Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 54: caffael tir trwy ddatganiad breinio cyffredinol o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981

Diweddarwyd 31 January 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

O dan adran 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 gall awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall (“yr awdurdod”) gaffael tir trwy gyfrwng datganiad breinio cyffredinol. Mae’r darpariaethau manwl sy’n rheoli’r drefn hon i’w gweld yn rhannau II a IV ac Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, ac yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol lle gallai rheoliadau blaenorol fod yn berthnasol, Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiad Breinio) (Lloegr) 2017 a Rheoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017. Mae’r darpariaethau hyn yr un mor berthnasol i dir cofrestredig a digofrestredig.

Gwnaed newidiadau i’r drefn prynu gorfodol ac iawndal gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 a Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017. Nod hysbys y Ddeddf honno yw gwneud y system yn ‘gliriach, yn decach ac yn gynt’ wrth gadw amddiffyniadau ar gyfer perchnogion tir.

Diwygiodd Deddf Tai a Chynllunio 2016 Ddeddf Caffael Tir 1981 fel ei bod nawr yn darparu bod cadarnhad a gwneud rhybuddion i gael eu hanfon gan yr awdurdod caffael neu’r Gweinidog i’r Prif Gofrestrydd Tir ac y byddant yn bridiannau tir lleol. Pan fo’r tir yn y gorchymyn wedi’i leoli mewn ardal y mae’r awdurdod lleol yn parhau i fod yn awdurdod cofrestru ar gyfer pridiannau tir lleol (lle nad yw’r newidiadau a wnaed gan Rannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym yn yr awdurdod lleol hwnnw eto), bydd angen i’r awdurdod ac ati gydymffurfio â’r camau sy’n ofynnol gan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (cyn iddo gael ei ddiwygio gan Ddeddf Seilwaith 2015) i sicrhau bod yr arwystl yn cael ei gofrestru fel pridiant tir lleol gan yr awdurdod lleol fel yr awdurdod cofrestru. Awgrymwn eich bod yn siarad â chynghorwr cyfreithiol annibynnol os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch gofynion cofrestru fel pridiant tir lleol.

Lle y mae’r awdurdod yn gwneud gorchymyn breinio gorfodol, ond yn caffael y tir trwy hysbysiad i drafod telerau wedi ei ddilyn gan drawsgludiad neu drosglwyddiad, dylid cofrestru’r gwarediad i’r awdurdod yn yr un ffordd â throsglwyddiad ar werthiant.

Bydd pwerau caffael yr awdurdod yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth alluogi berthnasol, a fydd, efallai, wedi cael ei phasio’n benodol ar gyfer y datblygiad neu brosiect o dan sylw. Bydd yn bwysig ystyried darpariaethau penodol y ddeddfwriaeth, yn enwedig mewn perthynas â diddymu a hawddfreintiau gor-redol a chyfamodau sy’n effeithio ar y tir a gaffaelwyd.

2. Ymchwiliadau rhagarweiniol

2.1 Darganfod a yw tir yn gofrestredig

Ceir 2 ffordd ar hyn o bryd i ddarganfod a yw tir rhydd-ddaliol neu brydlesol neu rent-dâl yn gofrestredig ac a oes unrhyw rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf wedi eu cofnodi.

2.1.1 MapSearch

Gwasanaeth digidol di-dâl i gwsmeriaid sy’n defnyddio’n e-wasanaethau busnes yw MapSearch. Gyda MapSearch gallwch:

  • weld yn gyflym yw tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig
  • edrych ar leoliad tir ac eiddo cofrestredig
  • cael gafael ar rifau teitl, manylion daliadaeth rhydd-ddaliol neu brydlesol a buddion cofrestredig eraill
  • arbed canlyniad MapSearch fel PDF gyda’n nodwedd Snapshot (mae hyn at ddibenion cyfeirio yn unig ac mae’n ddarostyngedig i hawlfraint).

Gweler MapSearch am ragor o wybodaeth.

2.1.2 Chwiliad o’r map mynegai

Nid yw MapSearch yn cynnig darpariaethau indemniad ar gyfer y wybodaeth a ddarperir. Os oes angen mantais darpariaethau indemniad arnoch, bydd yn rhaid ichi gynnal chwiliad gan ddefnyddio ein chwiliad o’r map mynegai. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: chwiliadau swyddogol am ragor o wybodaeth.

