Canllawiau

Pryd mae angen i chi wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau

Mae pryd y mae angen i chi wirio yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau'r rôl honno.

Cyfarwyddwyr (neu gyfatebol)

Bydd angen i chi ddarparu eich cod personol Tŷ’r Cwmnïau fel rhan o ddatganiad cadarnhau nesaf eich cwmni o 18 Tachwedd 2025.

Os ydych chi’n gyfarwyddwr o fwy nag un cwmni, bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob cwmni.

Os ydych chi’n cofrestru cwmni newydd, gofynnir i chi ddarparu cod personol Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer pob cyfarwyddwr fel rhan o’r ffeilio cofrestru.

Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Rhaid i PRhA wirio eu hunaniaeth a darparu eu cod personol. Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Os ydych chi’n gyfarwyddwr ac yn PRhA o’r un cwmni

Bydd angen i chi ddarparu eich cod personol ar wahân ar gyfer pob rôl.

Fel cyfarwyddwr, rhaid i chi ddarparu’r cod yn natganiad cadarnhau’r cwmni.

Fel PRhA, rhaid i chi ei ddarparu gan ddefnyddio gwasanaeth ar wahân o fewn 14 diwrnod o ddyddiad datganiad cadarnhau eich cwmni. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael pan fydd y gofyniad yn dod i rym ar 18 Tachwedd 2025.

Os ydych chi’n PRhA ond nid yn gyfarwyddwr yr un cwmni

Rhaid i chi ddarparu eich cod personol o fewn 14 diwrnod cyntaf eich mis geni. Er enghraifft, os mai 22 Ionawr yw eich dyddiad geni, bydd eich cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau ar 1 Ionawr.

Os byddwch chi’n dod yn PRhA ar ôl 18 Tachwedd 2025

Gallwch ddarparu eich cod personol pan fyddwch yn cael eich ychwanegu at gofrestr Tŷ’r Cwmnïau am y tro cyntaf, neu o fewn 14 diwrnod ar ôl cael eich ychwanegu.

Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Gelwir y rhain hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau, ac fel arfer mae ganddynt rolau fel cyfrifwyr, cyfreithwyr neu asiantau ffurfio cwmnïau.

Bydd angen i chi wirio’ch hunaniaeth os ydych am wneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.

Os ydych am allu gwirio hunaniaeth eich cleientiaid, gallwch wneud hyn o’r 8 Ebrill 2025 os ydych wedi cofrestru fel asiant awdurdodedig. Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau hefyd gofrestru fel asiant awdurdodedig i allu ffeilio ar ran cleientiaid.

Rolau eraill

Byddwn yn cyflwyno gwiriad hunaniaeth yn ddiweddarach ar gyfer:

  • pobl sy’n ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau
  • partneriaethau cyfyngedig
  • cyfarwyddwyr corfforaethol o gwmnïau
  • aelodau corfforaethol partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
  • swyddogion PRhA corfforaethol

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Tachwedd 2025 show all updates
  1. Identity verification is now a legal requirement. Added link to the 'Provide identity verification details for a PSC' service.

  2. Identity verification will be a mandatory requirement from 18 November 2025.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon