Sample email
Cyhoeddwyd 10 Chwefror 2026
Rhagarweiniad
Annwyl Randdeiliad,
Fel byddwch chi’n gwybod eisoes, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Doll Cynhyrchion Fepio a Stampiau’r Doll Fepio o 1 Hydref 2026 ymlaen.
Bydd y Doll Cynhyrchion Fepio yn berthnasol i bob hylif fepio (neu e-hylif) sy’n cael eu gwerthu neu eu cyflenwi yn y DU. Bydd hyn ar gyfradd unffurf o £2.20 am bob 10ml ac mae’n rhaid atodi Stampiau’r Doll Fepio i gynhyrchion fepio unigol.
Mae’n rhaid i fusnesau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu neu fewnforio cynhyrchion fepio, neu storio cynhyrchion fepio sydd â gohiriad tollau arnyn nhw, wneud cais am gymeradwyaeth i barhau i weithredu. Os na chewch chi gymeradwyaeth ac os byddwch chi’n parhau i gynhyrchu cynhyrchion fepio, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb.
Bydd ceisiadau am gymeradwyaeth yn agor ar 1 Ebrill 2026 — rydyn ni’n annog busnesau i baratoi nawr er mwyn osgoi unrhyw darfu arnyn nhw.
Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau:
- mae’n rhaid i weithgynhyrchwyr cynhyrchion fepio yn y DU wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio
- ceidwaid warysau (tollau ac ecséis):
- gall pob ceidwad warysau wneud cais yn uniongyrchol am gymeradwyaeth o dan Gynllun Stampiau’r Doll Fepio
- mae’n rhaid i geidwaid warysau newydd wneud cais am gymeradwyaeth i storio cynhyrchion fepio yn eu warws nhw
- mae’n rhaid i geidwaid warysau ecséis presennol wneud cais am addasu eu cymeradwyaeth bresennol i gynnwys cynhyrchion fepio
- dylai ceidwaid warysau tollau presennol wneud yn siŵr bod eu cymeradwyaeth yn cwmpasu cynhyrchion fepio cyn derbyn y rhain i’w safle
- mae’n rhaid i weithgynhyrchwyr tramor benodi cynrychiolydd yn y DU i wneud cais am Gynllun Stampiau’r Doll Fepio ar eu rhan
- bydd gofyn i fewnforwyr dalu’r doll newydd — mae’n rhaid iddyn nhw hefyd gofrestru ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio os ydyn nhw’n gweithredu fel cynrychiolydd yn y DU ar gyfer gweithgynhyrchwr tramor
- gall cynrychiolwyr yn y DU wneud cais am gymeradwyaeth i ddefnyddio Cynllun Stampiau’r Doll Fepio a chofrestru gyda chyflenwr y stampiau er mwyn prynu stampiau ar gyfer eu cleientiaid tramor, hynny yw’r gweithgynhyrchwyr
- o 1 Hydref ymlaen, bydd manwerthwyr i ddechrau yn gweld stamp dros dro ar gynhyrchion sydd â’r doll wedi’i thalu. Bydd stamp safonol y doll yn cymryd lle’r stamp arall yn raddol wrth i amser fynd yn ei flaen
Mae’r Doll Cynhyrchion Fepio a Stampiau’r Doll Fepio yn rhan o Gynllun Newid y Llywodraeth i greu cenhedlaeth sydd ddim yn ysmygu yn ogystal â mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc.
Rhagor o wybodaeth
- ewch ymlaen a dechreuwch Paratoi ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio
- am restr lawn o bwy sydd angen gweithredu, ewch i Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio: gwybodaeth fanwl
- os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio, gallwch anfon e-bost at dîm y Doll Cynhyrchion Fepio. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r tîm hwn os hoffech chi gael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu i gael clywed y diweddaraf am y doll fepio yn y dyfodol
Beth mae CThEF yn ei ofyn gennych chi
I helpu cwsmeriaid a fydd angen gweithredu, byddwn ni’n rhoi rhai cynhyrchion yn y pecyn hwn efallai y bydd yn ddefnyddiol wrth i chi gyfathrebu am hyn.
Os gwelwch yn dda, naill ai ailrannwch beth mae CThEF wedi’i gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol neu defnyddiwch yr asedion i greu eich cynnwys eich hun ar y pwnc.
Sgamiau a gwe-rwydo
Gall sgamiau a gwe-rwydo o ran treth ddigwydd mewn sawl gwahanol ffordd. Mae rhai yn cynnig ad-daliad, mae rhai yn honni bod yn rhaid i chi ddiweddaru hen fanylion, ac mae rhai hyd yn oed yn bygwth eich arestio am osgoi treth.
Peidiwch byth â gadael i chi’ch hun gael eich rhuthro. Os yw galwad ffôn, neges destun neu e-bost yn amheus neu’n annisgwyl, peidiwch â rhoi gwybodaeth breifat nac ateb, a pheidiwch â lawrlwytho atodiadau na chlicio ar gysylltiadau.
Gallwch chi wirio ar GOV.UK p’un a yw’r cyswllt wedi dod oddi wrth CThEF mewn gwirionedd. Os nad ydych chi’n siŵr am neges destun sy’n honni ei bod wedi dod gan CThEF, anfonwch hi ymlaen at 60599, neu anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk: phishing@hmrc.gov.uk
Rhowch wybod am alwad ffôn dwyllodrus ar GOV.UK. Drwy roi gwybod am e-byst gwe-rwydo, rydych chi’n helpu i roi stop ar weithgarwch troseddol ac yn atal pobl eraill rhag cael eu twyllo.