Canllawiau

Cofrestru’ch cynllun gwarantau ar sail cyflogaeth

Pryd a sut i roi gwybod i CThEF am gynlluniau gwarantau ar sail cyflogaeth (ERS) newydd.

Dyddiadau cau pwysig

Os nad ydych yn rhoi gwybod i CThEF o’ch cynllun gwarantau ar sail cyflogaeth (ERS) erbyn y dyddiadau cau canlynol, byddwch mewn perygl o golli unrhyw fuddiannau treth i chi a’ch cyflogeion. 

Cynlluniau sydd â mantais dreth

Dylech gofrestru cynlluniau sydd â mantais dreth newydd erbyn 6 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn dreth y cawsant eu sefydlu.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd angen i chi ddilyn y broses ar gyfer cofrestru’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg). 

Dysgwch sut mae gwarantau ar sail cyflogaeth yn gweithio os ydych chi’n gyflogwr (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys sut mae cynlluniau cyfranddaliadau sydd â mantais dreth yn gweithio.

Ar gyfer Cymhellion Rheoli Men-trau (EMI)

Ar gyfer opsiynau Cymhellion Rheoli Mentrau (EMI) a roddwyd cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 92 diwrnod i ddyddiad y grant (yn agor tudalen Saesneg).

Os rhoddir yr opsiynau ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyd-dyn dreth y gwneir y grant.

Cynlluniau sydd heb fantais dreth

Dim ond pan fydd digwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano — er enghraifft caffael neu waredu gwarantau, neu aseinio neu ryddhau opsiynau gwa-rantau — y bydd angen i chi gofrestru cynlluniau sydd heb fantais dreth.

Dylech gofrestru’ch cynllun sydd heb fan-tais dreth erbyn 6 Gorffennaf yn dilyn pryd y bu’r digwyddiad cyntaf y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano. 

Dysgwch sut mae gwarantau ar sail cyflogaeth yn gweithio os ydych yn gyflogwr (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys sut mae cynlluniau cyfranddaliadau sydd heb fantais dreth yn gweithio.

Cyn i chi gofrestru 

Cyn i chi gofrestru’ch cynllun ERSmae’n rhaid i chi gofrestru fel cyflogwr yn gyntaf.

Os oes angen i chi gofrestru fel cyflogwr, gall gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith i gael eich cyfeirnod TWE.

Unwaith y bydd gennych gyfeirnod TWE y cyflogwr, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth TWE ar-lein i gyflogwyr a’i actifadu.

Ychwanegu’r gwasanaeth TWE at Wasanaethau Ar-lein CThEF

Bydd angen eich cyfeirnod TWE a’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon arnoch. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y llythyr gan CThEF sy’n cadarnhau’ch cofrestriad.

  1. Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEF i gyflogwyr neu ewch ati i greu cyfrif.

  2. Dewiswch ‘Ychwanegu treth, toll neu gynllun nawr’.

  3. Dewiswch ‘Cyflogwyr neu gyfryngwyr, er enghraifft TWE i gyflogwyr neu CIS’.

  4. Dewiswch ‘Gwasanaethau ar-lein’.

  5. Cwblhewch yr wybodaeth sydd ei hangen ar y sgrin.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon cod actifadu atoch yn y post. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio hwn i actifadu’ch cyfrif cyn pen 28 diwrnod ar ôl cofrestru.

Cofrestru’ch cynllun ERS

Ar ôl i chi ychwanegu’r gwasanaeth TWE ar-lein, gallwch gofrestru’ch cynllun ERS gyda ni.

  1. Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF i gyflogwyr. 

  2. Ewch i’r adran ‘Gwarantau ar sail Cyflogaeth (ERS)’.

  3. Dewiswch ‘Cofrestrwch neu fwrw golwg dros eich cynlluniau a’ch trefniadau’.

  4. Dewiswch y math o gynllun ERS rydych am ei gofrestru a dewiswch ‘Nesaf’.

  5. Llenwch y datganiad hunanardystio.

  6. Mewngofnodwch eto i gwblhau’ch cofrestriad.

Bydd CThEF yn cyhoeddi cyfeirnod Cynllun ERS ar-lein cyn pen 7 diwrnod ar ôl cofrestru’ch cynllun ERS. Byddwch yn gallu dod o hyd i hyn ar eich Gwasanaethau Ar-lein CThEF drwy fwrw golwg dros yr adran ‘Gwarantau ar sail Cyflogaeth’ a dewiswch ‘Bwrw golwg dros gynlluniau a threfniadau’.

Ar ôl i chi gofrestru

Mae’n rhaid i chi naill ai:

  • cyflwyno’ch datganiad ERS
  • cyflwyno datganiad dim — os oes gennych unrhyw beth i’w adrodd

Mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad neu ddatganiad dim erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Sut i awdurdodi asiant i gyflwyno datganiadau ERS

Os ydych wedi gofyn i asiant reoli’ch cynllun ERS, bydd angen i chi eu hawdurdodi os ydych am iddynt gyflwyno datganiad ERS ar eich rhan. I wneud hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • gofyn i’r asiant gwblhau’r awdurdodiad
  • awdurdodi asiant trwy’ch cyfrif treth busnes

Bydd asiantau’n gallu bwrw golwg dros a chyflwyno datganiadau ar gynlluniau gwarantau ar sail cyflogaeth (ERS) sydd eisoes wedi’u cofrestru. Ni fyddant yn gallu cofrestru na dod â chynllun i ben.

Darllenwch ragor am sut i awdurdodi asiant drwy’ch cyfrif treth busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Hydref 2024 show all updates
  1. We have removed sections covering late registrations and ending an ERS scheme and link to new guidance for both. We have also updated guidance on where to find your ERS reference number.

  2. Information has been added to support late registrations and submitting nil returns.

  3. We have updated the guidance with more information about when to tell HMRC about a grant of an Enterprise Management Incentive (EMI) option.

  4. Before you submit your employment related securities return or notification, you need to save a copy of it for your own records. This is because the online service will not save the details and you will not be able to access them again.

  5. If you need to register as an employer, it can now take up to 15 working days to get your PAYE reference number.

  6. A Welsh translation has been added,

  7. Information about the 2 ways an agent can be authorised has been added to the 'How to authorise an agent to submit an ERS return' section.

  8. Guidance has been added to explain how to add employment related securities to HMRC Online Services and how to register employment related securities with HMRC. Steps have also been added to show how to authorise an agent to submit employment related security returns on your behalf.

  9. Guidance on how and when you'll get your scheme reference number has been updated.

  10. More information about how to tell HMRC about your ERS schemes has been added.

  11. First published.

Argraffu'r dudalen hon