Cais i ddileu eich manylion personol o gofrestr gyhoeddus Tŷ'r Cwmnïau (SR01c)
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon os yw cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni wedi'i leoli yng Nghymru (yn hytrach na Lloegr a Chymru) i wneud cais i ddileu eich manylion personol o'r gofrestr.
Yn berthnasol i Gymru
Dogfennau
Manylion
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais i ddileu:
- eich cyfeiriad cartref, yn y rhan fwyaf o achosion pan ddangosir yn rhywle arall ar y gofrestr
- y diwrnod o’ch dyddiad geni
- llofnodion
- eich galwedigaeth busnes
Mae’n costio £30 am bob dogfen a restrir yn eich cais.
Cyn i chi wneud cais
Bydd angen i chi wybod pa ddogfennau sy’n cynnwys eich manylion personol. Chwiliwch am eich cwmni ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau.
Darllenwch y canllawiau ar ddileu eich manylion personol o gofrestr Ty’r Cwmnïau
Mae unrhyw gyfeirnod at ‘cwmni’ hefyd yn berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC).
Sut i dalu’r ffi
Rhaid i chi dalu’r ffi gywir gan ddefnyddio GOV.UK Pay cyn anfon eich cais SR01c. Mae’n costio £30 am bob dogfen a restrir yn eich cais.
Unwaith y bydd y taliad wedi’i gwblhau, cewch gyfeirnod talu. Rhaid i chi gynnwys y cyfeirnod talu gyda’ch cais SR01c.
Sut i anfon eich cais
E-bostiwch eich cais SR01c wedi’i gwblhau a’r cyfeirnod talu i dsr@companieshouse.gov.uk
Dyma’r ffordd gyflymaf o gofrestru eich cais SR01c. Bydd ein timau yn anelu at brosesu eich cais heb oedi.
Byddwn yn gwrthod eich cais os na fyddwch yn darparu cyfeirnod y taliad.
Gwneud cais drwy’r post
Gallwch hefyd bostio’ch cais SR01c wedi’i gwblhau gyda siec neu archeb bost. Fel arfer mae’n cymryd mwy o amser i brosesu ceisiadau papur a anfonir drwy’r post.
Helpwch ni i wella’r gwasanaeth hwn
Hoffem ddarganfod eich profiad o’r broses i’n helpu i’w gwella.
Os ydych chi’n fodlon i’n tîm ymchwil defnyddwyr gysylltu â chi, anfonwch eich enw a rhif y cwmni at surveys@companieshouse.gov.uk.
Os oes gennych ymholiad am eich cais, rhaid i chi gysylltu dsr@companieshouse.gov.uk.