau P11D a P11D(b)
I’r cyflogwyr hynny nad ydynt eto’n talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres, y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A P11D(b), costau P11D a buddiannau a ddarperir ym mlwyddyn dreth 2025 i 2025 yw 6 Gorffennaf 2026.
Mae’n rhaid cyflwyno pob ffurflen P11D a ffurflen P11D(b) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2025 ar-lein ac ar yr un pryd.
Gall cyflwyniad hwyr arwain at gosb. Mae CThEF yn codi cosbau’n fisol ac yn cyhoeddi hysbysiadau o gosb bob chwarter nes bod Ffurflen Dreth yn dod i law.
Ffurflen P11D(b)
Mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi cyflwyno unrhyw ffurflenni P11D
- rydych wedi talu treuliau neu fuddiannau unrhyw gyflogai drwy’ch cyflogres
- mae CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), drwy anfon hysbysiad atoch i wneud hynny
Mae’ch ffurflen P11D(b) yn rhoi gwybod i CThEF faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y Cyflogwr y mae angen i chi eu talu ar yr holl dreuliau a buddiannau a roesoch i’ch cyflogeion drwy’r gyflogres, yn ogystal ag unrhyw rai y rhoesoch wybod i CThEF amdanynt drwy ffurflen P11D.
Dim byd i’w ddatgan
Mae ond angen i chi wneud datganiad os yw CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno P11D(b) ac nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan.
Does dim angen i chi roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch roi gwybod i ni drwy lenwi ffurflen nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.
Mae gwybodaeth bellach am gamgymeriadau cyffredin a beth i’w wneud os gwnewch gamgymeriad ar gael ym Mwletin y Cyflogwr mis Chwefror.
Nodyn atgoffa o ddyddiadau a phrosesau allweddol ar gyfer rhoi gwybod am Fuddiannau (BiKs)
Fel rhan o ddiwygiadau deddfwriaethol ehangach i foderneiddio a symleiddio sut mae Buddiannau (BiKs) yn cael eu hadrodd, mae CThEF yn paratoi ar gyfer cyflogres orfodol yn y dyfodol ar gyfer y rhan fwyaf o Buddiannau trwy feddalwedd cyflogres, gan gynnwys cofrestru gwirfoddol.
Mae angen i gyflogwyr a rhanddeiliaid fod yn ymwybodol o newidiadau ar gyfer y flwyddyn dreth hon 2026 i 2027 o 6 Ebrill 2026.
Mae cofrestru i dalu buddiannau drwy’r gyflogres bellach ar gau
Caeodd y Gwasanaeth Cyflogres ar gyfer Buddiannau ar gyfer cofrestru ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 ar 5 Ebrill 2026.
Mae’n rhaid i gyflogwyr fod wedi cofrestru erbyn 5 Ebrill 2026 er mwyn talu buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Ni ellir derbyn unrhyw gofrestriadau newydd i dalu buddiannau drwy’r gyflogres ar hyn o bryd.
Beth all cyflogwyr ei wneud os ydynt yn talu buddiannau drwy’r gyflogres
Gall cyflogwyr sydd wedi cofrestru i dalu eu buddiannau drwy’r gyflogres gwneud y canlynol:
-
bwrw golwg dros y buddiannau maent yn eu talu drwy’r gyflogres yn y gwasanaeth cyflogres ar-lein
- bwrw golwg dros y cyflogeion maent yn talu buddiannau drwy’r gyflogres ar eu cyfer
- eithrio cyflogeion o’u cyflogres.
Beth sydd angen i gyflogwyr ei wneud os nad ydynt wedi cofrestru i dalu buddiannau drwy’r gyflogres
Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, mae’n rhaid i unrhyw gyflogwr nad yw wedi cofrestru i dalu buddiannau drwy’r gyflogres erbyn y dyddiad cau 5 Ebrill 2026 barhau i roi gwybod am fuddiannau cyflogeion gan ddefnyddio’r canlynol:
- P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiant
- P11D(b) i roi gwybod am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflenni hyn erbyn 6 Gorffennaf 2027 yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill 2027), yn unol â’r broses bresennol.
Problemau parhaus a achosir gan drin ID y Gyflogres yn anghywir ar gyflwyniadau Gwybodaeth Amser Real
Mae cyflogwyr yn parhau i greu cyflogaethau dyblyg pan fydd ID y Gyflogres yn cael ei newid ond ni ddefnyddir y dangosydd newid ID y Gyflogres. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan nad yw’r dangosydd wedi’i dicio neu pan nad yw’r hen ID y Gyflogres wedi’i ddarparu.
