Mae ffioedd Tŷ'r Cwmnïau'n newid o 1 Chwefror 2026
Rydym yn adolygu ein ffioedd bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod wedi'u gosod ar y lefel gywir ac yn adlewyrchu cost darparu ein gwasanaethau.
O 1 Chwefror 2026, bydd rhai o’n ffioedd yn newid. Mae’r rhain yn cynnwys:
• y ffi ffeilio ddigidol ar gyfer ymgorffori yn newid i £100
• y ffi ffeilio ddigidol ar gyfer datganiad cadarnhau yn newid i £50
• y ffi ffeilio ddigidol ar gyfer dileu gwirfoddol yn newid i £13
Rydym wedi cyhoeddi rhestr lawn o ffioedd Tŷ’r Cwmnïau sy’n newid o 1 Chwefror 2026.
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yn elwa o atebolrwydd cyfyngedig, mynediad haws at gredyd, mwy o hyblygrwydd wrth godi cyfalaf, a gwell hygrededd. Mae ein ffioedd yn parhau i fod yn isel yn ôl safonau rhyngwladol.
Rydym yn defnyddio incwm o’n ffioedd i ymgorffori cwmnïau ac i gyhoeddi gwybodaeth hygyrch am gwmnïau sy’n werth biliynau i economi’r DU. Yn ogystal, mae ein pwerau newydd a gwell o dan y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol (ECCT) yn ein galluogi i holi a dileu gwybodaeth ffug a chamarweiniol o’n cofrestrau. Rydym yn adeiladu amgylchedd mwy dibynadwy i ddefnyddwyr a busnesau cyfreithlon ac yn lleihau’r niwed y maent yn eu hwynebu gan y rhai nad ydynt yn cwrdd â’u rhwymedigaethau.
Rydym hefyd yn defnyddio incwm o’n ffioedd i ariannu gweithgarwch ymchwilio a gorfodi’r Gwasanaeth Ansolfedd mewn perthynas â chwmnïau. Mae gan y Gwasanaeth Ansolfedd bwerau gorfodi eang y gellir eu defnyddio i ddiddymu cwmnïau, anghymhwyso cyfarwyddwyr, ac erlyn unigolion sy’n cael eu hamau o dwyll, camymddwyn ariannol a throseddau cwmnïau eraill.
Rydym am wneud hyd yn oed mwy i sicrhau bod y DU yn parhau i fod ymhlith y llefydd gorau yn y byd i ddechrau a thyfu busnes. Rydym yn canolbwyntio ar foderneiddio a gwella ein gwasanaethau, ac yn cryfhau ein dull gorfodi gyda mwy o bobl, defnyddio offer mwy soffistigedig, a mabwysiadu dulliau newydd i adnabod ac ymateb yn gyflym i gwmnïau twyllodrus . Rydym hefyd yn cyflwyno gwiriad hunaniaeth orfodol o 18 Tachwedd 2025 i gadarnhau mai pobl sy’n sefydlu neu’n rhedeg cwmni yw pwy maen nhw’n honni eu bod nhw.
Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn Nhŷ’r Cwmnïau, a ariennir gan ein ffioedd, yn creu marchnad dryloyw sy’n hybu hyder economaidd ac yn amharu ar droseddau economaidd drwy weithredu’n gadarn i atal troseddwyr rhag camddefnyddio strwythurau corfforaethol y DU, gan roi’r sicrwydd sydd ei angen ar gwmnïau cyfreithlon i wneud busnes yn y DU.
Darllenwch fwy am sut rydym yn esblygu i fod yn sefydliad sy’n cefnogi twf economaidd ac yn helpu i darfu ar droseddu yn ein strategaeth newydd ar gyfer 2025 i 2030.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
First published.