Skip to main content
Canllawiau

Adnabod sgamiau treth sydd dros y ffôn, negeseuon testun, e-byst neu ar gyfryngau cymdeithasol

Defnyddiwch y rhestr wirio hon er mwyn penderfynu a yw galwad ffôn, neges destun (SMS), e-bost neu gyfrif amheus ar y cyfryngau cymdeithasol yn sgam.

Gwirio’r hyn y dylech chwilio amdano gyntaf

Defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol er mwyn penderfynu a yw’r ohebiaeth yr ydych wedi’i chael yn sgam. Gallwch ei defnyddio ar gyfer galwadau ffôn, e-byst, negeseuon testun neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gall yr ohebiaeth fod yn sgam os yw’n:

  • eich rhuthro
  • fygythiol
  • annisgwyl
  • gofyn am wybodaeth bersonol megis manylion banc
  • gofyn i chi drosglwyddo arian
  • cynnig ad-daliad, ad-daliad treth neu grant

Am ragor o help, gweler enghreifftiau o e-byst gwe-rwydo a gohebiaeth ffug sy’n honni cysylltiad â CThEF.

Gwiriwch ein rhestr o ohebiaeth ddilys ac ymgyrchoedd dilys CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw’r hyn yr ydych wedi’i gael yn ddilys.

Pethau eraill i fod yn wyliadwrus ohonynt

Galwadau ffôn amheus

Ni fydd CThEF byth:

  • yn gadael lleisbost sy’n bygwth camau cyfreithiol
  • yn bygwth eich arestio

Gweler enghreifftiau o alwadau ffôn ffug.

Negeseuon testun

Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.

Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i sgwrs CThEF dros y we.

Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol) neu drwy e-bost: phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch y negeseuon testun hynny.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn gyda sefydliadau eraill er mwyn mynd i’r afael â sgamiau.

Negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol

Ni fydd CThEF yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud y canlynol:

  • cynnig ad-daliad treth
  • gwneud cais am wybodaeth bersonol neu ariannol

Os na allwch ddilysu cyfrif sy’n honni mai CThEF ydyw, peidiwch ag ateb na rhannu unrhyw wybodaeth. Dylech anfon y manylion am enw’r cyfrif a’r platfform cyfrwng cymdeithasol at: branddefence@hmrc.gov.uk, a’i anwybyddu.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost gyda sefydliadau eraill er mwyn mynd i’r afael â sgamiau.

Negeseuon WhatsApp

Os ydych chi wedi tanysgrifio i sianel Llywodraeth y DU ar WhatsApp (yn agor tudalen Saesneg), byddwch yn cael diweddariadau a allai gynnwys negeseuon atgoffa achlysurol sy’n gysylltiedig â threth. Bydd y rhain yn hysbysiadau neges sengl ac ni fyddwch yn gallu ymateb.

Ni fydd CThEF yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall gan ddefnyddio WhatsApp.

Codau QR

Mae CThEF yn defnyddio codau QR yn ein llythyrau a’n gohebiaeth. Bydd y cod QR fel arfer yn mynd â chi i arweiniad ar GOV.UK. Byddwn yn dweud wrthych os yw’r cod QR yn mynd â chi i unrhyw le arall.

Ni fyddwch byth yn cael eich cymryd i dudalen lle mae’n rhaid i chi fewnbynnu gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif CThEF, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio codau QR i’ch ailgyfeirio. Er enghraifft, i fynd â chi i dudalen mewngofnodi’ch banc.

Os ydym yn defnyddio codau QR mewn cyfathrebiadau, gallwch eu gweld ar dudalen cysylltiadau dilys CThEF.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw e-byst amheus sy’n cynnwys codau QR i phishing@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch nhw.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich cyfeiriad e-bost gyda sefydliadau eraill er mwyn mynd i’r afael â sgamiau.

Talebau anrhegion neu dalebau talu

Ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu drwy ddefnyddio talebau anrhegion na thalebau talu ar unrhyw adeg.

Os ydych eisoes wedi rhannu manylion personol

Gallwch roi gwybod i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF fod gwybodaeth bersonol wedi’i datgelu.

Os ydych wedi dioddef sgam a cholli arian, rhowch wybod am hyn i Report Fraud drwy ei wefan neu rhowch wybod i Heddlu’r Alban drwy alw 101 os ydych yn byw yn yr Alban.

Argraffu'r dudalen hon