Canllawiau

Rhestr o Ddarparwyr Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA)

Mae'r rhestr hon yn cynnwys manylion busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA). Gelwir hyn hefyd yn asiant awdurdodedig.

Dogfennau

List of ACSPs

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch enquiries@companieshouse.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae DGCA yn asiantau, fel cyfrifwyr neu gyfreithwyr, sydd wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau i ffeilio neu gwblhau gweithgareddau eraill ar ran cleientiaid. I ddod yn DGCA, rhaid i asiantau gael eu goruchwylio gan gorff goruchwylio Atal gwyngalchu Arian (AML) y DU.

Pa DGCA sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr

Mae’r asiantau ar y rhestr hon wedi gofyn am gyhoeddi eu manylion. Efallai na fydd yn cynnwys pob asiant sydd wedi cofrestru fel DGCA.

Nid ydym yn diweddaru’r rhestr hon ar amserlen benodol felly gallai’r wybodaeth fod yn anghyflawn neu wedi dyddio.

Os yw statws asiant wedi newid yn ddiweddar, efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd iddynt ar ein rhestr o DGCA sydd wedi rhoi’r gorau iddi neu wedi’u hatal. Cyn i chi ddefnyddio asiant, gwiriwch a ydynt ar y rhestr honno. Os ydynt, ni allant weithredu fel DGCA ar hyn o bryd. 

Dewis DGCA

Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn cymeradwyo nac yn argymell yr asiantau ar y rhestr hon. Wrth ddewis asiant, rydym yn argymell eich bod yn gwneud ymchwil i ddarganfod am eu henw da a’u profiad. Bydd hyn yn helpu i wneud yn sicrhau eich bod yn dewis asiant sy’n gallu darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Dylech gysylltu ag asiantau’n uniongyrchol, neu edrych ar eu gwefan i ddarganfod:

  • pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig – er enghraifft, cyfrifon, ffeilio, gwiriad hunaniaeth
  • yr hyn maen nhw’n ei godi am eu gwasanaethau
  • eu telerau ac amodau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Hydref 2025

Argraffu'r dudalen hon