Skip to main content
Canllawiau

Gwirio a yw neges destun a gawsoch gan CThEF yn ddilys

Gwiriwch restr o negeseuon testun diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw neges destun rydych wedi’i chael yn sgam.

Os nad yw’ch neges destun wedi’i rhestru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.

Negeseuon wedi’u brandio

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid. Bydd y rhain yn edrych yn wahanol i’n negeseuon testun safonol.

Bydd y negeseuon hyn sydd wedi’u brandio yn:

  • dangos Cyllid a Thollau EF fel yr anfonwr
  • cynnwys logo CThEF
  • cynnwys gwybodaeth am yr anfonwr sydd wedi’i ddilysu

Dylech hefyd ddarllen ein harweiniad ar sut i adnabod cyswllt amheus.

Os nad yw’ch dyfais yn un sy’n cydweddu i dderbyn neges Gwasanaethau Cyfathrebu Cyfoethog (RCS), bydd y neges wedi’i brandio yn ymddangos fel neges destun safonol.

Cysylltiadau mewn negeseuon testun

Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.

Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i wasanaeth sgwrs dros y we CThEF.

Ni fydd CThEF byth yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol wrth anfon negeseuon testun atoch.

Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, dylech anfon unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol) neu drwy e-bost: phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch y negeseuon testun hynny.

Budd-dal Plant

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun er mwyn cadarnhau’r canlynol:

  • bod eich hawliad am Fudd-dal Plant wedi ein cyrraedd
  • bod eich cais i ymestyn eich Budd-dal Plant wedi ein cyrraedd
  • eich bod wedi optio mewn neu optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant yn llwyddiannus
  • newid i’ch cyfrif
  • bod hawliad wedi bod yn llwyddiannus

Negeseuon testun i gadarnhau a diweddaru

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun i gadarnhau ein bod wedi cael y canlynol oddi wrthych:

  • hawliad
  • ffurflen
  • gohebiaeth arall

Treth Gorfforaeth — dilyniant i’ch galwad ffôn gyda llinell gymorth Treth Gorfforaeth

Mae’n bosibl bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os ydych wedi ffonio’r llinell gymorth Treth Gorfforaeth, a’n bod wedi cadw eich rhif ffôn symudol. Bydd y neges yn gwneud y canlynol:

  • rhoi crynodeb o’r hyn a drafodwyd yn ystod yr alwad ffôn
  • cadarnhau bod eich ymholiad yn cael ei brosesu
  • rhoi amserlen disgwyliedig

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom. Nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Adennill Dyledion

O 15 Mehefin 2026 hyd at a chan gynnwys 14 Rhagfyr 2026, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch er mwyn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • nid yw’ch taliad wedi dod i law, a hoffem eich helpu i osgoi unrhyw gosbau neu log pellach
  • bod credyd ar eich cyfrif, a hoffem drafod hyn â chi dros y ffôn
  • rydym wedi gofyn i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu gadw rhywfaint o arian yn eich cyfrif busnes

Gyrwyr cwmnïau cludo brys — nodyn atgoffa ynghylch cyfweliad

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch er mwyn:

  • cadarnhau bod llythyr wedi’i anfon atoch ynghylch cyfweliad
  • eich atgoffa i drefnu apwyntiad dros y ffôn

Ni fydd y neges destun yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • arwain yn uniongyrchol at unrhyw wefan

Cytundeb Setliad TWE

O 28 Chwefror 2026 ymlaen, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun.

Gall CThEF anfon neges destun atoch os ydych wedi ffonio’r Ganolfan Cyswllt Cymraeg i wneud y canlynol:

  • crynhoi’r hyn a drafodwyd gennych yn yr alwad
  • cadarnhau bod eich ymholiad yn cael ei brosesu 
  • rhoi amserlen ddisgwyliedig i chi

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom. Nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Cwynion TWE neu Hunanasesiad

O 27 Ebrill 2026 ymlaen, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun. 

