Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau
Mae angen i chi brofi pwy ydych chi i sefydlu, rhedeg, perchen neu reoli cwmni yn y DU.
Pam mae angen i chi wirio eich hunaniaeth
Mae gwiriad hunaniaeth yn ofyniad cyfreithiol newydd. Bydd yn helpu i atal pobl sy’n bwriadu defnyddio cwmnïau at ddibenion anghyfreithlon.
Yn ôl y gyfraith, bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth i gadarnhau mai chi yw pwy rydych chi’n honni i fod.
Bydd hyn yn:
- lleihau’r risg o dwyll
- gwella tryloywder, ymddiriedaeth a chywirdeb gwybodaeth ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau
Pwy sydd angen gwirio
Bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth os ydych chi’n:
- cyfarwyddwr
- gyfatebol i gyfarwyddwr – mae hyn yn cynnwys aelodau, partneriaid cyffredinol a swyddogion rheoli
- person â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
- Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) - a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau
- rhywun sy’n ffeilio ar gyfer cwmni - er enghraifft, ysgrifennydd cwmni
Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond unwaith y bydd angen i chi wirio eich hunaniaeth. Ni ddylech wirio eto oni bai ein bod yn dweud wrthych.
Byddwn yn cyflwyno gwiriad hunaniaeth yn ddiweddarach ar gyfer:
- pobl sy’n ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau
- partneriaethau cyfyngedig
- cyfarwyddwyr corfforaethol o gwmnïau
- aelodau corfforaethol partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC)
- swyddogion PRhA corfforaethol
Pryd y mae angen i chi wirio
Mae hyn yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau’r rôl honno.
Darganfyddwch pryd mae angen i chi wirio.
Ffyrdd o wirio eich hunaniaeth
Gallwch gwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio’r opsiynau canlynol yn unig. Peidiwch â phostio nac e-bostio eich dogfennau adnabod.
Defnyddio’r gwasanaeth ‘Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’
Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio GOV.UK One Login i wirio eich hunaniaeth. Mae’n rhad ac am ddim.
Bydd GOV.UK One Login yn gofyn rhai cwestiynau syml i chi ddod o hyd i’r ffordd orau i chi cwblhau gwiriad hunaniaeth ar-lein. Rhaid i chi ddarparu atebion amdanoch chi’ch hun, nid eich cwmni. Yn dibynnu ar eich atebion, byddwch wedyn yn cael eich tywys i wirio:
- gydag ap
- trwy ateb cwestiynau diogelwch ar-lein
- trwy roi eich manylion o’ch ID gyda llun ar GOV.UK One Login yn gyntaf, yna mynd i Swyddfa’r Post sy’n cymryd rhan
Darganfyddwch fwy am gwblhau gwiriad hunaniaeth gyda GOV.UK One Login.
Defnyddio Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)
Gallwch ofyn i Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA) wirio eich hunaniaeth ar eich rhan. Er enghraifft, cyfreithiwr neu gyfrifydd. Gelwir hyn hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau.
Gallwch wneud hyn o unrhyw wlad, ond mae’n rhaid i’ch asiant gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau er mwyn dod yn awdurdodedig. Rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda chorff goruchwylio Atal Gwyngalchu Arian (AML) y Deyrnas Unedig.
Pan fydd asiant wedi cytuno i wirio’ch hunaniaeth, bydd angen i chi ddarparu dogfennau iddynt o restr gymeradwy fel tystiolaeth o’ch hunaniaeth. Gallant godi ffi am eu gwasanaethau.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gwirio
Pan fyddwch wedi gwirio’n llwyddiannus, byddwch yn cael cod adnabod unigryw o’r enw cod personol Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r cod yn bersonol i chi, nid eich cwmni neu gwmni rydych chi’n gweithio iddo.
O 18 Tachwedd 2025, bydd ei angen arnoch am wahanol resymau. Er enghraifft:
- pan fyddwch yn cyflwyno eich datganiad cadarnhau
- os ydych yn cael eich penodi fel cyfarwyddwr
- os byddwch yn dod yn berson â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Os ydych chi’n gyfarwyddwr neu’n PRhA ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddefnyddio cod personol Tŷ’r Cwmnïau i gysylltu eich gwiriad hunaniaeth â’n cofnodion. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol, a bydd yn sicrhau ein bod yn gwybod bod yr hunaniaeth gywir yn gysylltiedig ag unrhyw rolau sydd gennych.
