Ffurflen

Datganiad cadarnhau (CS01c)

Defnyddiwch y ffurflen hon i gadarnhau bod manylion y cwmni’n gyfoes.

Yn berthnasol i Gymru

Dogfennau

Ffeilio’ch datganiad cadarnhau gyda Thŷ’r Cwmnïau

CS01c continuation page / tudalen parhad

Manylion

Mae’r ffurflen hon yn cadarnhau bod manylion eich cwmni yn gyfredol ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.

Y gost yw £62 i ffeilio eich datganiad cadarnhau ar bapur.

Mae’n gyflymach ac yn haws i ffeilio eich datganiad cadarnhau ar-lein.

Newidiadau i wybodaeth eich cwmni

Defnyddiwch rannau 1 i 4 i wneud y newidiadau yma i’r cwmni:

  • prif weithgareddau busnes neu ddosbarthiad diwydiannol safonol (SIC)
  • datganiad o gyfalaf
  • statws masnachu cyfranddaliadau ac eithriad rhag cadw cofrestr o bobl a rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
  • gwybodaeth cyfranddaliwr

Defnyddiwch y rhestr gyddwysedig o godau SIC os oes angen i chi ddiweddaru natur eich gweithgaredd busnes ar eich datganiad cadarnhau.

Cyfeiriad e-bost cofrestredig

Rhaid i chi ddefnyddio Rhan 5 i ddarparu cyfeiriad e-bost cofrestredig os nad ydych eisoes wedi darparu un.

Mae proses wahanol os oes angen i chi newid cyfeiriad e-bost cofrestredig eich cwmni.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Chwefror 2026 show all updates
  1. Fee updated.

  2. Updated in line with changes to company registers and the launch of mandatory identity verification.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon