Argaeledd ein gwasanaethau wrth inni roi’r Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth ar waith
Ar 30 Mehefin 2016, rydym yn rhoi ar waith y set nesaf o fesurau’r Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth, ac mae angen inni wneud rhai newidiadau i’n systemau.
Mae angen gwneud rhai gwelliannau i’n gwasanaethau wrth baratoi ar gyfer mesurau’r Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth. Mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar argaeledd rhai o’n gwasanaethau.
Gwasanaethau ffeilio digidol
Mae ein gwasanaethau ffeilio digidol yn dal i fod ar gael ar 30 Mehefin, ond mae’n bosibl y bydd rhywfaint o oedi yn y gwaith prosesu wrth inni weithredu’r newidiadau deddfwriaethol. Byddwn yn ceisio mynd yn ôl i’r gwasanaeth arferol cyn gynted ag sy’n bosibl.
WebFiling |
Web Incorporations |
File extractives reports |
Gwasanaethau gwybodaeth ar-lein
Bydd ein holl wasanaethau gwybodaeth ar gael o hyd yn ystod y gwaith gweithredu.
Companies House Service (CHS) |
WebCHeck |
Companies House Direct (CHD) |
view extractives reports |
download bulk files of company data in CSV format |
download bulk files of accounts data in iXBRL and HTML formats |
Gwasanaethau’r un diwrnod
Bydd prosesu’r un diwrnod yn cael ei atal dros dro am 10am ar 29 Mehefin ar gyfer:
- corfforiadau (rhai electronig a rhai papur)
- newid enwau
- ailgofrestru
- lleihau cyfalaf
- copïau ardystiedig
Bydd angen i bob cais ddod i law erbyn 10am ar 29 Mehefin i gael ei brosesu ar y diwrnod.
Ni fydd unrhyw wasanaethau'r un diwrnod ar gael ar 30 Mehefin ond bydd y rhain yn ailddechrau ar ddydd Gwener 1 Gorffennaf.
Newidiadau i’n ffioedd a ffurflenni
Ar 30 Mehefin rydym hefyd yn cael ffurflenni newydd yn lle rhai o’r ffurflenni sy’n bodoli eisoes, ac yn newid rhai o’n ffioedd.
Gwiriwch eich bod yn cyflwyno’r ffurflen gywir a’r ffi gywir er mwyn osgoi cael eu gwrthod.
Bydd hyn yn effeithio ar y canlynol:
- corfforiadau
- cofrestru arwystlon morgais
- ffurflenni cyfalaf cyfrannau
- ffurflenni societas europaea
- ailgofrestru
Hefyd mae’r datganiad cadarnhau yn disodli ffurflenni blynyddol.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 June 2016 + show all updates
-
Welsh translation added
-
First published.