Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddarparu cod personol Tŷ'r Cwmnïau a datganiad gwiriad hunaniaeth ar gyfer PRhA neu i wneud cais am estyniad.
Os ydych yn PRhA o gwmni, mae gofyniad cyfreithiol newydd i chi gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Pan fyddwch wedi cwblhau gwiriad, byddwch yn cael cod adnabod unigryw o’r enw cod personol Tŷ’r Cwmnïau.
Rhaid i chi ddarparu cod personol Tŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae hyn fel y gallwn gysylltu eich hunaniaeth sydd wedi’i wirio â’n cofnodion. Gofynnir i chi hefyd dicio datganiad sy’n cadarnhau bod eich hunaniaeth wedi’i wirio.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn PRhA, neu’n darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar ran PRhA.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os yw’r PRhA wedi diogelu ei wybodaeth bersonol yn Nhŷ’r Cwmnïau (neu’n aros am ganlyniadau cais).
Pryd bydd angen i chi ddarparu manylion gwiriad hunaniaeth
Mae gan bob PRhA gyfnod o 14 diwrnod lle mae’n rhaid iddynt ddarparu eu cod personol Tŷ’r Cwmnïau a’u datganiad gwiriad.
Mae dyddiadau eich cyfnod o 14 diwrnod yn dibynnu ar:
- os roeddech wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau cyn 18 Tachwedd 2025
- os rydych hefyd yn gyfarwyddwr y cwmni hwn
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau ar bryd i gwblhau gwiriad.
Gwiriwch ddyddiadau eich cyfnod o 14 diwrnod trwy ddewis ‘Dechrau’ a mewngofnodi i’r gwasanaeth hwn.
Os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd ac yn gorfod talu cosb ariannol neu ddirwy. Byddwn hefyd yn arddangos nodyn yn erbyn eich enw ar y gofrestr gyhoeddus.
Gwneud cais am estyniad
Os na allwch ddarparu eich manylion gwiriad ar amser, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais am estyniad o 14 diwrnod. Mae angen i chi wneud hyn cyn i’ch dyddiad cau gwiriad fynd heibio.
Gwnewch gais am estyniad drwy ddewis ‘Dechrau’ a mewngofnodi i’r gwasanaeth hwn.
Cyn i chi ddechrau
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen:
- i chi fewngofnodi, neu greu manylion mewngofnodi
- rhif y cwmni
Os ydych yn darparu manylion gwiriad hunaniaeth, bydd angen eich cod personol Tŷ’r Cwmnïau arnoch.
Gall gymryd hyd at 10 munud i gwblhau’r gwasanaeth hwn.
Cymorth hygyrchedd
Gallwn ddarparu cymorth ychwanegol os oes ei angen arnoch i ddefnyddio ein gwasanaethau. Gallwch hefyd ddarganfod sut i wneud addasiadau i’ch dyfais i’w gwneud yn haws i’w defnyddio.