2.2 Archwilio’r gofrestr

Gallwch wneud cais am gopi swyddogol o’r gofrestr naill ai ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu ar ffurflen OC1 bapur. Mae’r ffi sy’n daladwy wedi ei phennu yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru). Os ydych yn defnyddio ffurflen bapur OC1, edrychwch ar gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF i weld i ble y dylid anfon eich cais wedi ei gwblhau.

Os ydych am gael gwybod a wnaed cofnodion pellach ar y gofrestr ers dyddiad arbennig fel, er enghraifft, dyddiad cyhoeddi copi swyddogol diweddar o’r gofrestr, gallwch wneud cais am chwiliad swyddogol heb flaenoriaeth gan ddefnyddio ffurflen OS3. Caiff yr hyn sydd i’w dalu am chwiliad o’r gofrestr ei bennu yn y Gorchymyn Ffi.

3. Cais i gofrestru awdurdod fel perchennog tir cofrestredig

3.1 Sut i wneud y cais

Dylai awdurdod sydd wedi caffael tir cofrestredig trwy gyfrwng datganiad breinio cyffredinol wneud cais i’w gofrestru fel perchennog ar ffurflen AP1 ynghyd â’r canlynol:

  • copi ardystiedig o’r datganiad breinio cyffredinol gwreiddiol. Yn achos tir yn Lloegr, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) (Lloegr) 2017. Yn achos tir yng Nghymru, dylai hyn fod ar y ffurf a bennir gan Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau breinio) (Cymru) 2017. Cyn 3 Chwefror 2017 (yn achos tir wedi ei leoli yn Lloegr) a 6 Ebrill 2017 (yn achos tir wedi ei leoli yng Nghymru) nodwyd ffurf y datganiad breinio cyffredinol yn Atodlen 1 i Reoliadau Prynu Tir Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1990 (efallai y bydd y ffurf yn berthnasol o hyd lle’r “awdurdodwyd” gorchymyn prynu gorfodol – term sy’n cael ei ddefnyddio yn y rheoliadau a grybwyllir uchod – cyn y dyddiadau hynny.

  • tystysgrif gadarnhau gan Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod neu ei drawsgludwr bod y rhybuddion angenrheidiol o dan adran 6 o Ran II o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 wedi eu hanfon ar ddyddiad penodol (dylid nodi’r dyddiad)

  • rhaid i’r ceisydd gadarnhau hefyd:

    • nad yw’r awdurdod caffael wedi anfon unrhyw rybudd mewn perthynas ag unrhyw eiddo a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol na chafodd ei dynnu’n ôl cyn cyflawni’r datganiad breinio cyffredinol; ac
    • nad yw’r awdurdod caffael wedi cael
      • (1) rhybudd o wrthwynebiad i wahanu (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981), neu

      • (2) “gwrth-rybudd” yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod sy’n caffael brynu budd perchennog yn yr holl dir (gweler Atodlen A1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981)

    mewn perthynas ag unrhyw dir a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol.

  • ffi ar Raddfa 2 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol ar sail gwerth y tir ymhob teitl cofrestredig (gweler hefyd Ffi Cofrestrfa Tir EF).

Os yw’r holl dir, neu ran o’r tir, y gwneir cais amdano, yn ddigofrestredig, gall yr awdurdod priodol wneud cais am gofrestriad cyntaf teitl fel y disgrifir yn Cais am gofrestriad cyntaf teitl awdurdod.

Oni bai ei bod yn amlwg o’r dogfennau a gyflwynir, dylech gadarnhau yn y cais neu ohebiaeth gysylltiedig pa ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt i gaffael y tir. Os nad yw hyn yn glir, mae’n bosibl y byddwn yn anfon ymholiad.

3.2 Tystiolaeth o freinio

Rhaid i chi brofi, trwy gynnwys y manylion a bennir trwy statud yn y datganiad breinio cyffredinol a thystysgrif y Prif Swyddog Gweithredol, bod y datganiad wedi dod i rym a bod y tir wedi breinio yn yr awdurdod. Rhaid i’r datganiad nodi’r tir trwy gyfeirio at ei rif teitl. Os yw’r breinio o’r holl dir mewn teitl cofrestredig, cyfeirio at rif y teitl yw’r cyfan sydd ei angen.

