Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Adroddiad monitro iaith Gymraeg Tŷ'r Cwmnïau 2025 i 2026

Cyhoeddwyd 14 Awst 2026

1. Cyflwyniad

Paratowyd Cynllun Iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg a chafodd gymeradwyaeth lawn Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 20 Ebrill 2010.

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn falch o fod â’i bencadlys yng Nghaerdydd ac o ddarparu gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid ledled Cymru. Ers sefydlu’r Uned Iaith Gymraeg yn 2020, rydym wedi cryfhau ein gallu i gefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn sylweddol ledled y sefydliad.

Mae’r Uned yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ar draws pob maes o’r sefydliad, gan ddarparu cyngor arbenigol, canllawiau a sicrwydd i gydweithwyr, perchnogion gwasanaethau ac uwch arweinwyr. Trwy fwy o gydweithio, codi ymwybyddiaeth a gwelliant parhaus, rydym wedi gwella ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel ac i gefnogi cydymffurfiaeth â’n Cynllun Iaith.

Ein nod yw sicrhau y gall cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg gael mynediad at wasanaethau yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg a’u bod yn cael eu trin yr un mor ffafriol â chwsmeriaid sy’n dewis rhyngweithio â ni yn Saesneg. Drwy gydweithio’n agos â thimau ar draws Tŷ’r Cwmnïau, mae Uned y Gymraeg yn helpu i sicrhau bod gofynion yr iaith Gymraeg yn cael eu hystyried wrth ddylunio, darparu a gwella ein gwasanaethau’n barhaus.

Mae datblygiad parhaus ein Huned y Gymraeg yn dangos ymrwymiad Tŷ’r Cwmnïau i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yn derbyn gwasanaeth cyfartal o ansawdd uchel ac yn gallu ymgysylltu â ni yn eu dewis iaith.

Rydym hefyd wedi cynnal Pwyllgor Iaith Gymraeg pwrpasol, sy’n darparu goruchwyliaeth a sicrwydd ar gyfer darpariaeth y Gymraeg ar draws Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd i fonitro perfformiad, adolygu cynnydd yn erbyn ymrwymiadau ein Cynllun Iaith, nodi meysydd i’w gwella a darparu cyfeiriad strategol.

Daw’r aelodau o bob rhan o Dŷ’r Cwmnïau, gan helpu i sicrhau bod ystyriaethau’r iaith Gymraeg wedi’u hymgorffori ledled y sefydliad. Cadeirydd y Pwyllgor yw’r Cyfarwyddwr Digidol a Thechnoleg, gan ddangos ymrwymiad ac atebolrwydd uwch arweinyddiaeth o ran darparu’r Gymraeg.

Er ein bod yn falch o’r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod adrodd, rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud bob amser. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wella taith ein cwsmeriaid Cymraeg a chryfhau argaeledd, cysondeb ac ansawdd ein gwasanaethau Cymraeg.

Drwy weithredu ein Cynllun Iaith newydd, byddwn yn parhau i ddyfnhau ein dealltwriaeth o anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg, yn defnyddio mewnwelediadau cwsmeriaid i lywio a gwella ein gwasanaethau. Byddwn yn sicrhau bod gofynion y Gymraeg yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf wrth ddatblygu gwasanaethau, polisïau, prosesau a thechnolegau newydd. Ein nod yw darparu gwasanaeth dwyieithog cyson o ansawdd uchel, gan alluogi cwsmeriaid i ryngweithio â Thŷ’r Cwmnïau yn hyderus yn y Gymraeg.

2. Cyflawniadau

Yn ystod y cyfnod adrodd, cryfhaodd Tŷ’r Cwmnïau ei gapasiti o ran Gymraeg drwy ehangu’r Uned Iaith a recriwtio dau rôl arbenigol newydd: Rheolwr Cyfieithu a Pholisi a Rheolwr Busnes a Pholisi. Mae’r rolau hyn yn cefnogi darpariaeth a datblygiad strategol gwasanaethau Cymraeg ar draws y sefydliad.