Pan fydd hyn yn digwydd, mae systemau CThEF yn trin ID y Gyflogres newydd fel cyflogaeth newydd, sy’n arwain at y canlynol:
-
gwybodaeth y flwyddyn hyd yma anghywir
-
cyswllt dro ar ôl tro gan gyflogwyr ynglŷn â’r un anghysondebau
-
gwaith llaw ychwanegol i gywiro cofnodion
Mae gwallau hefyd yn codi pan fydd cyflogwyr yn cyflwyno dyddiad dechrau neu ddatganiad dechrau yn lle defnyddio’r dangosydd newid ID y Gyflogres. Mae hyn yn achosi i systemau CThEF drin y diweddariad fel swydd newydd, sy’n creu ail gofnod cyflogaeth ar gyfer yr un cyflogai. Er mwyn osgoi’r problemau hyn, dylai cyflogwyr gwneud y canlynol:
-
ticio’r dangosydd newid ID y Gyflogres
-
darparu’r hen ID y Gyflogres
-
darparu’r ID y Gyflogres newydd
Mae methiannau cysoni CThEF hefyd yn digwydd lle mae meysydd Cyflwyniad Taliadau Llawn wedi’u cwblhau’n anghywir. Mae’n rhaid i gyflogaeth newydd ddilys gynnwys dyddiad dechrau, gan y gall dyddiadau dechrau ar goll beri i systemau CThEF uno cyflogaethau ar wahân. Dylai cyflogwyr gwneud y canlynol:
- nodwch ddyddiad cychwyn ar gyfer pob cyflogai newydd
- gadael y maes dyddiad dechrau yn wag ar gyfer cyflogaeth barhaus
Mae cwblhau meysydd cyflog trethadwy yn anghywir yn achos arall o wallau, yn enwedig pan gyflwynir cyflog trethadwy yn y cyfnod fel dim tra bod cyflog trethadwy hyd yn hyn wedi’i gwblhau. Gall hyn arwain at gofnodion cyflogaeth wedi’u cyfuno neu anghywir. Mae’n rhaid i gyflogwyr gwneud y canlynol:
- nodi’r cyflog trethadwy cywir ar gyfer pob cyfnod talu
- sicrhau bod cyfansymiau y flwyddyn hyd yma’n dilyn yn rhesymegol o ffigur y cyfnod
- osgoi cyflwyno cyflog sero lle mae taliad wedi’i wneud
Mae problemau ychwanegol yn codi pan gaiff IDau y Gyflogres eu hailddefnyddio ar gyfer gwahanol cyflogeion, oherwydd mae hyn yn atodi data cyflwyno i’r cofnod cwsmer anghywir. Mae hyn yn arwain at y canlynol:
- rhannu data Gwybodaeth Amser Real
- manylion cyflogaeth yn ymddangos ar y cofnod anghywir
- taliadau dadleuol a gwaith cywiro y gellir ei osgoi
Er mwyn atal y problemau hyn, dylai cyflogwyr gwneud y canlynol:
- defnyddio ID y Gyflogres unigryw ar gyfer pob cyflogai
- osgoi ailddefnyddio IDau y Gyflogres gan gyn-gyflogeion
- defnyddio’r dangosydd newid ID y Gyflogres lle mae systemau cyflogres yn cynhyrchu IDau y Gyflogres newydd yn awtomatig
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Parth Buddsoddi — dynodiad safle treth arbennig yn yr Alban
Ar 26 Chwefror 2026, dynodwyd safleoedd treth arbennig Parth Buddsoddi yn yr Alban. Dynodwyd safleoedd treth arbennig Parth Dinas-Ranbarth Glasgow a Gogledd-ddwyrain yr Alban yn dilyn Offeryn Statudol a osodwyd ar 5 Chwefror 2026.
Mae Parthau Buddsoddi wedi’u cynllunio fel ymyriadau dan arweiniad lleol i yrru cenhadaeth twf y llywodraeth trwy hyrwyddo buddsoddiad newydd mewn sectorau sy’n hanfodol i’r Strategaeth Ddiwydiannol genedlaethol. Mae’r rhain yn creu swyddi medrus iawn mewn meysydd sydd wedi tanberfformio’n economaidd yn y gorffennol.
Bydd rhai Parthau Buddsoddi yn cynnwys safleoedd treth arbennig dynodedig. Dynodwyd safleoedd treth arbennig yn Lloegr o fewn Parthau Buddsoddi Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Dinas-Ranbarth Lerpwl a chafodd eu rhoi ar waith ar 8 Ebrill 2024 ac yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ar 26 Chwefror 2025.
Dynodwyd safleoedd treth arbennig yng Nghymru o fewn Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam a chafodd eu rhoi ar waith ar 21 Tachwedd 2025.
Mae rhagor o wybodaeth am safleoedd treth arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Bydd cynigion Parth Buddsoddi ar gyfer Parth Buddsoddi Uwch yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu darparu maes o law.
Darllenwch am Barthau Buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg) a sut y gallent gefnogi twf economaidd.
Busnesau’n cael eu hannog i baratoi ar gyfer cofrestru ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio o fis Ebrill 2026 ymlaen
Mae llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Doll Cynhyrchion Fepio (VPD) a Stampiau’r Doll Fepio (VDS) o 1 Hydref 2026 ymlaen, gyda’r broses gofrestru yn agor o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae’r Doll Cynhyrchion Fepio a Stampiau’r Doll Fepio yn rhan o Gynllun Newid y llywodraeth i greu cenhedlaeth sydd ddim yn ysmygu yn ogystal â mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (yn agor tudalen Saesneg).
Er mwyn rhoi cymorth i fusnesau yr effeithir arnynt yn eu paratoadau, rydym wedi cynhyrchu pecyn cyfathrebu i randdeiliaid ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Mae’r pecyn yn cynnwys:
- negeseuon cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u hawgrymu
-
taflen un a dwy dudalen, ar ffurf ddigidol ac argraffedig, yn tynnu sylw at bwy yw’r cynulleidfaoedd yr effeithir arnynt a dyddiadau pwysig
- copi erthygl fer i’w ddefnyddio mewn cylchlythyrau, briffiau a chyfathrebiadau allanol
- negeseuon allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd yr effeithir arnynt
- ein fideo YouTube ar y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio (yn agor tudalen Saesneg)
- cyfarwyddiadau i wybodaeth fanwl am y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio
Mae’r pecyn wedi’i anelu at gymdeithasau masnach, grwpiau diwydiant, cyrff cynrychioliadol a sefydliadau eraill sydd â chysylltiadau â’r sector fepio. Gallwch rannu’r deunyddiau hyn ar eich sianeli i annog busnesau i ddeall a pharatoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod. Bydd hyn yn helpu busnesau i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud cyn i’r broses gofrestru agor ar 1 Ebrill 2026.
