Deunydd hyrwyddo

Negeseuon cyfryngau cymdeithasol

Cyhoeddwyd 10 Chwefror 2026

Gweler isod y lluniau a’r cynnwys y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer ein deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae pob croeso i chi i ddefnyddio’r rhain i greu eich cynnwys eich hun neu ewch i dudalennau CThEF ar Facebook, Instagram ac ar LinkedIn er mwyn rhannu ein cynnwys yn ehangach.

LinkedIn

Toll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio newydd o 1 Hydref 2026 ymlaen — Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae newidiadau mawr ar ddod i fusnesau fêps — ydych chi’n barod?

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio cyn i’r rhain ddod i rym ar 1 Hydref 2026.

Bydd angen i chi weithredu os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio
  • rydych chi’n storio cynhyrchion fepio sydd â tholl wedi’i gohirio arnyn nhw
  • rydych chi’n gweithredu fel cynrychiolydd y DU i brynu stampiau’r doll ar gyfer gwneuthurwr tramor

Efallai y bydd angen i chi weithredu ar ôl 1 Hydref 2026 os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion fepio a bod angen i chi dalu’r doll.

Sut i baratoi ar gyfer y cais am gymeradwyaeth:

  • gwneud yn siŵr bod gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth a Chyfrif Treth Busnes
  • casglu’r holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch chi cyn i geisiadau agor
  • gwirio arweiniad ar archebu stampiau a’ch anghenion o ran offer
  • gwneud cais yn gynnar i wneud yn siŵr bod gennych chi gymeradwyaeth mewn da bryd cyn i’r newidiadau ddod i rym
  • tanysgrifio i gael y diweddaraf gan CThEF am ddyddiadau allweddol i’w hychwanegu at eich calendr
  • darllenwch yr arweiniad cyfan ar GOV.UK: https://www.gov.uk/government/collections/toll-cynhyrchion-fepio-ar-cynllun-stampiaur-doll-fepi-gwybodaeth-fanwl.cy


Paratoi ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio — Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae cyflwyno’r Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio yn newid hollbwysig i fusnesau yn y sector fêps.

Bydd angen i fusnesau wneud cais o 1 Ebrill 2026 ymlaen, a daw’r doll i rym ar 1 Hydref 2026.

Beth mae angen i chi ei wybod:

  1. Mae’r Doll Cynhyrchion Fepio yn gyfradd unffurf o £2.20 am bob 10ml o hylif fepio.
  2. Bydd Cynllun Stampiau’r Doll Fepio yn gofyn bod stampiau ar gynnyrch fepio.

Ar gyfer cynnyrch sydd o dan ohiriad tollau, bydd y doll yn daladwy pan ddaw’r trefniadau hynny i ben.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud:

  • gwneud cais yn gynnar i wneud yn siŵr eich bod wedi’ch cymeradwyo mewn pryd ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod
  • gwneud yn siŵr bod gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth a Chyfrif Treth Busnes
  • paratoi’r holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch chi cyn i geisiadau agor
  • tanysgrifio i gael y diweddaraf gan CThEF ac ychwanegwch unrhyw ddyddiadau pwysig o ran cydymffurfiad at eich calendr
  • gwirio arweiniad ar archebu stampiau a’ch anghenion o ran offer ymlaen llaw

Gwnewch gais am gymeradwyaeth ar gyfer cynllun y doll a’r stampiau o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Bydd angen i chi weithredu os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio
  • rydych chi’n dymuno storio cynhyrchion fepio sydd â tholl heb ei thalu
  • rydych chi’n dymuno gweithredu fel cynrychiolydd yn y DU i brynu stampiau’r doll ar gyfer gweithgynhyrchwr tramor
  • efallai y bydd angen i chi weithredu ar ôl 1 Hydref 2026 os ydych chi’n mewnforio cynhyrc###Suggested LinkedIn hashtagshion fepio a bod angen i chi dalu’r doll

Hashnodau LinkedIn a awgrymir

#DiweddariadTreth
#TollFepio
#CThEF
#TrethBusnes
#Cydymffurfiad
#BusnesynyDU
#StampiaurDoll
#CynhyrchionFepio

Facebook

Paratoi ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio — Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio cyn i’r rhain ddod i rym ar 1 Hydref 2026.

Beth mae angen i chi ei wybod:

  1. Mae’r Doll Cynhyrchion Fepio yn gyfradd unffurf o £2.20 am bob 10ml o hylif fepio.
  2. Bydd Cynllun Stampiau’r Doll Fepio yn gofyn bod stampiau ar gynnyrch fepio.

Bydd angen i chi weithredu os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio
  • rydych chi’n storio cynhyrchion fepio sydd â tholl wedi’i gohirio arnyn nhw
  • rydych chi’n gweithredu fel cynrychiolydd y DU i brynu stampiau’r doll ar gyfer gwneuthurwr tramor
  • gwnewch gais yn gynnar i wneud yn siŵr bod gennych chi gymeradwyaeth mewn da bryd cyn i’r newidiadau ddod i rym. Darllenwch yr arweiniad cyfan ar GOV.UK: https://www.gov.uk/government/collections/toll-cynhyrchion-fepio-ar-cynllun-stampiaur-doll-fepi-gwybodaeth-fanwl.cy

Toll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio newydd o 1 Hydref 2026 ymlaen — Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae newidiadau mawr ar ddod i fusnesau fêps — ydych chi’n barod?

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio cyn i’r rhain ddod i rym ar 1 Hydref 2026.

Bydd angen i chi weithredu os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n gweithgynhyrchu cynnyrch fepio
  • rydych chi’n storio cynhyrchion fepio sydd â tholl wedi’i gohirio arnyn nhw
  • rydych chi’n gweithredu fel cynrychiolydd y DU i brynu stampiau’r doll ar gyfer gwneuthurwr tramor

Efallai y bydd angen i chi weithredu ar ôl 1 Hydref 2026 os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion fepio a bod angen i chi dalu’r doll.

Sut i baratoi ar gyfer y cais am gymeradwyaeth:

  • gwneud yn siŵr bod gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth a Chyfrif Treth Busnes
  • casglu’r holl ddogfennau y bydd eu hangen arnoch chi cyn i geisiadau agor
  • gwirio arweiniad ar archebu stampiau a’ch anghenion o ran offer
  • gwneud cais yn gynnar i wneud yn siŵr bod gennych chi gymeradwyaeth mewn da bryd cyn i’r newidiadau ddod i rym.
  • tanysgrifio i gael y diweddaraf gan CThEF am ddyddiadau allweddol i’w hychwanegu at eich calendr
  • darllenwch yr arweiniad cyfan ar GOV.UK: https://www.gov.uk/government/collections/toll-cynhyrchion-fepio-ar-cynllun-stampiaur-doll-fepi-gwybodaeth-fanwl.cy

Hashnodau Facebook a awgrymir

#DiweddariadTreth
#TollFepio
#CThEF
#TrethBusnes
#Cydymffurfiad
#BusnesynyDU
#StampiaurDoll
#CynhyrchionFepio