Mae’r penodiadau hyn wedi cynyddu capasiti ac arbenigedd yr Uned Iaith, gan gryfhau llywodraethant a chydymffurfiaeth, lleihau dibyniaeth ar gymorth allanol, a chefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau Cymraeg. Maent yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein rhwymedigaethau iaith Gymraeg wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

Yn ogystal, ym mis Tachwedd 2025, cyflwynodd Tŷ’r Cwmnïau linell ganolfan gyswllt bwrpasol ar gyfer y Gymraeg. Mae’r gwelliant hwn yn galluogi cwsmeriaid sy’n dymuno cynnal eu busnes yn y Gymraeg i gael eu cysylltu’n uniongyrchol â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg, sy’n golygu nad oes yn rhaid i gwsmeriaid ofyn am siaradwr Cymraeg ar ôl cysylltu â ni. Mae cyflwyno’r gwasanaeth hwn wedi gwella taith y cwsmer i siaradwyr Cymraeg, gan ddarparu profiad mwy cyson, ac yn dangos ein hymrwymiad i gynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol.

3. Cydymffurfiaeth â Chynllun y Gymraeg

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i fod wedi ymrwymo i gydymffurfio â’i Gynllun Iaith Gymraeg. O 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, fe wnaethom gyflawni’r canlynol:

Fe wnaeth ein Pwyllgor Iaith Gymraeg gyfarfod bob deufis i sicrhau cydymffurfiaeth â Chynllun Iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau ac adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu.

Parhaodd tîm o gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg o bob adran o Dŷ’r Cwmnïau i ddarparu cefnogaeth yn y Gymraeg drwy ymateb i ymholiadau cwsmeriaid.

Fe wnaethom barhau i adolygu canllawiau Tŷ’r Cwmnïau i sicrhau eu bod ar gael yn ddwyieithog, ac eithrio lle nad yw’r cynnwys yn berthnasol i gwmnïau Cymru, fel canllawiau sy’n berthnasol i gwmnïau’r Alban yn unig.

Cafodd cwsmeriaid a oedd yn gohebu â Thŷ’r Cwmnïau yn y Gymraeg ymateb yn y Gymraeg. Mae pob adran yn Nhŷ’r Cwmnïau yn cyfathrebu â’n Huned y Gymraeg i sicrhau bod y cwsmer yn cael gohebiaeth yn yr iaith o’u dewis. Darparodd yr Uned wasanaeth cyfieithu ar gyfer pob adran i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparwn o’r un ansawdd â’r Saesneg. Mae’r Uned Iaith hefyd wedi rhoi cyngor ac arweiniad i arweinwyr Gweithredol ar uwchsgilio siaradwyr Cymraeg.

Rydym wedi recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod pobl wrth law sydd â’r wybodaeth angenrheidiol i ddelio ag unrhyw ffeilio Cymraeg sy’n cyrraedd.

Cafodd cyfrifon Cymraeg a ddaeth i law gan gwmnïau Cymreig eu cyfieithu i’r Saesneg ar gyfer y cofnod cyhoeddus, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Parhaodd cyflenwr allanol i ddarparu’r cyfieithiadau hyn er mwyn sicrhau cyhoeddiad amserol. Fe wnaethom hefyd barhau i roi anodiad ar y cyfrifon a oedd yn aros am gyfieithiad fel bod defnyddwyr, gan gynnwys asiantaethau cyfeirio credyd, yn ymwybodol bod fersiwn Saesneg ar y ffordd.

Yn ogystal, fe wnaethom barhau i gyfieithu gohebiaeth i’r Gymraeg i fodloni gofynion ein Cynllun Iaith. Roedd hyn yn cynnwys llythyrau, ffurflenni, canllawiau, a chyfieithiadau ar gyfer ein gwasanaethau ffeilio ar-lein.

Roedd pob contract a gyhoeddwyd yn cynnwys cymal yn sicrhau bod ein partneriaid gwasanaeth yn cydymffurfio ag ymrwymiadau iaith Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau.

Parhaodd Tŷ’r Cwmnïau i gymryd rhan ym Mhwyllgor CaLL rhyngadrannol Llywodraeth y DU. Mae’r Pwyllgor yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o dimau’r iaith Gymraeg ar draws y llywodraeth i rannu arferion gorau, trafod heriau cyffredin a nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau’r Gymraeg. Mae hefyd yn cefnogi dull mwy cyson o ddarparu’r Gymraeg ar draws y llywodraeth. Darparodd aelodau’r Pwyllgor CALL gefnogaeth a chyngor gwerthfawr yn ystod sefydlu Uned y Gymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau.

4. Ymgorffori’r Iaith Gymraeg

4.1 Safle ymgyrch

Mae gennym wefan ddwyieithog i gefnogi newidiadau a gyflwynwyd drwy’r Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol. Ers ei lansio, mae’r wefan Gymraeg wedi derbyn mwy na 4,000 o ymweliadau. Yn ystod y cyfnod adrodd, fe wnaethom ehangu’r wefan gyda chynnwys a chanllawiau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i ddeall a chyflawni eu cyfrifoldebau newydd, gan gynnwys gwybodaeth am gwblhau gwiriad hunaniaeth. Y wefan yw’r llwyfan ymgyrch llywodraethol cwbl ddwyieithog cyntaf ac mae wedi’i chydnabod gan Wasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth fel enghraifft o arfer gorau.

4.2 Cyfryngau cymdeithasol

X

Rydym yn defnyddio ein sianel X i ddarparu cymorth i gwsmeriaid ac ymateb i ymholiadau. Drwy gydol y cyfnod adrodd, fe wnaethom bostio negeseuon boreol yn Gymraeg a Saesneg yn annog cwsmeriaid i gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau. Fe wnaethom gyhoeddi 44 o negeseuon yn y Gymraeg, a gafodd eu gweld fwy na 13,700 o weithiau, a 11 o ymgysylltiadau. Er na chawsom unrhyw ymholiadau yn y Gymraeg drwy’r sianel hon yn ystod y cyfnod adrodd, fe wnaethom barhau i hyrwyddo argaeledd cymorth yn y Gymraeg ac annog cwsmeriaid i ymgysylltu â ni yn y Gymraeg.

Facebook

O 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, fe wnaethon ni bostio 27 gwaith ar Facebook yn y Gymraeg. Roedd y negeseuon hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, o gyfeirio at wefan Newidiadau i gyfreithiau cwmnïau’r DU i hyrwyddo cyfleoedd recriwtio yn Nhŷ’r Cwmnïau, fel prentisiaethau. Fe wnaethon ni dreialu mathau newydd o fformatau i helpu pobl gyda’u rhwymedigaethau i Dŷ’r Cwmnïau, fel negeseuon carwsél i esbonio’r broses gwiriad hunaniaeth. Mae ein negeseuon Cymraeg ar Facebook wedi cael eu gweld fwy na 33,000 o weithiau.

YouTube

O 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, cafodd ein rhestr chwarae YouTube ‘Cymraeg’ 236 o ymweliadau a chyfanswm amser gwylio o 2.5 awr.

4.3 Ymgyrchoedd

Drwy gydol y cyfnod adrodd, fe wnaethom gyflwyno ymgyrch gyfathrebu aml-sianel i gefnogi cyflwyno’r broses o gwblhau gwiriad hunaniaeth, gofyniad cyfreithiol newydd ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau a phobl â rheolaeth arwyddocaol. Roedd deunyddiau allweddol yr ymgyrch ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys cynnwys cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu digidol a phecyn cymorth partneriaid pwrpasol. Darparodd hyn asedau Cymraeg i randdeiliaid a negeseuon awgrymedig i’w helpu i rannu gwybodaeth allweddol trwy eu sianeli eu hunain. Drwy sicrhau bod deunyddiau’r ymgyrch ar gael yn ddwyieithog, fe wnaethom helpu cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg i gael mynediad at yr un wybodaeth a chanllawiau â chwsmeriaid sy’n siarad Saesneg, gan gefnogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r gofynion newydd.

4.4 E-bost at bob cyfeiriad e-bost cofrestredig

Rydym wedi bod yn casglu cyfeiriadau e-bost cofrestredig ar gyfer pob cwmni ers mis Mawrth 2024. Drwy gydol mis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026, anfonwyd 19,237 o e-byst gwybodaeth dwyieithog at bron i 2,000 o gwmnïau sydd wedi gofyn am ohebiaeth ddwyieithog gennym a/neu sydd â diweddiad enw Cymraeg (er enghraifft, ‘Cyfyngedig’). Roedd yr e-byst yn hysbysu pobl am eu cyfrifoldebau ac yn cynnwys canllawiau ynghylch gofynion gwirio hunaniaeth newydd, newidiadau i ffeilio cyfrifon, a newidiadau i ffioedd.

