Deunydd hyrwyddo

Cylchlythyrau

Cyhoeddwyd 10 Chwefror 2026

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio y bydd modd i chi ei chynnwys yn eich cylchlythyrau a’ch gohebiaeth allanol.

Cylchlythyr hir

Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno Toll Cynhyrchion Fepio ar gyfradd unffurf o £2.20 fesul 10ml o hylif fepio, ochr yn ochr â chynllun sy’n ei gwneud yn ofynnol i roi stampiau’r doll ar gynhyrchion fepio.

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i unrhyw fusnes sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu neu fewnforio cynhyrchion fepio, neu storio cynhyrchion fepio sydd â tholl wedi’i gohirio arnyn nhw, wneud cais am gymeradwyaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i barhau i weithredu yn y DU yn gyfreithlon unwaith y bydd y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio yn dod i rym.

Gyda dim ond chwe mis cyn i’r broses o gofrestru am gymeradwyaeth agor, mae CThEF yn annog pob busnes y bydd effaith arnyn nhw i baratoi nawr i osgoi tarfu arnyn nhw. Gallwch chi achub y blaen drwy wneud cais a dechrau Paratoi ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a chynllun Stampiau’r Doll Fepio.

Bydd angen i chi weithredu os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n gweithgynhyrchu cynhyrchion fepio

  • rydych chi’n storio cynhyrchion fepio sydd â tholl wedi’i gohirio arnyn nhw

  • rydych chi’n dymuno gweithredu fel cynrychiolydd yn y DU i brynu stampiau’r doll ar gyfer gweithgynhyrchwr tramor

Am restr lawn o bwy sydd angen gweithredu, ewch i Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio: gwybodaeth fanwl.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Doll Cynhyrchion Fepio a Chynllun Stampiau’r Doll Fepio, gallwch anfon e-bost at dîm y Doll Cynhyrchion Fepio. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r tîm hwn os hoffech chi gael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu i gael clywed y diweddaraf am y doll fepio yn y dyfodol.

Fersiwn fyrrach

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau sy’n gweithgynhyrchu, mewnforio, neu’n storio cynhyrchion fepio sydd â tholl wedi’i gohirio arnyn nhw wneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF er mwyn parhau i weithredu. Dylai busnesau ddechrau paratoi nawr i osgoi unrhyw darfu arnyn nhw.

Bydd y Doll Cynhyrchion Fepio yn berthnasol ar gyfradd unffurf o £2.20 am bob 10ml o hylif fepio, a bydd hi’n ofynnol i roi stampiau’r doll ar gynhyrchion fepio.