Canllawiau

Bwletin y Cyflogwr: Ebrill 2026

Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.

Dogfennau

Manylion

Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.

Mae rhifyn mis Ebrill o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:

  • Nodyn atgoffa o ddyddiadau a phrosesau allweddol ar gyfer rhoi gwybod am fuddiannau (BiKs)

  • Problemau cyflwyno Gwybodaeth Amser Real — trin ID y Gyflogres yn anghywir

  • Dileu’r rhyddhad treth ar gyfer treuliau gweithio gartref nad ydynt yn cael eu had-dalu

  • Y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2026 ymlaen

  • Yr arolwg Dweud Wrth ABAB 2026

  • Newidiadau i Dâl Salwch Statudol — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.

Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ebrill 2026

Argraffu'r dudalen hon