4.5 Straeon newyddion

O 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, cyhoeddwyd 3 stori newyddion yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg:

Cafodd y fersiynau Cymraeg y straeon newyddion hyn 50 o ymweliadau tudalen.

4.6 Canllawiau GOV.UK a thudalennau gwasanaeth

O 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, cyhoeddwyd y tudalennau newydd canlynol yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

10 tudalen canllawiau a gwasanaethau newydd:

Cafodd fersiynau Cymraeg y tudalennau canllaw hyn 3,084 o ymweliadau unigryw i’r tudalennau.

Pedwar new tudalen casgliad Newydd:

Tri adroddiad corfforaethol / papurau polisi newydd:

Pedwar ffurflen:

Mae’r rhestr uchod yn cyfeirio at dudalennau newydd. Ar gyfer tudalennau a oedd bodoli eisoes a gafodd eu diweddaru rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, fe wnaethom ddiweddaru’r fersiwn Gymraeg hefyd.

5. Dangosyddion perfformiad

5.1 Canolfan gyswllt Tŷ’r Cwmnïau

Yn ystod y cyfnod adrodd, fe wnaethom barhau i gryfhau ein darpariaeth Gymraeg dros y ffôn. Ym mis Tachwedd 2025, cyflwynodd Tŷ’r Cwmnïau llinell gymorth Gymraeg pwrpasol gan ddefnyddio technoleg Adnabod Llais Ar Unwaith. Mae hyn yn galluogi cwsmeriaid i ddewis y Gymraeg ar ddechrau eu galwad a chael eu trosglwyddo’n uniongyrchol at gynghorydd sy’n siarad Cymraeg, sy’n golygu nad oes yn rhaid i gwsmeriaid ofyn yn benodol am siaradwr Cymraeg. Mae’r newid wedi gwella profiad y cwsmer ac yn cefnogi ein hymrwymiad i gynnig gwasanaethau’n weithredol yn y Gymraeg.

Ochr yn ochr â chyflwyno’r llinell iaith Gymraeg, gweithredwyd Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd yn y Gymraeg. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ganolfan Gyswllt ddangos bod cynghorwyr sy’n siarad Cymraeg ar gael yn ystod oriau gweithredu ac yn darparu mwy o atebolrwydd am ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau bellach chwe chynghorydd llawn amser sy’n siarad Cymraeg yn y Ganolfan Gyswllt bellach, gan wella gwydnwch a helpu i sicrhau y gall cwsmeriaid gael cymorth yn y Gymraeg pan fo angen. Mae’r Uned Iaith yn parhau i weithio’n agos gyda’r Ganolfan Gyswllt drwy ymgysylltu’n rheolaidd, monitro perfformiad a chynnal gwiriadau sicrhau ansawdd i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu’n effeithiol ac yn unol ag ymrwymiadau ein Cynllun Iaith.

Roedd effaith y llinell ffôn newydd i’w weld yn syth. Yn ystod y tair wythnos gyntaf ar ôl ei chyflwyno, derbyniodd y Ganolfan Gyswllt 75 o alwadau yn y Gymraeg, tair e-bost yn y Gymraeg a phum cyswllt sgwrsio ar y we yn y Gymraeg. Mae hyn yn dangos y bydd cwsmeriaid yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg pan fyddant yn hawdd cael mynediad atynt ac yn cael eu hyrwyddo’n weithredol.

Rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2025, dim ond un alwad ffôn yn y Gymraeg a 23 o negeseuon e-bost yn y Gymraeg a dderbyniodd Tŷ’r Cwmnïau. Yn dilyn cyflwyno llinell ffôn bwrpasol yn y Gymraeg ym mis Tachwedd 2025, cynyddodd yr ymgysylltiad yn sylweddol, gyda 481 o alwadau a 62 o negeseuon e-bost. M Mae hyn yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol o wneud gwasanaethau Cymraeg yn fwy gweladwy a hygyrch i gwsmeriaid.

5.2 Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth iaith

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi parhau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg ymhlith staff, gan gynnig cyfleoedd i gydweithwyr ddysgu, defnyddio a chynyddu eu hyder yn y Gymraeg yn y gweithle.

