Deunydd hyrwyddo

Y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio — adnoddau cyfathrebu

Mae’r adnoddau hyn wedi’u neilltuo i’ch galluogi chi i rannu’r wybodaeth am y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio sydd ar ddod yn gywir ac yn amserol â’ch aelodau.

Dogfennau

Taflenni

Taflenni ar gyfer argraffu a sianeli digidol

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Delweddau cyfryngau cymdeithasol Facebook

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Delweddau cyfryngau cymdeithasol Linkedin

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Fideo YouTube

Manylion

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys deunydd cynorthwyol i gymdeithasau masnach, grwpiau diwydiannol, cynrychiolwyr corfforaethol a sefydliadau eraill. Drwy rannu’r adnoddau hyn, byddwch chi’n galluogi’r busnesau yn eich rhwydwaith chi i ddeall a pharatoi ar gyfer y rheoliadau newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2026.

Sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn

  • dosbarthwch yr adnoddau hyn i’ch aelodau, cleientiaid a’ch cwsmeriaid i sicrhau eu bod nhw’n gwybod am y prif newidiadau a’r gofynion o ran cydymffurfio

  • integreiddiwch y testun yn rhan o’ch briffiau, cylchlythyrau a’ch gohebiaeth allanol

  • anogwch eich aelodau i weithredu’n gynnar ac ymgynghori ag arweiniad swyddogol gan CThEF am fanylion pellach

Pam mae hyn yn bwysig

Drwy rannu’r adnoddau hyn yn rhagweithiol, byddwch chi’n helpu’ch aelodau i gydymffurfio, lleihau tarfu arnyn nhw, a pharatoi ar gyfer y gofynion o ran y doll a stampiau newydd. Mae cyfathrebu’n rhagweithiol yn cynorthwyo cyfnod o bontio sy’n esmwyth ac yn lleihau’r risgiau o gael cosbau neu unrhyw darfu ar y busnes.

Camau nesaf

Cyflwynwch yr adnoddau yn y pecyn hwn ar draws pob sianel sydd gennych chi at ddiben cyfathrebu.

Tynnwch sylw at yr wybodaeth er mwyn i’r neges gyrraedd pob un gynulleidfa berthnasol yn eich rhwydwaith.

Cyfeiriwch eich aelodau at GOV.UK ac unrhyw ddiweddariadau gan CThEF fel eu bod nhw’n cael yr wybodaeth gydymffurfio a’r arweiniad diweddaraf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2026

Argraffu'r dudalen hon