Dileu’r rhyddhad treth ar gyfer treuliau gweithio gartref nad ydynt yn cael eu had-dalu
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’r llywodraeth yn dileu’r broses lle gall cyflogeion hawlio didyniad o Dreth Incwm gan CThEF os ydynt wedi codi costau ar gyfer yr aelwyd ychwanegol wrth orfod gweithio gartref. Mae’r costau hyn yn cynnwys costau cyfleustodau cartref a galwadau ffôn busnes uwch. Gall y swm y gellir ei hawlio fod yn seiliedig ar wariant gwirioneddol, gyda thystiolaeth, neu ar gyfradd sefydlog o £6 yr wythnos heb ddarparu derbynebau.
Mae cyflogeion yn dal i allu gwneud hawliad am y 4 blynedd dreth flaenorol lle maent yn gymwys a lle nad ydynt wedi gwneud hawliad o’r blaen.
Ni fydd hyn yn effeithio ar y gallu presennol i gyflogwyr ad-dalu cyflogeion am gostau sy’n ymwneud â gweithio gartref lle bo’n gymwys heb ddidynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ddarllenwch am ddileu rhyddhad treth ar dreuliau gweithio gartref nad ydynt yn cael eu had-dalu (yn agor tudalen Saesneg).
Ehangu rhyddhad buddion y gweithle: esemptiadau treth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer profion llygaid wedi’u had-dalu, brechiadau ffliw ac offer gweithio gartref o 6 Ebrill 2026 ymlaen
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd esemptiadau newydd ar gyfer Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) yn berthnasol lle mae cyflogwyr yn ad-dalu cyflogeion am rai costau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Ar hyn o bryd, dim ond pan yr ydynt yn eu darparu’n uniongyrchol gan gyflogwyr y mae profion llygaid ac offer gweithio gartref a ddarperir gan gyflogwyr wedi’u hesemptio rhag treth, ond maent yn drethadwy pan yr ydynt yn eu had-dalu. Hefyd, nid yw cyflogwyr yn gallu ad-dalu costau brechiadau ffliw yn uniongyrchol ac yn lle hynny mae’n rhaid iddynt ddefnyddio cynlluniau talebau. Mae hyn yn creu cymhlethdod diangen a gall rwystro trefniadau ymarferol, yn enwedig i gyflogwyr llai a’r rhai sydd â chyflogeion hybrid neu weithwyr sy’n gweithio gartref.
I fynd i’r afael â hyn, cyhoeddodd y llywodraeth yng Nghyllideb yr Hydref 2025 y gall cyflogwyr ad-dalu cyflogeion am gost y canlynol o 6 Ebrill 2026 ymlaen:
- profion llygaid sy’n ofynnol ar gyfer defnyddwyr Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE) a, lle bo angen, sbectol at ddiben Uned Arddangosiad Gweledol (VDU)
- brechiadau ffliw tymhorol
- eitemau penodol a ddefnyddir mewn dyletswyddau cyflogaeth, gan gynnwys offer y mae angen i gyflogeion weithio’n effeithiol o gartref
Mae’r newidiadau hyn yn cyd-fynd â’r driniaeth dreth o ad-daliadau â’r driniaeth sydd eisoes yn berthnasol mewn llawer o achosion lle mae cyflogwyr yn darparu’r eitemau hyn yn uniongyrchol. Mae hyn yn symleiddio’r rheolau ac yn adlewyrchu arferion gwaith modern.
Beth mae’r newid yn ei olygu i gyflogwyr a chyflogeion
Pan fydd cyflogai’n prynu prawf llygaid cymwys a, lle bo angen, offer cywirol penodol at ddiben VDU, brechiad ffliw tymhorol, neu offer gweithio gartref cymwys, a bod y cyflogwr yn ad-dalu’r gost, ni fydd unrhyw dâl Treth Incwm na Chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi.
Mae’r un driniaeth dreth yn berthnasol p’un a yw’r cyflogwr yn trefnu ac yn talu’r darparwr yn uniongyrchol, yn cyhoeddi taleb, neu’n ad-dalu’r cyflogai.
Mae’r esemptiad yn berthnasol yn awtomatig lle bodlonir yr amodau yn y ddeddfwriaeth. Nid oes angen i gyflogwyr gyflwyno hawliadau, ceisio cymeradwyaeth na newid prosesau cyflogres nac adrodd.
Yr hyn sydd angen i gyflogwyr ei wneud
Dylid trin unrhyw brofion llygaid neu frechiadau ffliw a ddarparwyd neu a ad-dalwyd cyn 6 Ebrill 2026 o dan y rheolau blaenorol.
Er enghraifft, lle mae cyflogeion yn trefnu eu prawf llygaid neu frechiad ffliw eu hunain cyn 6 Ebrill 2026 a’ch bod yn eu had-dalu, mae’r swm fel arfer yn drethadwy ac yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, oni bai bod eithriad arall sy’n bodoli eisoes yn berthnasol.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, gallwch ad-dalu costau cymhwysol heb weithredu TWE na CYG, ar yr amod bod y gwariant yn bodloni’r amodau a nodir yn arweiniad CThEF sydd mewn grym ar y pryd.
Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y papur polisi rhyddhad buddiannau gweithle sy’n ehangu (yn agor tudalen Saesneg).
Cyhoeddir arweiniad technegol ar y ddeddfwriaeth newydd yn Llawlyfr Incwm Cyflogaeth CThEF (yn agor tudalen Saesneg) maes o law.
I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Cynllun y Diwydiant Adeiladu — Gweithredu diwygiadau ym mis Ebrill 2026
Yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth yng Nghyllideb yr Hydref 2025, o fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd contractwyr unwaith eto dan rwymedigaeth gyfreithiol i gyflwyno datganiad Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) bob mis, gan gynnwys datganiadau dim mewn misoedd lle nad ydynt wedi defnyddio isgontractwr. Fel arall, mae’n rhaid i gontractwyr rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw na fyddant yn talu isgontractwyr y mis hwnnw drwy gyflwyno cais anactifedd.