Mae Uned y Gymraeg yn parhau i gynnal sesiwn Caffi Cymraeg misol, gan ddarparu amgylchedd croesawgar ac anffurfiol i staff ymarfer eu Cymraeg. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr o bob rhan o’r sefydliad yn dod i’r sesiynau, gan helpu i feithrin hyder, annog defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a meithrin cymuned gefnogol. Yn ogystal, mae Uned y Gymraeg yn darparu sesiynau cymorth ar-lein i gydweithwyr sy’n dysgu.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg ar draws Tŷ’r Cwmnïau, mae’r Uned Iaith yn cyhoeddi blogiau, rhestrau a geirfa Gymraeg yn rheolaidd ar Interact, sef mewnrwyd y sefydliad. Mae’r Uned hefyd yn cynnal tudalen iaith Gymraeg bwrpasol sy’n cynnwys canllawiau ar gyfathrebu dwyieithog, gwybodaeth am y Cynllun Iaith, a manylion siaradwyr Cymraeg ar draws y sefydliad. Mae hyn yn helpu cydweithwyr i gael mynediad at gymorth ac yn annog staff i ystyried gofynion yr iaith Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae Uned y Gymraeg hefyd yn rheoli cymuned fewnol o siaradwyr Cymraeg, sydd â 128 o aelodau ar hyn o bryd, lle mae cynnwys, digwyddiadau a chyfleoedd dysgu yn yr iaith Gymraeg yn cael eu hyrwyddo. Rydym yn defnyddio sianel Microsoft Teams bwrpasol hefyd i rannu adnoddau, dathlu dyddiadau pwysig ac annog staff i ddod i’n gweithgareddau Cymraeg.

Yn unol â’i Strategaeth Sgiliau a Hyfforddiant y Gymraeg, mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i gynnig cyfleoedd i ddysgu Gymraeg i bob gweithiwr. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff yn llawn drwy ariannu cyrsiau a cynnig amser i ddysgu yn ystod oriau gwaith.

Yn ystod y cyfnod adrodd, cefnogodd Tŷ’r Cwmnïau ddau garfan o staff yn dysgu’r iaith Gymraeg drwy Dysgu Cymraeg Morgannwg, gyda 17 o gydweithwyr yn astudio ar lefel Ganolradd drwy sesiynau ar-lein. Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gryfhau sgiliau iaith ar draws y sefydliad a chynyddu ein gallu i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

Drwy’r gweithgareddau hyn, mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i gryfhau ymwybyddiaeth o’r iaith, creu cyfleoedd i staff ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, a meithrin y gallu sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel.

5.3 Hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant

Fe wnaeth yr Uned barhau i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ar draws Tŷ’r Cwmnïau drwy amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu yn ystod y cyfnod adrodd.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, trefnodd yr Uned ddathliad i holl staff Tŷ’r Cwmnïau. Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos talentau staff Cymraeg a dysgwyr Cymraeg drwy amrywiaeth o berfformiadau, gan roi cyfle i gydweithwyr ddod ynghyd i ddathlu iaith, diwylliant a hunaniaeth Cymru. Roedd yn ddigwyddiad poblogaidd, gan brofi brwdfrydedd a’r gefnogaeth i’r Gymraeg ar draws y sefydliad.

Cafodd y dathliad gefnogaeth hefyd gan uwch arweinwyr, gyda’r Prif Weithredwr yn traddodi araith yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith a chyfraniad siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn y sefydliad. Helpodd y gefnogaeth arweinyddiaeth weladwy hon i atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol lle gall yr iaith Gymraeg ffynnu.

Mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, cynyddu ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru, a chreu cyfleoedd i gydweithwyr ymgysylltu â’r iaith mewn amgylchedd cadarnhaol a chroesawgar. Maent hefyd yn cefnogi ein huchelgais ehangach i ymgorffori ystyriaethau’r iaith Gymraeg ar draws y sefydliad ac annog mwy o hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

6. Cwynion

Nifer y cwynion a dderbyniwyd am ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg a’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â nhw.

Yn ystod y cyfnod adrodd, derbyniodd Tŷ’r Cwmnïau ddwy gŵyn yn ymwneud â’i wasanaethau Cymraeg. Darperir crynodeb o’r cwynion hyn a’r camau a gymerwyd wrth ymateb isod.