Os yw’r datganiad yn berthnasol i ran o’r tir mewn teitl yn unig, rhaid iddo ddod gyda chynllun yn seiliedig ar fap yr Arolwg Ordnans. Dylid tynnu’r cynllun hwn ar raddfa o 1/2500 o leiaf, dangos ei ogwydd (er enghraifft pwynt y gogledd) a, lle bo angen, dangos trwy gyfrwng mesuriadau berthynas y rhan i’w throsglwyddo i’r nodweddion diriaethol presennol hynny yn y maes (fel cyffyrdd neu furiau neu ffensys) sydd hefyd yn cael eu dangos gyda llinellau duon cadarn ar y cynllun teitl.

3.3 Ffi Cofrestrfa Tir EF

Os pennwyd iawndal neu os cytunwyd ar werth y tir fel bod modd asesu ffi Cofrestrfa Tir EF, rhaid talu ffi ar Raddfa 2, yn seiliedig ar y gwerth hwnnw, wrth gyflwyno’r cais.

Os na phennwyd iawndal fel nad oes modd asesu ffi Cofrestrfa Tir EF, rhaid talu isafswm tuag at y ffi (fel y nodir yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol – £40 ar hyn o bryd) wrth gyflwyno’r cais a dylid cyflwyno ymgymeriad ar yr un pryd i dalu’r swm sy’n ddyledus, os oes, ar gais. Os yw’r ardal o dir a gaffaelwyd o fath a fyddai gyfwerth â chais ar raddfa fawr, dylech drafod y mater yn y lle cyntaf gyda chyswllt cais lluosog – gweler cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau graddfa fawr a chyfrifo ffïoedd.

4. Cais am gofrestriad cyntaf teitl awdurdod

4.1 Ystyriaeth gyffredinol

Nid yw caffael tir trwy drefn datganiad breinio cyffredinol yn drosglwyddiad o ystad sy’n gymwys o dan adran 4(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly, nid oes dyletswydd i wneud cais am gofrestriad cyntaf o’r teitl i dir o’r fath, er y gallwch wneud cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol (a bydd y ffi ostyngol ar gyfer cofrestriad cyntaf gwirfoddol yn berthnasol).

Sylwer: Bydd caffael tir digofrestredig o dan hysbysiad wedi ei ddilyn gan drawsgludiad neu drosglwyddiad y tir i’r awdurdod y mynegwyd ei fod am werth neu gydnabyddiaeth arall yn gofrestradwy trwy orfodaeth yn rhinwedd adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a bydd darpariaethau adrannau 6-8 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys hefyd.

Ni ellir defnyddio rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf i warchod datganiad breinio cyffredinol.

4.2 Sut i wneud y cais

Rhaid i awdurdod sy’n caffael wneud cais am gofrestriad cyntaf teitl i dir rhydd-ddaliadol wedi ei gaffael trwy ddatganiad breinio cyffredinol i Gofrestrfa Tir EF ar ffurflen FR1 (edrychwch ar gyfeiriad Cofrestrfa Tir EF i weld i ble y dylid anfon eich cais wedi ei gwblhau) ynghyd â ffurflen DL yn ddyblyg a’r canlynol:

  • copi ardystiedig o’r datganiad breinio cyffredinol ar y ffurf benodedig (gweler Sut i wneud y cais)

  • tystysgrif gadarnhau gan Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod neu ei drawsgludwr bod y rhybuddion angenrheidiol o dan adran 6 o Ran II o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 wedi eu hanfon ar ddyddiad penodol (dylid nodi’r dyddiad)

  • rhaid i’r ceisydd gadarnhau hefyd:

    • nad yw’r awdurdod caffael wedi anfon unrhyw rybudd mewn perthynas ag unrhyw eiddo a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol na chafodd ei dynnu’n ôl cyn cyflawni’r datganiad breinio cyffredinol; ac
    • nad yw’r awdurdod caffael wedi cael
      • (1) rhybudd o wrthwynebiad i wahanu (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981), neu

      • (2) “gwrth-rybudd” yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod sy’n caffael brynu budd perchennog yn yr holl dir (gweler Atodlen A1 i Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981)

    mewn perthynas ag unrhyw dir a gynhwysir yn y datganiad breinio cyffredinol.