Cafodd y gofyniad i gyflwyno datganiadau dim eu dileu yn 2015 gyda’r nod o leihau’r beichiau ar fusnesau. Yn lle hynny, roedd disgwyl i gontractwyr rhoi gwybod i CThEF am gyfnodau o anactifedd sydd ar ddod neu gyflwyno datganiadau dim yn wirfoddol. Ond, derbyniodd llawer o gontractwyr nifer o gosbau cynyddol am gyflwyno’n hwyr oherwydd iddynt fethu â rhoi gwybod i CThEF nad oeddent yn talu isgontractwyr. Roedd y broses o apelio yn erbyn y cosbau hyn ac i CThEF eu canslo yn feichus ac yn cymryd llawer o amser i gontractwyr ac i CThEF.
Fel ateb pragmatig, ataliodd CThEF gosbau am gyflwyno’n hwyr CIS heblaw am y gosb sefydlog gyntaf o £100. O fis Ebrill 2026 ymlaen, gyda’r gofyniad i beidio â chyflwyno dim yn ôl ar waith, byddwn yn adfer y gyfundrefn gosb am gyflwyno’n hwyr CIS lawn. Bydd hyn yn annog cydymffurfiaeth barhaus. Yn ogystal â’r gosb sefydlog gyntaf o £100, gellir codi’r canlynol ar bobl sy’n gyflwyno’n hwyr:
-
ail gosb benodol o £200 ar ôl 2 fis
-
cosb sy’n gysylltiedig â threthi ar ôl 6 mis o leiaf £300 neu 5% o unrhyw rwymedigaeth a ddylai fod wedi’i dangos ar y Ffurflen Dreth
-
cosb bellach sy’n gysylltiedig â threthi ar ôl 12 mis – bydd swm y gosb hon yn dibynnu ar pam roedd y Ffurflen Dreth yn hwyr
Mae cyflwyno datganiad dim treth yn broses gyflym a syml. Mae llawer o gontractwyr CIS wedi parhau i gyflwyno datganiadau dim lle bo angen, felly ni fyddant yn profi unrhyw newidiadau. Bydd adfer y rhwymedigaeth i gyflwyno Ffurflen Dreth dim yn golygu mai dim ond lle nad yw contractwyr wedi rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw am gyfnod o anactifedd nac wedi cyflwyno Ffurflen Dreth y bydd cosbau’n cael eu rhoi. Mae CThEF wedi ymrwymo i weithio gyda chontractwyr i leihau’r beichiau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r newidiadau hyn cyn belled ag y bo modd.
Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y mwyafrif helaeth o gontractwyr CIS, sydd eisoes yn cyflwyno mewn pryd ac yn cyflwyno datganiadau dim neu’n rhoi gwybod i CThEF am gyfnodau o anactifedd lle bo angen.
Mae’r newid i gyflwyniadau-dim hwn yn rhan o becyn o ddiwygiadau CIS a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2025. Mae’r diwygiadau hyn hefyd yn cynnwys mesurau gwrth-dwyll sydd wedi’u targedu at fusnesau a oedd yn gwybod neu a ddylai fod wedi gwybod eu bod yn ymgysylltu â busnesau twyllodrus.
Diweddariad ar Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS)
Cymhellion Rheoli Mentrau — newidiadau i drothwyon y cynllun o fis Ebrill 2026 ymlaen
Cyhoeddwyd cynnydd i drothwyon Cymhellion Rheoli Menter (EMI) yn y Gyllideb a chafodd ei gyflwyno o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Cynlluniau opsiwn cyfranddaliadau wedi’u targedu yw cynlluniau EMI sydd wedi’u cynllunio i roi cymorth i fentrau i recriwtio a chadw cyflogeion allweddol. Gall cwmnïau ddewis:
- pa gyflogeion cymwys sy’n cael opsiynau
- faint o opsiynau y mae pob cyflogai a ddewisir yn eu cael
- y pris ymarfer a’r amodau breinio
Newid i’r trothwy Cymelliadau Rheoli Mentrau
Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth yn y Bil Cyllid 2025-26 i ehangu terfynau cynllun EMI o 6 Ebrill 2026 ymlaen, er mwyn caniatáu i fwy o gwmnïau ddefnyddio’r cynllun.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd y terfynau EMI yn cael eu cynyddu i’r rhan fwyaf o gwmnïau i wneud y canlynol:
-
gwerth uchaf opsiynau’r cwmni — o £3 miliwn i £6 miliwn
-
gwerth yr asedion gros — o £30 miliwn neu lai i £120 miliwn neu lai
-
nifer y cyflogeion — o lai na 250 i lai na 500
-
y cyfnod dal uchaf — o 10 mlynedd i 15 mlynedd
Pan fo cwmni’r cyflogwr yn gwmni penodedig, mae’r terfynau’n cynyddu, ac ni fydd y cyfnod ymarfer estynedig yn berthnasol. Cwmni penodedig yw cwmni sydd â’i swyddfa gofrestredig yng Ngogledd Iwerddon sy’n masnachu mewn nwyddau neu’n darparu trydan. Mae arweiniad pellach ar gwmnïau penodedig ar gael yn Llawlyfr Cynlluniau Cyfranddaliadau sy’n rhoi Mantais Dreth i Gyflogeion ETASSUM50500 (yn agor tudalen Saesneg).
Am y flwyddyn gyntaf, ni fydd unrhyw newid i’r gofynion adrodd EMI presennol.
Ar gyfer opsiynau a roddwyd ar neu cyn 5 Ebrill 2026, bydd terfynau gwreiddiol y cynllun yn berthnasol.
Gellir cymhwyso estyniad y cyfnod ymarfer yn ôl-weithredol i gontractau presennol nad ydynt wedi dod i ben nac wedi cael eu hymarfer — ar yr amod bod y contractau hyn yn cael eu diwygio yn unol â’r cytundeb opsiwn, neu ddeddfwriaeth, lle bo angen, bydd y manteision treth yn cael eu cadw. Ni fydd unrhyw newid i’r gofynion adrodd EMI sy’n ymwneud ag uchafswm y cyfnod dal.
Gofynion adrodd ar warantau ar sail cyflogaeth ar gyfer Ymwelwyr Busnes Tymor Byr
Pan fo cyflogai’n ymwelydd busnes tymor byr sy’n dod o dan drefniant Atodiad 4 EP (yn agor tudalen Saesneg), ni fydd CThEF bellach yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau adrodd data Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS) nad yw’n fantais dreth ar gyfer y cyflogeion hyn, ar yr amod na fyddai unrhyw gyfraniadau Treth Incwm y DU nac Yswiriant Gwladol yn ddyledus.
Mae hyn yn berthnasol i bob blwyddyn dreth flaenorol a blynyddoedd treth yn y dyfodol. Mae’r rhwymedigaeth adrodd ERS yn parhau mewn senarios prin lle byddai cyfraniadau Treth Incwm a Yswiriant Gwladol y DU yn ddyledus, megis lle’r oedd yr STBV yn breswylydd yn y DU o’r blaen a bod opsiynau cyfranddaliadau wedi’u rhoi ar y pryd.
Mae’r Llawlyfr Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERSM140030) (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu hyn. Darperir rhagor o wybodaeth ac arweiniad maes o law.
Nodyn atgoffa am gyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn
Os ydych yn gweithredu cynllun cyfranddaliadau cyflogeion, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen ERS diwedd blwyddyn.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn ar neu cyn 06 Gorffennaf 2026. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau hwn, byddwch yn cael cosb am gyflwyno’n hwyr.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth neu ddatganiad dim ar gyfer pob cynllun rydych wedi’i gofrestru ar wasanaeth ar-lein ERS. Mae’n rhaid i chi gadw copi o’ch Ffurflen Dreth.
Darllenwch ragor am sut i gyflwyno ffurflen ERS, dod â chynllun i ben neu gyflwyno datganiad dim
Gweinyddwyr Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth
Bob blwyddyn mae llawer o gwsmeriaid yn methu â chwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ERS oherwydd eu bod yn darganfod na allant fewngofnodi. Mae hyn yn aml oherwydd nad yw’r unig berson a allai fewngofnodi i gyflwyno’r Ffurflen Dreth ar gael neu wedi gadael y cwmni.
Mae’n ddoeth cael mwy nag un gweinyddwr ar gyfer eich cyfrif Porth y Llywodraeth rhag ofn nad yw’r prif weinyddwr ar gael. Mae hyn yn aml oherwydd nad yw’r unig berson a allai fewngofnodi i gyflwyno’r Ffurflen Dreth ar gael neu wedi gadael y cwmni.
- ychwanegu defnyddwyr newydd
- rheoli lefelau mynediad
- cyflwyno datganiadau ERS
Mae cael gweinyddwr wrth gefn yn sicrhau y gellir cyflawni swyddogaethau hanfodol hyd yn oed os nad yw’r prif weinyddwr yn gallu cael mynediad at y system.
I sefydlu gweinyddwr wrth gefn, mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes CThEF. Darllenwch am reoli aelodau tîm gan ddefnyddio cyfrif treth busnes CThEF.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol dramor
Yng Nghyllideb 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (CYG) dramor.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, ar gyfer blynyddoedd treth 2026 i 2027 ymlaen, mae’r opsiwn i dalu CYG Dosbarth 2 gwirfoddol am gyfnodau dramor wedi’i dynnu a bydd ceisiadau newydd am CYG Dosbarth 3 ar gyfer cyfnodau dramor yn gofyn am 10 mlynedd o breswylio parhaus yn y DU neu o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os oes gennych weithwyr dramor, rhowch wybod iddynt am y newidiadau o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Nid yw’r newidiadau’n effeithio ar allu unrhyw un i brynu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth cyn 2026 i 2027.
Mae CThEF yn annog cyflogwyr i adolygu’r arweiniad diweddaraf ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cyfnodau dramor o fis Ebrill 2026 ymlaen a’r Nodyn Gwybodaeth ac Effaith Treth sy’n manylu ar y newidiadau.
Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod gan unigolion sy’n cronni Pensiwn y Wladwriaeth o’r tu allan i’r DU gysylltiad digonol â’r DU a’u bod yn talu pris tecach i wneud hynny.
Y gyfradd llog swyddogol o 06 Ebrill 2026 ymlaen
Bydd y Gyfradd Llog Swyddogol (ORI) yn aros ar 3.75% o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Fel y cyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref 2024, bydd yr ORI bellach yn cael ei adolygu bob chwarter i asesu a ddylid ei gynyddu, ei leihau neu aros yr un peth. Bydd unrhyw addasiadau yn dod i rym ar:
- 6 Ebrill 2026
- 6 Gorffennaf 2026
- 6 Hydref 2026
- 6 Ionawr 2027
Defnyddir yr ORI i gyfrifo’r tâl Treth Incwm ar fuddiant benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac ar fuddiant trethadwy rhai llety byw sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.
Bydd unrhyw newidiadau i’r gyfradd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar drefniadau benthyciadau buddiannol — cyfraddau swyddogol CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Sut bydd hyn yn effeithio ar gyflogwyr
Os ydych yn darparu benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth neu lety byw i’ch cyflogeion, bydd angen i chi wybod yr ORI cywir i’w chodi wrth gyfrifo gwerth unrhyw fuddiant.
Bydd angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn y gyfradd yn y dyfodol yn ystod y flwyddyn dreth. Os bydd y gyfradd yn newid yn ystod y flwyddyn, bydd hyn yn effeithio ar werth trethadwy’r buddiannau a roddwch.
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Diweddariad i hawlio ad-daliadau treth
Mae’n bosibl bod rhai o’ch cyflogeion wedi cael llythyr neu neges destun gan CThEF yn ddiweddar yn eu hysbysu bod ad-daliad treth yn ddyledus iddynt. Nid yw ad-daliadau’n cael eu rhoi’n awtomatig mwyach, felly bydd angen iddynt gymryd camau i gael eu harian.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o hawlio ad-daliad treth, neu i wirio a oes un yn ddyledus, yw drwy ap CThEF.
Dyma sut y gallant ei wneud:
-
Agorwch yr ap ac ewch i’r adran ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
-
Os oes ad-daliad yn ddyledus, bydd botwm gwyrdd ‘Hawlio’ yn dangos y swm sy’n ddyledus.
-
Tapiwch ‘Hawlio’, dilynwch y camau a bydd yr ad-daliad yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’w cyfrif banc o fewn wythnos.
I’r rhai nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF, peidiwch â phoeni. Gallant hawlio eu had-daliad ar-lein o hyd drwy chwilio am ‘ad-daliad P800’ ar GOV.UK. Bydd angen eu rhif cyfeirnod P800 o’u llythyr Cyfrifiad Treth a’u rhif Yswiriant Gwladol arnynt.
Mae’n bwysig bod cyflogeion yn gwirio bod eu manylion personol yn gyfredol, gan gynnwys eu cyfeiriad post a’u cyfeiriad bilio. Os yw cyfeiriad wedi dyddio, mae’n bosibl y byddant yn colli llythyrau pwysig neu’n cael bil treth anghywir.
Rhannwch y neges hon gyda’ch cyflogeion fel y gallant ddiweddaru eu manylion a hawlio unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus.
Arolwg Dweud Wrth ABAB 2026
Yr ‘arolwg blynyddol Dweud Wrth ABAB’ (yn agor tudalen Saesneg) bellach ar agor i’w gwblhau. Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 15 munud i’w lenwi, a bydd ar agor tan 29 Ebrill 2026. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK erbyn Hydref 2026, yn yr Adroddiad Dweud wrth ABAB.
Comisiynir yr arolwg gan gorff annibynnol, y Bwrdd Cynghori ar Feichiau Gweinyddol (ABAB), gan roi cipolwg hanfodol ar y materion mawr y mae busnesau bach yn eu hwynebu, gan gynnwys y rhai sy’n uniaethu fel asiantau treth yn y system dreth.
Mae gan ABAB frwdfrydedd i wrando ar anghenion y gymuned o fusnesau bach, a’u deall. Daw aelodau’r bwrdd o sawl busnes a phroffesiwn, a’u nod yw rhoi cymorth i CThEF er mwyn creu system dreth sy’n gyflymach ac yn haws i fusnesau bach.
Mae ABAB yn herio CThEF ar ei berfformiad, gan ddarparu craffu cadarn yn erbyn mentrau allweddol, fel Troi Treth yn Ddigidol a Gwella profiad cwsmeriaid. Caiff cynnydd CThEF yn erbyn blaenoriaethau ABAB ei adolygu yn adroddiad blynyddol y bwrdd, sy’n cael ei anfon yn uniongyrchol at weinidogion y Trysorlys.
Yr arolwg yw’ch cyfle i roi cipolwg i ABAB ar y system dreth y gallant ei ddefnyddio wedyn i’ch cefnogi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am arolwg 2026, anfonwch e-bost at advisoryboard.adminburden@hmrc.gov.uk.
Treial llythyrau atgoffa Treth Gorfforaeth (CT208)
Fel rhan o waith CThEF i wella gwasanaethau digidol ar gyfer anfon a chael gwybodaeth am drethdalwyr, mae CThEF yn parhau i dreialu peidio â chyhoeddi CT208 lle gall cwsmeriaid ac asiantau gael mynediad at yr un wybodaeth trwy wasanaethau ar-lein.
O fis Mawrth 2026 ymlaen, dechreuodd CThEF gam nesaf treial i beidio ag anfon nodyn atgoffa CT208 at boblogaeth fach o gwsmeriaid heb gynrychiolaeth. Bydd CThEF yn monitro’r effaith dros 6 mis ac yn dod â’r treial i ben os bydd unrhyw effaith negyddol ar gwsmeriaid neu brosesau.
Nid oes unrhyw newidiadau i’r broses Treth Gorfforaeth ei hun, a bydd cwmnïau’n dal i gael hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni a chael mynediad at eu cyfrifon ar-lein CThEF.
Gall asiantau gael mynediad at wasanaeth ar-lein Treth Gorfforaeth i Asiantau CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i fwrw golwg dros y canlynol:
- rhwymedigaethau a thaliadau
- gwybodaeth am Ffurflenni Treth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
- arweiniad ar gyfnodau cyfrifyddu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
Ffordd symlach o dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC)
Os oes gennych gyflogeion sy’n cael Budd-dal Plant ac yn ennill rhwng £60,000 ac £80,000, mae’n bosibl y bydd angen iddynt dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC).
Mae CThEF wedi lansio gwasanaeth digidol newydd sy’n gwneud talu’r tâl hwn yn haws nag erioed. Gall cwsmeriaid nawr dalu drwy eu cyflog – does dim angen cofrestru ar gyfer Hunanasesiad na chyflwyno Ffurflen Dreth.
Y rhai sy’n gymwys i ddefnyddio’r gwasanaeth digidol newydd yw:
- rhieni newydd sy’n talu’r tâl am y tro cyntaf
- cwsmeriaid sydd wedi dechrau partneriaeth â rhywun sy’n hawlio Budd-dal Plant
- cwsmeriaid sydd wedi cael codiad cyflog yn ddiweddar gan eu gwthio dros y trothwy am y tro cyntaf
Mae’n bosibl bod eich cyflogeion eisoes yn talu’r tâl drwy Hunanasesiad. Os mai dyma’r unig reswm dros lenwi Ffurflen Dreth, mae’n bosibl y byddant yn gallu newid i’r gwasanaeth newydd. Mae angen iddynt ffonio CThEF unwaith i ddatgofrestru o Hunanasesiad.
Dysgwch fwy gan ddefnyddio ap CThEF neu ar-lein.
Newidiadau i Dâl Salwch Statudol – yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, cyflwynodd Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 newidiadau i Dâl Salwch Statudol (SSP) sy’n effeithio ar y rhan fwyaf o gyflogwyr.
Tynnu’r Terfyn Enillion Isaf
Mae gan bob gweithiwr cymwys hawl i SSP bellach waeth beth fo’u hincwm. Telir SSP ar 80% o enillion wythnosol arferol neu’r gyfradd safonol wythnosol o £123.25, pa un bynnag sydd isaf.
Tynnu’r Cyfnod Aros
Telir SSP o’r diwrnod llawn cyntaf o absenoldeb salwch, nid o’r pedwerydd diwrnod.
Mae’r newidiadau hyn yn gwneud SSP yn fwy hygyrch ac yn dileu rhwystrau i gyflogeion â chyflog is, ac yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd Iwerddon. Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn gymwys yn seiliedig ar bryd y dechreuodd yr absenoldeb salwch.
Bydd absenoldebau a ddechreuodd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026 yn defnyddio’r rheolau newydd. Bydd absenoldebau a ddechreuodd cyn 6 Ebrill 2026 (yn agor tudalen Saesneg) yn dilyn y broses flaenorol i bennu cymhwystra a thaliad oni bai bod y ddeddfwriaeth wedi’i hamlinellu fel arall.
Yr hyn sydd angen i gyflogwyr ei wneud nawr
Rhannodd CThEF arweiniad technegol, gan gynnwys ar ddiogelwch trosglwyddo gyda datblygwyr meddalwedd a darparwyr cyflogres i’w helpu i gymhwyso’r newidiadau hyn. Mae’n bosibl yr hoffech drafod y newidiadau hyn gyda’ch darparwr cyflogres, yn enwedig os ydych yn rhedeg eich cyflogres eich hun neu os nad ydych wedi diweddaru’ch systemau yn ddiweddar.
Mae arweiniad ar SSP i gyflogwyr ac SSP i gyflogeion wedi’u diweddaru. Mae arweiniad ehangach ar fesurau Deddf Hawliau Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar wefan Business gov.
Am ymholiadau am newidiadau SSP, anfonwch e-bost at SSP.Team@DWP.gov.uk.
Paratoi ar gyfer newidiadau i Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, cyflwynodd Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 newidiadau i absenoldeb ar y cyd i rieni. Gall cyflogeion cymwys hefyd gymryd Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r newidiadau a bod cyflogeion yn gallu cael mynediad at eu hawliau. Fel rhan o’r newid i’r rheolau newydd, mae rhai cyfnodau rhybudd ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth wedi’u haddasu dros dro.
Absenoldeb Tadolaeth
Mae Absenoldeb Tadolaeth bellach ar gael o “Ddiwrnod 1” o gyflogaeth ymlaen. Mae hyn yn golygu y gall cyflogai roi rhybudd o’i fwriad i gymryd Absenoldeb Tadolaeth o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth.
Nid oes unrhyw newid i gymhwystra ar gyfer Tâl Tadolaeth Statudol. Mae’n rhaid i gyflogeion fod wedi gweithio’n barhaus i’w cyflogwr am 26 wythnos o hyd er mwyn bod yn gymwys i gael cyflog.
Bydd cyfnod rhybudd byrrach yn berthnasol i gyflogeion sydd â disgwyl i blentyn gael ei eni am wythnos rhwng 5 Ebrill 2026 a 25 Gorffennaf 2026. Gall cyflogeion sy’n dod yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth oherwydd y newidiadau hyn roi rhybudd o 28 diwrnod i gymryd absenoldeb.
Mae’r cyfnod rhybudd arferol o 15 wythnos yn berthnasol ar gyfer yr wythnos y disgwylir genedigaethau o 26 Gorffennaf 2026 ymlaen. Nid yw rheolau hysbysu ar gyfer mabwysiadwyr ac ar gyfer rhieni a oedd yn gymwys cyn 6 Ebrill 2026 wedi newid.
Absenoldeb Di-dâl i Rieni
Mae Absenoldeb Di-dâl i Rieni hefyd ar gael nawr o “Ddiwrnod 1” o gyflogaeth ymlaen. Mae hyn yn golygu y gall cyflogai roi rhybudd o’i fwriad i gymryd Absenoldeb Di-dâl i Rieni o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth.
Mae’r gofyniad rhybudd 21 diwrnod presennol yn berthnasol.
Absenoldeb ar y Cyd i Rieni
Gall cyflogeion sy’n dadau neu’n bartneriaid nawr gymryd Absenoldeb a Thâl Tadolaeth ar ôl Absenoldeb a Thâl ar y cyd i Rieni, os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth
Mae Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth yn caniatáu i dadau a phartneriaid cyflogedig gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb di-dâl os yw’r fam neu’r prif fabwysiadwr yn marw cyn i’w plentyn droi’n un oed.