6.1 Cwyn 1 – methu â darparu gohebiaeth Gymraeg a chyswllt cwsmeriaid yn y Gymraeg

Cwynodd un cwsmer nad oedd yn derbyn ymatebion i e-byst yn y Gymraeg, er bod gan y cwmni farciwr iaith Gymraeg wedi’i gofnodi. Adroddodd y cwsmer hefyd ei fod wedi derbyn gohebiaeth Gwiriad Hunaniaeth yn Saesneg. Yn dilyn hynny, cafodd y mater ei uwchgyfeirio at Gomisiynydd y Gymraeg. Ymchwiliodd Tŷ’r Cwmnïau i’r gŵyn, gan gymryd camau cywirol, a gweithiodd gyda’r meysydd gwasanaeth perthnasol i gryfhau prosesau ar gyfer ymdrin â chwsmeriaid â dewis iaith Gymraeg. Roedd y cwsmer yn fodlon ar y camau a gymerwyd, a chaewyd yr achos.

6.2 Cwyn 2 - gohebiaeth a gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg

Cwynodd ail gwsmer nad oeddent yn derbyn ymatebion i e-byst yn y Gymraeg er eu bod â marciwr Cymraeg ar eu cyfrif. Yn dilyn ymchwiliad, cryfhaodd Tŷ’r Cwmnïau brosesau a threfniadau mewnol gyda Chanolfan Gyswllt Tŷ’r Cwmnïau i helpu i sicrhau bod dewisiadau iaith Gymraeg yn cael eu cydnabod a’u cymhwyso’n gywir. Cymerodd yr Uned Iaith gyfrifoldeb am ohebiaeth y cwsmer tra bod gwelliannau’n cael eu gweithredu.

6.3 Canlyniad a Dysgu

Nid oedd y naill gŵyn na’r llall yn ymwneud â methiant i ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn fwriadol; yn hytrach, roedd y ddwy yn tynnu sylw at wendidau yn y defnydd cyson o ddewisiadau iaith Gymraeg ar draws rhai teithiau a gwasanaethau cwsmeriaid. O ganlyniad, adolygodd a chryfhaodd Tŷ’r Cwmnïau brosesau rhwng yr Uned Iaith a thimau sy’n delio â chwsmeriaid, gan wella’r broses o adnabod a thrin cwsmeriaid sy’n dymuno cyfathrebu yn y Gymraeg. Mae’r cwynion wedi llywio gwelliannau pellach i’r ddarpariaeth o wasanaethau yn y Gymraeg ac wedi cryfhau ein trefniadau monitro a sicrhau ansawdd.

7. Casgliad

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel a gwreiddio’r iaith ar draws y sefydliad. Yn ystod y cyfnod adrodd, rydym wedi parhau i gryfhau ein gallu yn y Gymraeg, gwella mynediad at wasanaethau Cymraeg, a chynyddu ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau’r iaith Gymraeg ar draws pob maes busnes.

Trwy waith yr Uned Iaith, Pwyllgor yr Iaith Gymraeg a chydweithwyr ar draws Tŷ’r Cwmnïau, byddwn yn parhau i wella ein darpariaeth, gan ddefnyddio adborth cwsmeriaid, data perfformiad a gwersi a ddysgwyd i lunio datblygiadau yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda pherchnogion gwasanaethau ac uwch arweinwyr i sicrhau bod ystyriaethau’r iaith Gymraeg yn cael eu hymgorffori wrth ddylunio gwasanaethau, datblygu polisïau, cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid, gan helpu i ddarparu profiad cyson ac o ansawdd uchel i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.

8. Cynllun gweithredu Tŷ’r Cwmnïau

8.1 Deddfwriaeth a mentrau

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Adolygu’r cynllun gweithredu bob chwarter Chwarterol Uned y Gymraeg/Pwyllgor y Gymraeg Adolygwyd cynnwys y cynllun gweithredu fel rhan o Bwyllgor y Gymraeg a gyfarfu bob deufis rhwng 2025 a 2026.
Adolygu’r cynllun strategol bob chwarter i gysylltu â’r cynllun gweithredu iaith Gymraeg Chwarterol Uned y Gymraeg Mae ein hymrwymiad i wasanaethau iaith Gymraeg yn sail i 2 o’n prif nodau strategol - gwasanaethau gwych sy’n rhoi profiad defnyddiwr gwych a chofrestri data sy’n ysbrydoli ymddiriedaeth a hyder.
Ystyried sut y bydd polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg Parhaus Uned y Gymraeg Rydym wedi parhau, a byddwn yn parhau, i ystyried ein Cynllun Iaith Gymraeg mewn polisïau, datblygiadau a phrosiectau newydd. Mae Asesiad Effaith yr Iaith Gymraeg bellach wedi’i gynnwys fel rhan o adolygiadau Porth Rheolwyr Prosiectau.