  • ffi ar Raddfa 2 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol ar sail gwerth y tir ymhob teitl cofrestredig (gweler hefyd Ffi Cofrestrfa Tir EF).

  • yr holl weithredoedd a dogfennau’n ymwneud â’r teitl sydd gan yr awdurdod yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth (gweler Absenoldeb gweithredoedd eiddo), a

  • manylion digonol, trwy gynllun neu fel arall, fel bod modd dynodi’r tir yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans

Oni bai ei bod yn amlwg o’r dogfennau a gyflwynir, dylech gadarnhau yn y cais neu ohebiaeth gysylltiedig pa ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt i gaffael y tir. Os nad yw hyn yn glir, mae’n bosibl y byddwn yn anfon ymholiad.

4.3 Absenoldeb gweithredoedd eiddo

Ni fydd y datganiad breinio cyffredinol fyth ohono’i hun yn diddymu hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu sy’n gallu rhwymo’r tir yn nwylo pobl heblaw’r awdurdod. Felly, os na chaiff gweithredoedd yr eiddo eu cyflwyno ar adeg dyfarnu teitl llwyr, byddwn fel arfer yn gwneud cofnod ar y gofrestr y gall fod buddion fel hyn heb eu datgelu. Bydd y cofnod yn datgan bod y tir yn ddarostyngedig i’r fath hawddfreintiau a chyfamodau cyfyngu all fod wedi eu creu neu eu gosod cyn dyddiad y datganiad breinio cyffredinol ac sy’n dal i fodoli ac yn orfodadwy.

4.4 Cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau

Gyda phob cais am gofrestriad cyntaf, dylech ddarparu manylion llawn pob llyffethair sy’n effeithio ar y tir. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau sy’n bodoli ar ddyddiad y caffael, hyd yn oed lle y mae’r prynwr yn gorff a chanddo bwerau caffael gorfodol. Rhaid inni nodi bodolaeth hawliau trydydd parti o’r fath yn y gofrestr, oherwydd hyd yn oed os yw cyfraith adeiladu’n awdurdodi datblygiad a defnyddio’r tir gan dorri’r hawliau, nid ydynt yn cael eu diddymu fel rheol a gallant ddod yn orfodadwy os yw’r tir yn peidio â chael ei ddefnyddio at y diben y cafodd y prynwr y pŵer i’w gaffael.

Byddwn yn hepgor cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau o’r gofrestr o dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • os cânt eu diddymu’n barhaol trwy statud
  • os ceir tystiolaeth eu bod wedi cyd-doddi ar undod seisin o ganlyniad i gaffael y tir buddiol a’r tir llwythog cyfan. Yn achos cyfamodau cyfyngu, mae hyn yn anodd i’w brofi
  • os gellir profi bod y cyfamodau cyfyngu yn ddi-rym oherwydd eu cofrestru fel pridiant tir.

4.4.1 Dileu cofnod cyfamod cyfyngu a hawddfraint

Pan fo cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau’n destun cofnod rhybudd yn y gofrestr, dylech gadw mewn cof nad yw’r rhybudd yn gweithredu er mwyn rhoi dilysrwydd i’r budd a nodwyd (adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad yw’r budd yn ddilys, nid oes gan fodolaeth y rhybudd unrhyw arwyddocâd cyfreithiol. Fodd bynnag, os yw’r budd yn ddilys, bydd y rhybudd yn gwarchod unrhyw flaenoriaeth (os o gwbl) a oedd gan y budd mewn ecwiti cyn iddo gael ei nodi yn y gofrestr.