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os ydych wedi gwneud cwyn ynglŷn â TWE neu Hunanasesiad er mwyn gwneud y canlynol: 

  • rhoi gwybod i chi bod eich cwyn yn cael ei hadolygu
  • rhoi gwybod i chi y bydd rhywun yn eich ffonio ar y diwrnod nesaf er mwyn trafod eich cwyn
  • egluro ei bod hi’n bosibl y bydd ein rhif ffôn yn ymddangos fel rhif sydd wedi’i ddal yn ôl pan fyddwn yn eich ffonio

Nid oes angen i chi gysylltu â ni.

Rhyddhad blwydd-dal ymddeol

O 29 Medi 2026 ymlaen, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os ydym wedi ysgrifennu atoch ynghylch hawliad am ryddhad blwydd-dal ymddeol.

Bydd y neges destun yn gofyn i chi:

  • adolygu’ch hawliad am ryddhad blwydd-dal ymddeol
  • gwirio’r cyfraniadau a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025
  • cywiro’ch Ffurflen Dreth os yw unrhyw wybodaeth yn anghywir

Ni fydd y neges destun yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • cynnwys dolenni i wefannau

Apeliadau ynghylch cosbau Hunanasesiad

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os ydych yn apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad.

Bydd y neges destun yn cadarnhau’r canlynol:

  • bod eich apêl wedi’i hadolygu
  • pryd y gallwch ddisgwyl y canlyniad

Ni fydd y negeseuon testun hyn yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau

Ad-daliadau Treth Hunanasesiad

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch os byddwch yn gofyn am ad-daliad treth hunanasesiad.

Bydd y neges destun yn cadarnhau’r canlynol:

  • bod eich ad-daliad treth yn cael ei brosesu
  • pryd y gallwch ddisgwyl ei gael

Ni fydd y neges testun yn gwneud y canlynol:

  • gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau

Treth Hunanasesiad gorddyledus

O 5 Hydref 2026 hyd at a chan gynnwys 9 Hydref 2026, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun.

Bydd y neges destun yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i chi bod eich Hunanasesiad yn orddyledus
  • rhoi gwybod i chi wirio’ch cyfrif ar-lein
  • eich cyfeirio at GOV.UK

Ni fydd y neges destun yn:

  • gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • cynnwys unrhyw gysylltiadau i wefannau

Arolwg yn dilyn galwad i CThEF neu wiriad cydymffurfio

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon arolwg atoch ar ôl gadael drwy neges destun os ydych wedi gwneud y canlynol:

  • cytuno i roi adborth ar ôl ffonio un o’n canolfannau cyswllt

  • mynd drwy wiriad cydymffurfio

Ni fydd y neges destun hon yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol

  • cynnwys unrhyw rifau ffôn

  • darparu cysylltiadau i wefannau ar wahân i blatfform yr arolwg

Ad-daliad treth — P800

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn anfon neges destun atoch yn rhoi gwybod bod ad-daliad treth yn ddyledus i chi (a elwir hefyd yn ‘ad-daliad P800’) os nad ydynt wedi cael ymateb i’r llythyr.

Ni fydd yn:

  • gofyn i chi am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • darparu unrhyw gysylltiadau i wefannau

Dysgwch sut i hawlio’ch ad-daliad.

Diweddariadau ynghylch cais cofrestru TAW

O 5 Hydref 2026 ymlaen, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun.

Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi ynghylch eich Cofrestriad TAW.

Efallai y bydd y neges destun yn gwneud y canlynol:

  • cadarnhau bod eich ymholiad yn cael ei brosesu
  • gofyn i chi ymateb i’n e-bost neu’n llythyr
  • rhoi diweddariad i chi ar gynnydd eich cais

Ni fydd y neges destun yn:

  • gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol
  • arwain yn uniongyrchol at unrhyw wefan

Negeseuon testun eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r negeseuon testun a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull o gyfathrebu.

Argraffu'r dudalen hon