8.2 Staffio

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Cynnal hyfforddiant Cymraeg parhaus, wedi’i dargedu at sgiliau siarad iaith Parhaus Uned y Gymraeg/Adnoddau Dynol Mae 2 garfan o wersi Cymraeg yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac mae’r Uned Gymraeg yn parhau i hyrwyddo’r modiwlau Cymraeg Gwaith ar draws y sefydliad.
Sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg yn ar gael ym mhob maes gweithredol mawr er mwyn darparu ar gyfer cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg Parhaus Cyfarwyddwyr Mae Tŷ’r Cwmnïau yn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg ar gael ym mhob ardal i archwilio ffeiliau Cymraeg neu ymateb i gwsmeriaid Cymraeg. Rydym wedi recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg yn ardal gyfrifon y busnes i sicrhau bod unrhyw un sy’n cyflwyno eu cyfrifon yn y Gymraeg yn derbyn gwasanaeth cyfartal â’r Saesneg gan fod gennym staff wrth law i archwilio a phrosesu’r cyfrifon hyn.
Yn fewnol, hyrwyddo gofynion Tŷ’r Cwmnïau o dan y Cynllun Iaith Gymraeg, gan sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau a ble i ofyn am gymorth Parhaus Uned y Gymraeg/Strategaeth a Pholisi Fe wnaethon ni roi gwybod i staff yn rheolaidd am ein hymrwymiad i’n Cynllun Iaith Gymraeg ar ein gwefan SharePoint fewnol yn yr Uned Iaith. Mae’r Uned Iaith hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda’r gwahanol dimau, gan sicrhau bod pob tîm yn gwybod y prosesau cywir i’w dilyn gyda’n cwsmeriaid Cymraeg.
Cynnal criw o staff Cymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau i ddarparu yswiriant i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a chynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod materion a chynnydd Parhaus Uned y Gymraeg/Cyfarwyddiaeth Cyflenwi Cwsmeriaid Mae’r Uned yn darparu cyngor arbenigol, arweiniad a sicrhau ansawdd ar gyfer gohebiaeth cwsmeriaid, gan helpu i sicrhau bod cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yn derbyn cyfathrebiadau clir, cywir a chyson. Mae proses sefydledig a chydweithrediad cryf ar draws meysydd busnes yn helpu i sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu derbyn gohebiaeth yn eu hiaith o ddewis. Mae’r ganolfan gyswllt yn gwasanaethu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau Cymraeg ac mae’n ganolog i ddarparu ein gwasanaethau iaith Gymraeg. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gynnal a datblygu gallu iaith Gymraeg o fewn y Ganolfan Gyswllt ac yn fewnol trwy gynllunio gweithlu, recriwtio a chynllunio olyniaeth effeithiol, gan sicrhau y gall cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg barhau i gael mynediad at gymorth o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg.

8.3 Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd, hysbysebu a datganiadau i’r wasg

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn mynychu pob digwyddiad lle mae presenoldeb Tŷ’r Cwmnïau yng Nghymru Parhaus Tîm digwyddiadau Nid oes unrhyw ddigwyddiadau wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Sicrhau bod adnoddau Gymraeg ar gael mewn digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru Parhaus Tîm digwyddiadau Nid oes unrhyw ddigwyddiadau wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwn.
Sicrhau bod hysbysebion a datganiadau i’r wasg ar gael yn Gymraeg, pan fyddant yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru Parhaus Adnoddau Dynol/TGCh Gan fod Swyddi’r Gwasanaeth Sifil bellach yn cefnogi swyddogaethau dwyieithog ar gael yn y Gymraeg, rydym wedi dechrau defnyddio’r swyddogaeth hon. Byddwn yn adeiladu ar y dull hwn dros y blynyddoedd nesaf, gan gynyddu’r defnydd o ddeunyddiau recriwtio dwyieithog i hyrwyddo cyfleoedd yn fwy effeithiol i siaradwyr Cymraeg a chefnogi ein hymrwymiadau i’r iaith Gymraeg.

