Deunydd hyrwyddo

Negeseuon allweddol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd

Cyhoeddwyd 10 Chwefror 2026

Rydym wedi creu’r negeseuon allweddol canlynol ar gyfer cynulleidfaoedd targedig, y gellir eu defnyddio ar gyfer cylchlythyrau neu fwletinau.

1. Gweithgynhyrchwr yn y DU

Galw am weithredu Neges
Sicrhewch fod trefn ar eich dogfennau Paratowch yr holl ddogfennau gofynnol, fel eich cynllun busnes a chynllun eich safle cyn i geisiadau agor.
Sefydlwch eich cyfrifon Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth a Chyfrif Treth Busnes yn barod i’w ddefnyddio.
Gwiriwch yr arweiniad diweddaraf Gwiriwch GOV.UK yn rheolaidd am ddiweddariadau a chyfarwyddiadau manwl.
Byddwch yn gyfarwydd â’r holl wybodaeth Tanysgrifiwch i gael y diweddaraf gan CThEF ac ychwanegwch unrhyw ddyddiadau pwysig o ran cydymffurfiad at eich calendr.
Ymgysylltwch â’ch diwydiant Cadwch mewn cysylltiad â grwpiau gwaith yn y diwydiant a dilynwch CThEF i glywed y diweddaraf am y cymorth sydd ar gael.
Gwnewch gais yn gynnar Cyflwynwch eich cais cyn gynted â bo ceisiadau yn agor. Bydd hyn yn helpu gwneud yn siŵr bod gennych chi gymeradwyaeth mewn pryd a gallwch chi barhau i fasnachu o 1 Hydref 2026 ymlaen.

2. Ceidwaid warysau yn y DU

Galw am weithredu Neges
Ychwanegwch gynhyrchion fepio at eich rhestr gymeradwyo Sicrhewch eich bod chi’n deall y broses a pha gamau y mae angen i chi eu dilyn.
Dysgwch beth yw eich cyfrifoldebau Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall y rheolau ar gyfer storio, symud, a rhyddhau cynhyrchion fepio o dan ohiriad tollau.
Cadwch gofnodion cywir Cofnodwch yr holl gynnyrch fepio sydd wedi’i stori neu wedi’i symud er mwyn osgoi cael cosb.
Gweithiwch gyda’ch cadwyn gyflenwi Cydlynwch â mewnforwyr a gweithgynhyrchwyr i sicrhau bod yr holl gynnyrch wedi’i stampio ac yn bodloni’r gofynion o ran stampiau.
Byddwch yn gyfarwydd â’r holl wybodaeth Dilynwch CThEF er mwyn cael clywed y diweddaraf a dilynwch arweiniad gan gymdeithasau masnachu am gymorth.
Gwiriwch am stampiau’r doll Gwnewch yn siŵr bod pob cynnyrch fepio yn gadael eich warws, sy’n mynd i’r DU, â stamp y doll fepio arno ef. Mae unrhyw gynhyrchion heb stamp yn anghyfreithlon a gallai hynny arwain at gael cosb.

3. Mewnforwyr

Galw am weithredu Neges
Byddwch yn gyfarwydd â’r holl wybodaeth Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n clywed y diweddaraf am newidiadau i brosesau’r tollau ac ecséis ar gyfer cynhyrchion fepio.
Cydlynwch â’ch warws Os ydych chi’n defnyddio warws, gweithiwch gyda cheidwad eich warws i fodloni’r gofynion o ran y tollau.
Rhowch gymorth i sicrhau cadwyn gyflenwi gyfrifol Ymfalchïwch yn y gwaith o helpu creu cadwyn gyflenwi gyfreithlon, sy’n cydymffurfio.

4. Gweithgynhyrchwyr tramor

Galw am weithredu Neges
Paratowch eich dogfennau Gwnewch yn siŵr bod eich cynllun busnes a’ch dogfennau ategol wedi’u diweddaru ac yn barod i’w rhannu â’ch cynrychiolydd yn y DU.
Penodwch gynrychiolydd yn y DU Bydd eich cynrychiolydd yn gwneud cais am gymeradwyaeth i Gynllun Stampiau’r Doll Fepio ar eich rhan pan fydd ceisiadau yn agor ym mis Ebrill.
Monitro’r diweddaraf Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n clywed y diweddaraf gan CThEF a’ch cynrychiolydd yn y DU am unrhyw newidiadau i’r gofynion.

5. Cynrychiolwyr yn y DU (ar gyfer manwerthwyr tramor)

Galw am weithredu Neges
Gwnewch gais am gymeradwyaeth Gwnewch gais am Gynllun Stampiau’r Doll Fepio pan fydd ceisiadau yn agor.
Cofrestrwch gyda chyflenwr y stampiau Prynwch stampiau ar ran eich cleientiaid tramor.
Rhowch wybod i’ch gweithgynhyrchwyr Gwnewch yn siŵr bod gan y gweithgynhyrchwyr gynllun busnes a dogfennau ategol diweddar yn barod fel y gallwch chi wneud cais mewn pryd.
Anfonwch stampiau’n uniongyrchol Gwnewch yn siŵr bod stampiau’n mynd yn syth at y gweithgynhyrchwyr tramor fel y gallan nhw roi’r stampiau ar eu cynnyrch.
Byddwch yn gyfarwydd â’r holl wybodaeth Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod beth yw’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant a beth yw’r arweiniad diweddaraf gan CThEF.

6. Manwerthwyr

Galw am weithredu Neges
Addysgwch eich staff Hyfforddwch nhw ynglŷn â phwysigrwydd trin nwyddau ecséis a stampiau treth yn ofalus. 
Defnyddiwch adnoddau dibynadwy Gwiriwch arweiniad gan CThEF a chymdeithasau masnachu ar y cyfnod pontio rhwng defnyddio’r stampiau dros dro a defnyddio’r rhai arferol.
Stampiau’r doll fepio Cyn 1 Hydref 2026, gellir gosod stamp dros dro ar gynhyrchion yn y gadwyn gyflenwi. O 1 Hydref 2026 ymlaen, mae’n rhaid i bob stamp sy’n cael ei osod gynnwys elfen ddigidol. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn yr hyn sy’n ymddangos ar y silffoedd am ychydig, wrth i’r stoc stampiedig dros dro hwn basio drwodd.