Mae rhai statudau’n rhagamodi’n benodol y bydd yr arfer o brynu gorfodol gan awdurdod yn gweithredu er mwyn diddymu cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau. Bu hyn yn nodwedd o ddeddfwriaeth a basiwyd ar gyfer rhai prosiectau isadeiledd cyhoeddus mawr (er enghraifft safle Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Crossrail). Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr union ddarpariaethau statudol, efallai na fydd yn bosibl tynnu’r cofnodion yn ymwneud â buddion trydydd parti, cyfamodau cyfyngu a hawddfreintiau ymaith. Efallai y gwneir cofnod yn y gofrestr yn lle hynny i gyfeirio at y ffaith y caffaelwyd y tir o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ac unrhyw orchymyn a wnaed yn unol â’r ddeddfwriaeth a bod unrhyw hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu nad ydynt fel arall wedi eu nodi ar y teitl sy’n effeithio ar y tir ar ddyddiad cychwyn y ddeddfwriaeth neu orchymyn perthnasol wedi cael eu diddymu i’r graddau y darperir ar gyfer hynny yn y ddeddfwriaeth honno. Lle y mae buddion penodol wedi eu heithrio o freinio, efallai y gwneir cofnod pellach i nodi bod y tir yn ddarostyngedig i unrhyw fuddion yr unigolion a nodwyd yn y datganiad breinio cyffredinol fel yr eithriwyd gan y datganiad breinio cyffredinol.

4.5 Tystysgrifau teitl

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cytuno gyda llawer o’r awdurdodau lleol mwyaf y byddwn, o dan amgylchiadau a bennir, yn derbyn tystysgrif eu Prif Swyddog Gweithredol yn lle diddwytho teitl lle caiff tir ei gofrestru am y tro cyntaf. Yn achos caffaeliad o dan Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981, ni all awdurdod roi tystysgrif o’r fath fel arfer oni bai iddo allu cael gweithredoedd yr eiddo a chynnal archwiliad teitl arferol, y mae wedi ei gymeradwyo ar ôl ymchwiliad digonol.

5. Tir priffyrdd a gorchmynion cau

Fel rheol, nid yw’r amlinelliad coch ar gynllun teitl cofrestredig yn cynnwys stent unrhyw briffordd a all fod wedi ei chynnwys yn y teitl cyfreithiol i dir cyffiniol. Caiff tir ei gofrestru â therfynau cyffredinol yn unig (adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac mae’r stent cofrestredig yn dawel o ran union linell y terfyn cyffredinol. Gall perchennog tir sy’n cyffinio â phriffordd berchen, neu beidio â pherchen, ar isbridd y briffordd, yn dibynnu a yw’r rhagdybiaeth ad medium filum yn gymwys neu a yw wedi ei gwrthbrofi trwy dystiolaeth i’r gwrthwyneb (er enghraifft, datganiad mewn trawsgludiad cynharach nad yw’r trawsgludiad yn cynnwys y briffordd).

Lle y mae awdurdod wedi caffael tir ar un neu 2 ochr o heol neu ffordd a’i fod yn dymuno cael y rhan o’r briffordd wedi ei chynnwys yn y teitl, dylai wneud cais ar ffurflen AP1 i newid y teitl cofrestredig i gynnwys rhan gyffiniol y briffordd yn y stent cofrestredig – i bob diben i ddangos terfyn cyffredinol y teitl cofrestredig mewn safle cywirach. Bydd angen tystiolaeth o deitl dogfennol i isbridd y briffordd, ynghyd â thystysgrif nad yw’r rhagdybiaeth ad medium filum wedi ei gwrthbrofi. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae’n bosibl y gwneir cofnod bod y tir o dan sylw’n ddarostyngedig, neu’n ddarostyngedig o bosibl, i hawliau priffordd.

Lle y mae’r tir a gaffaelwyd ar 2 ochr heol neu ffordd sy’n ddarostyngedig i orchymyn cau ac mae’r tir a safle’r heol neu ffordd wedi eu cynnwys yn yr un datganiad breinio cyffredinol, dylech gynnwys yr heol neu ffordd yn y cais am gofrestriad, ynghyd â chopi ardystiedig o’r gorchymyn cau (yn cynnwys unrhyw gynllun a atodwyd iddo). Byddwn yn cadw’r copi o’r gorchymyn. Lle mai dim ond safle’r heol neu ffordd sydd wedi ei gynnwys mewn datganiad breinio cyffredinol ac mae’r awdurdod sy’n caffael am gynnwys yr heol neu ffordd mewn un neu ragor o deitlau cofrestredig, rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 i newid y teitl(au) perthnasol i ddangos terfyn y teitl cofrestredig mewn safle cywirach, ynghyd â’r ffi benodedig ar gyfer newid a chopi ardystiedig o’r gorchymyn cau (yn cynnwys unrhyw gynllun a atodwyd). Unwaith eto, byddwn yn cadw’r copi o’r gorchymyn.

6. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.