8.4 Cyhoeddiadau a ffurflenni

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu diweddaru ochr yn ochr â fersiynau Saesneg Parhaus Polisi, Cyfathrebu a’r Uned Gymraeg Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â chyhoeddiadau Saesneg.
Sicrhau bod ffurflenni statudol Cymraeg yn cael eu diweddaru ochr yn ochr â fersiynau Saesneg Parhaus Uned weithredu, Tîm Creadigol ac Uned y Gymraeg Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i sicrhau bod ffurflenni Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â ffurflenni Saesneg.
Monitro’r defnydd o lythyrau i sicrhau bod fersiynau Cymraeg yn cael eu defnyddio lle bo hynny’n briodol Parhaus Datblygu Newid Busnes Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i fonitro’r defnydd o lythyrau i sicrhau bod ymateb yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg lle bo angen. Drwy gydol y cyfnod, mae ein tîm cymorth dosbarthu cwsmeriaid wedi adolygu darpariaeth ein llythyrau Cymraeg.

8.5 Gwefannau

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau bod y wefan Gymraeg yn cael ei diweddaru ochr yn ochr â’r fersiwn Saesneg, pan fo’n berthnasol, a bod y wybodaeth ar y wefan Gymraeg yn gyfredol Parhaus Cyfathrebu Allanol/Uned y Gymraeg Fe wnaethon ni barhau i gynyddu cynnwys Cymraeg ar GOV.UK. Mae Uned y Gymraeg yn monitro hyn ac yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r tîm cyfathrebu allanol.
Cyfryngau Cymdeithasol Parhaus Cyfathrebu Allanol/Uned y Gymraeg Rydym yn sicrhau bod negeseuon Cymraeg yn cael eu rhannu ar X a Facebook yn wythnosol. Mae hyn yn bwysig i annog mwy o gwsmeriaid Cymraeg i gyfathrebu â ni yn y Gymraeg. Mae gennym neges ar y ddau blatfform i ddweud ein bod yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg.

8.6 Cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau y gall cwsmeriaid ofyn am siaradwr Cymraeg os ydynt yn dymuno cynnal eu busnes yn Gymraeg Parhaus Uned y Gymraeg/Gwasanaeth Cwsmeriaid Nid oes unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn digwydd mwyach, ond gallwn gynnig y gwasanaeth hwn dros Microsoft Teams.

8.7 Cyfathrebu dros y ffôn

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau bod cwsmeriaid sydd eisiau cynnal eu busnes yn Gymraeg yn gallu siarad â siaradwr Cymraeg Parhaus Canolfan Gyswllt/Uned y Gymraeg/Cyfarwyddiaeth Cyflenwi Cwsmeriaid Fe wnaethon ni gyflwyno llinell iaith Gymraeg newydd ym mis Tachwedd 2025 felly byddwn ni’n parhau i fonitro ansawdd a sicrhau bod y model gwasanaeth yn gweithredu fel y dylai.

8.8 Arwyddion

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau bod yr holl arwyddion cyhoeddus ar gyfer swyddfa Caerdydd yn cael eu harddangos yn ddwyieithog Parhaus Gwasanaethau Adeiladu/Uned y Gymraeg Mae’r holl arwyddion cyhoeddus yn cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog.

8.9 Cwynion

Camau gweithredu gofynnol Dyddiad targed Perchennog y cam gweithredu Cynnydd hyd yma/nodiadau
Sicrhau bod cwynion am wasanaeth Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu hymchwilio’n llawn a’u trin yn brydlon, yn unol â gweithdrefn gwyno arferol Tŷ’r Cwmnïau Parhaus Polisi/Uned y Gymraeg Adran gwynion yr adroddiad.
Monitro cwynion ynghylch gwasanaeth dwyieithog Parhaus Polisi/Uned y Gymraeg Mae Uned y Gymraeg yn monitro pob cwyn ynglŷn â’r gwasanaeth dwyieithog yn unol ag adran gwynion yr adroddiad.