Mae Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth ar gael o “Ddiwrnod 1” o gyflogaeth a gellir ei gymryd gan gyflogeion cymwys y bu farw eu partner ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.
Camau nesaf
Mae’n bosibl yr hoffech wneud y canlynol:
-
adolygu’ch polisïau Absenoldeb Rhiant, Profedigaeth a Thrugarog, i adlewyrchu hawliau newydd a diweddaru’ch llawlyfr cyflogeion
-
ystyried a fyddwch yn cynnig absenoldeb â thâl i’ch cyflogeion yn yr amgylchiadau hyn — nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol ond gallai ddarparu gwell cymorth i’ch staff a gwella recriwtio, cadw a lles
-
gwneud yn siŵr bod eich systemau Adnoddau Dynol yn gallu prosesu ceisiadau am wyliau gan ddechreuwyr newydd
-
cyfleu’r newidiadau i’ch gweithlu
Paratoi ar gyfer newidiadau i Ddiogelu rhag Diswyddo Annheg
Beth sydd angen i gyflogwyr wybod
Mae’r Llywodraeth yn bwriadu i’r mesurau canlynol, a ddeddfwyd gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025, ddod i rym o 1 Ionawr 2027 ymlaen.
Gostyngiad yn y cyfnod cymhwysol ar gyfer amddiffyniad rhag diswyddo annheg ‘cyffredin’ o ddwy flynedd i chwe mis
Nid oes unrhyw newidiadau i’r amddiffyniadau diwrnod cyntaf presennol yn erbyn gwahaniaethu a seiliau annheg awtomatig dros ddiswyddo.
Mae hyn yn golygu y bydd gan gyflogeion sydd â chyflogaeth barhaus am o leiaf chwe mis ar 1 Ionawr 2027 hawl i hawlio diswyddiad annheg.
Gostyngiad yn y cyfnod cymhwysol ar gyfer hawl cyflogeion i ofyn am resymau ysgrifenedig dros ddiswyddo o ddwy flynedd i chwe mis
Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyfnod cymhwysol byrrach ar gyfer amddiffyniadau cyflogeion rhag diswyddo annheg ’cyffredin’.
Dileu’r cyfnod cymhwysol ar gyfer amddiffyniad rhag diswyddo annheg oherwydd euogfarnau sydd wedi darfod
Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn dileu’r cyfnod cymhwysol ar gyfer y rhai sy’n cael eu diswyddo ar sail euogfarn sydd wedi darfod yn unol â Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Mae hwyrach bod cyflogeion yn gallu gwneud hawliad am ddiswyddo annheg o’r diwrnod cyntaf os ydynt wedi cael eu diswyddo ar sail euogfarn sydd wedi darfod.
Camau nesaf
Ar gyfer diswyddiadau gyda dyddiad terfynu effeithiol cyn 1 Ionawr 2027, bydd y system bresennol o gyfnod cymhwysol dwy flynedd ar gyfer amddiffyniadau diswyddo annheg ’cyffredin’ yn dal mewn grym.
I baratoi ar gyfer y newidiadau hyn i ddiswyddo annheg, mae’n bosibl y bydd eich sefydliad eisiau ceisio cyngor annibynnol wrth ystyried diweddaru eich polisïau cyflogaeth. Os ydych yn defnyddio cyfnod prawf contractiol, dylech ystyried sut y bydd yn gweithredu gyda chyfnod cymhwysol o chwe mis mewn grym.
Darllenwch am hawliau cyflogaeth newydd, gan gynnwys arweiniad i fusnesau a gweithwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan business.gov.
Ymgynghoriadau Helpu Gwaith i Dalu — Rhannwch Eich Barn
Daeth y Bil Hawliau Cyflogaeth yn gyfraith ym mis Rhagfyr 2025 ac mae bellach yn Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025.
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i ymgynghori ar weithredu’r rhaglen Helpu Gwaith i Dalu — y mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn rhan ganolog ohoni. Mae’r Adran Busnes a Masnachu ar hyn o bryd yn ceisio barn ar y canlynol:
- amddiffyniad rhag niwed am gymryd camau gweithredu diwydiannol —mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Ebrill
- gweithio hyblyg — mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 30 Ebrill
- Gwaith asiantaeth — mae’r ymgynghoriad yn cau ar 1 Mai
- trothwy ar gyfer sbarduno rhwymedigaethau diswyddo torfol — mae’r ymgynghoriad yn cau ar 21 Mai
Ymrwymodd y Cynllun i Helpu Gwaith i Dalu i ymgynghori’n llawn a chynhwysfawr ar y gweithrediad hwn. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau, undebau llafur, cyflogwyr y sector cyhoeddus a chymdeithas sifil i sicrhau bod diwygiadau’n effeithiol ac yn gynhwysol. Mae er budd pawb cael y berthynas rhwng y cyflogwr a’r cyflogai’n iawn. Bydd yr holl ymgynghoriadau hyn yn ganolog i lunio gweithrediad ymarferol y ddeddfwriaeth hon ac yn ein helpu gwaith i dalu am y ddau.
Mae’r holl ymgynghoriadau cyfredol, ynghyd â manylion ymgynghoriadau caeedig a chanlyniadau cyhoeddedig, ar gael yn Helpu Gwaith i Dalu (yn agor tudalen Saesneg).
Mae arweiniad a chymorth yn rhad ac am ddim ar baratoi ar gyfer newidiadau i hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) sydd ar ddod hefyd ar gael ar wefan business.gov.
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
-
argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
-
i gadw’r ddogfen fel PDF:
-
dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
-
ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
-
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu darllen, drwy anfon e-bost at GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.