Rhannwch y cod personol gyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt yn unig
Efallai y bydd angen i chi rannu’r cod hwn gyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt i ffeilio ar eich rhan, neu i’ch cwmni. Cadwch y wybodaeth hon yn ddiogel, fel y byddech gyda chodau unigryw eraill fel eich Cyfeirnod Unigryw’r Trethdalwr (UTR) ar gyfer CThEF.
Mae gwiriad hunaniaeth yn ei gwneud hi’n llawer anoddach i droseddwyr personadu rhywun, ond nid yn amhosibl.
Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio
I ddarganfod sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei storio a’i defnyddio pan fyddwch chi’n gwirio eich hunaniaeth gyda GOV.UK One Login, gwiriwch yr hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login.
Beth sydd angen i chi ei wneud gyda chod personol Tŷ’r Cwmnïau
Mae hyn yn dibynnu ar eich rôl, a phryd y gwnaethoch ddechrau’r rôl honno.
Os ydych chi’n gyfarwyddwr neu’n PRhA, bydd angen i chi ddefnyddio cod personol Tŷ’r Cwmnïau i gysylltu eich gwiriad hunaniaeth â’n cofnodion ar gyfer pob rôl sydd gennych. Mae hyn yn rhan o’r gofyniad cyfreithiol i wirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau.
Cyfarwyddwyr
Os ydych chi’n gyfarwyddwr ar hyn o bryd, o 18 Tachwedd 2025 bydd angen i chi ddarparu’ch cod personol yn natganiad cadarnhau nesaf eich cwmni.
Os byddwch chi’n dod yn gyfarwyddwr ar ôl 18 Tachwedd 2025, bydd angen i chi ei ddarparu fel rhan o’ch ffeilio penodiad neu pan fyddwch yn ymgorffori cwmni.
Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Bydd angen i chi ddarparu eich cod personol i Dŷ’r Cwmnïau ar gyfer eich rôl fel PRhA. Bydd y gofyniad hwn yn dod i rym o 18 Tachwedd 2025 ymlaen.
Bydd gan bob PRhA gyfnod o 14 diwrnod y mae’n rhaid iddynt ddarparu eu cod personol.
Mae dyddiadau eich cyfnod o 14 diwrnod yn dibynnu ar os:
- roeddech wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau cyn 18 Tachwedd 2025
- ydych chi hefyd yn gyfarwyddwr y cwmni hwn
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau ar bryd i wirio.
Darparwyr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)
Gelwir y rhain hefyd yn asiantau awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau. Bydd angen i chi ddarparu eich cod personol i gofrestru fel asiant awdurdodedig.
Beth sy’n digwydd os nad ydych yn gwirio
Ni fyddwch yn gallu:
- dechrau cwmni neu sefydliad newydd
- cofrestru fel DGCA (a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig Tŷ’r Cwmnïau)
Os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth ar amser, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol neu ddirwy.
Cyfarwyddwyr
Os byddwch yn parhau i weithredu fel cyfarwyddwr heb wirio ar ôl iddo ddod yn ofyniad cyfreithiol, byddwch yn cyflawni trosedd a gallech gael eich anghymwyso. Gall y cwmni (neu’r endid) a’r holl gyfarwyddwyr hefyd fod yn cyflawni trosedd.
Pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Os ydych chi (neu oeddech chi) yn PRhA heb wirio ar ôl iddo ddod yn ofyniad cyfreithiol, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd.
Updates to this page
-
Identity verification is now a legal requirement. Added link to the 'Provide identity verification details for a PSC' service. Added guidance to 'What happens if you do not verify'.
-
Content added to Using the 'Verify your identity for Companies House' service. You must provide answers about yourself, not your company.
-
Identity verification will be a mandatory requirement from 18 November 2025. Updated section for people with significant control (PSCs).
-
From 8 April 2025, individuals can voluntarily verify their identity with Companies House. Link added to service start page.
-
Added translation