GLlTEM yn lansio ymgynghoriad ar ei Gynllun Iaith
Rydym wedi lansio ymgynghoriad ar ddiwygio ein Cynllun Iaith Gymraeg ac mae’r cyfnod i ymateb yn rhedeg tan 8fed Ebrill 20022.

Heddiw (Mawrth 1af 2022) ar Ddydd Gŵyl Dewi rydym yn lansio ein ymgynghoriad i weld os yw ein Cynllun Iaith Gymraeg yn dal i gyfarfod anghenion siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd. Mae’r ymgynghoriad yn dechrau heddiw am chwe wythnos ac mae’n ceisio cyflwyno safonau i gryfhau ein hystyriaeth o faterion Cymraeg ar ddechrau’r broses o lunio polisiau.
Mwy o wasanaethau y llysoedd a’r tribiwnlysoedd ar gael yn y Gymraeg
Mae nifer cynyddol o’n gwasanaethau arlein ar gael yn y Gymraeg, gan gynnwys:
- help gyda ffioedd
- gwneud hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth
- talu dirwy llys arlein
- gwneud taliad cynhaliaeth arlein
- pledio ar gyfer trosedd traffig arlein
- chwilio am lys neu dribiwnlys
- chwilio am ffurflenni llys a thribiwnlys
- cymorth i dalu ffioedd llys a thribiwnlys
- ymateb i rybuddion gweithdrefn un ynad
- ymateb i wŷs rheithgor
- gwneud cais am brofiant
- gwneud cais am ysgariad
- apelio i’r tribiwnlys nawdd cymdeithasol a chynnal plant
Mae’r ffaith bod ein Huned Iaith Gymraeg bellach yn gweithio’n agos iawn gyda’n Canolfannau Llys a Thribiwnlys yn rhoi gwasanaeth mwy cydlynol sy’n cynnwys cael adborth parhaus gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Rydym wedi cyflwyno Gwasanaeth Trydar Cymraeg a byddwn hefyd yn darparu mwy o gynnwys Cymraeg ar ein Sianel YouTube yn y dyfodol.
Gallwch siarad Cymraeg yn eich gwrandawiad. Ni fydd gofyn i gael siarad Cymraeg yn peri oedi i’r gwrandawiad nac yn cael unrhyw effaith ar y gweithrediadau na’r penderfyniadau. Dros y misoedd nesaf bydd ein rhaglen ddiwygio yn cyflwyno mwy o wasanaethau yn y Gymraeg o fewn yr awdurdodaethau sifil a theulu.
Dyma oedd geiriau gwerthfawrogol aelod o’r cyhoedd a ddefnyddiodd ein gwasanaeth Cymraeg yn ddiweddar a hynny dan amgylchiadau dirdynol:
Rydych wedi adfer fy ffydd mewn dynoliaeth.
Dywedodd Kevin Sadler, Prif Weithredwr Dros Dro GLlTEM:
Heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi dwi’n hynod falch o lansio’r ymgynghoriad ar ein Cynllun Iaith Gymraeg. Mae gwella ein darpariaeth a’n hymagwedd tuag at y Gymraeg yn golygu newid diwylliannol. Bydd ein Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig yn chwarae rhan bwysig iawn at gael ymagwedd mwy cynaliadwy a phell gyrhaeddol o ran sut yr ydym yn cyflwyno ein gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol a moesol i sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg, a hefyd ac yr un mor bwysig, bod siaradwyr Cymraeg yn gwybod bod y gwasanaethau hyn ar gael.
Dywedodd Hywel Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg GLlTEM:
Ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru rydym yn gweld y galw am wasanaethau Cymraeg yn cynyddu. Mae ein profiad ni yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd yn dangos yn glir bod Cymry Cymraeg yn gwerthfawrogi defnyddio’r iaith wrth iddynt gysylltu â ni neu wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Mae’r iaith yn rhan annatod o’u hunaniaeth ac os na allent ei defnyddio mae’n bosibl iddynt deimlo’n angyflawn neu o fod wedi eu dieithrio. Mae’r newidiadau arfaethedig i’n Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig yn cryfhau ein hymroddiad i roi mynediad cyfartal i gyfiawnder i siaradwyr Cymraeg.