Canllawiau

Gwirio a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael gan CThEF yn ddilys

Gwirio rhestr o gysylltiadau ffôn diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael yn sgam.

Os nad yw’ch galwad ffôn wedi’i rhestru yma, gwiriwch gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Rheoli dyledion

Mae CThEF yn anfon negeseuon llais at rai cwsmeriaid, sy’n esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Bydd cwsmeriaid yn cael y rhain fel galwad ffôn i ffonau llinell dir a ffonau symudol. Byddan nhw’n rhoi gwybodaeth am dalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) neu rif ffôn llinell gymorth.

Mae CThEF hefyd yn anfon negeseuon sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio’r wybodaeth gywir wrth dalu.

Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol o unrhyw fath.

Treth Etifeddiant — Haenau cyfradd sero

O 6 Hydref 2025 hyd at a chan gynnwys 28 Tachwedd 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan CThEF.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn adborth byr. Byddwn yn rhoi’r cyfle i chi i rannu’ch profiad o ddelio â rheolau haen cyfradd sero Treth Etifeddiant, gan gynnwys haenau cyfradd sero preswyl a throsglwyddadwy, wrth lenwi ffurflen IHT400.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol.  Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych:

  • yn ddienw

  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ymchwil i drefnu gwaith tramor dros dro

O 22 Medi 2025 hyd at a chan gynnwys 28 Tachwedd 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan IFF Research.

Mae IFF Research yn gweithio gyda CThEF ac efallai y bydd yn cysylltu â chi dros y ffôn.

Efallai y bydd yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n edrych ar brofiadau busnesau sy’n trefnu gwaith tramor dros dro gan gynnwys teithiau busnes byr.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
  • yn cael ei chadw’n ddiogel bob amser yn unol â chyfraith diogelu data

Galwadau ffôn eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r galwadau ffôn a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Tachwedd 2025 show all updates
  1. Contact date for 'Inheritance Tax — nil rate bands' has been extended to Friday 28 November 2025.

  2. Information about 'Inheritance Tax — nil rate bands' has been added.

  3. Added translation

  4. Information about ‘Research into arranging temporary work abroad’ has been added.

  5. Information about 'Electronic invoicing — small and medium business usage and attitudes' has been added.

  6. Information about pension research has been added.

  7. Information about 'temporary overseas working — social security research' has been added.

  8. Information about 'VAT on private school fees — registration reminder' has been added.

  9. Information about Capital Gains Tax when selling a rental property research has been added.

  10. Information about Single Trade Window user testing has been added to the page.

  11. Research on Enterprise Investment Schemes has been extended to Wednesday 31 January 2024.

  12. Information about Enterprise Investment Schemes research has been added.

  13. Added translation

  14. Inheritance Tax and property valuation research and customs declaration follow-up research contacts added.

  15. We have added 'New starter checklist research' and removed 'Coronavirus Job Retention Scheme — research about employers' experiences'.

  16. Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been added.

  17. Added translation

  18. Added information on Self Assessment tax return — research with first-time customers.

  19. Added information on Haulier's Survey.

  20. Added information on research to understand customer experiences of making a tax code amendment or correction.

  21. Added 'Digital Products and Services ― research with businesses and agents' section.

  22. Added 'VAT returns communications campaign ― research with businesses' section.

  23. A road hauliers survey will be carried out between August 2021 and 31 October 2021.You may get a telephone call from IFF Research to invite you to take part.

  24. Added translation

Argraffu'r dudalen hon