Hysbysiadau Gweithdrefn Un Ynad

Os yw unigolyn neu gwmni wedi’i gyhuddo o fân drosedd, efallai y gall ynad benderfynu ar yr achos heb orfod mynd i’r llys. Gelwir hyn yn ‘gweithdrefn un ynad’.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, byddwch yn cael hysbysiad gweithdrefn un ynad pan fyddwch yn cael eich cyhuddo.

Bydd ynad yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’ch achos heb i chi gael cyfle i ddweud eich dweud os na fyddwch yn ymateb i’ch hysbysiad o fewn 21 diwrnod. Gallech eich cael yn euog neu gael dirwy.

Mae’r rheolau yn wahanol yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut i ymateb i’ch hysbysiad

Bydd eich hysbysiad yn dweud wrthych pwy a ddygwyd yr achos yn eich erbyn (er enghraifft, yr heddlu neu Trwyddedu Teledu), sut i gyflwyno ple, ac os gallwch gyflwyno ple ar-lein.

Pan fyddwch yn ymateb bydd angen i chi ddweud a ydych chi’n pledio’n euog neu’n ddieuog.

Pledio’n euog

Gallwch ddewis os ydych eisiau mynd i’r llys neu beidio.

Os na fyddwch yn mynd i’r llys, bydd yr ynad yn gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth sydd ganddynt. Byddwch yn cael llythyr gyda phenderfyniad yr ynad.

Gallwch fynd i’r llys os ydych eisiau rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i’r ynad. Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych pa bryd i fynd i’r llys.

Pledio’n ddieuog

Mae’n rhaid i chi fynd i’r llys a rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i’r ynad. Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych pa bryd i fynd i’r llys.

Os na fyddwch yn ymateb i’r hysbysiad gweithdrefn un ynad

Os na fyddwch yn ymateb i’r hysbysiad o fewn 21 diwrnod, bydd yr ynad yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’ch achos heb i chi gael cyfle i ddweud eich dweud.

Gall hyn olygu os byddwch yn eich cael yn euog a’ch dedfrydu, ni fydd lleihad yn y ddedfryd am bledio’n euog. Gall eich dirwy a’ch pwyntiau cosb fod yn uwch hefyd. Gall arian gael ei gymryd o’ch cyflog neu’ch budd-daliadau.

Os oes arnoch angen cymorth gyda’ch hysbysiad gallwch gael cyngor cyfreithiol. Gallwch hefyd gael cyngor am ddim gan Cyngor ar Bopeth.

Os ydych angen cymorth i ymateb i’ch hysbysiad ar-lein

Bydd eich hysbysiad yn dweud wrthych os gallwch gyflwyno ple ar-lein a sut i wneud hynny.

Os ydych angen mwy o gymorth, mae pwy y dylech gysylltu â nhw yn dibynnu ar pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i ymateb

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau 9am – 5pm, dydd Gwener 9am – 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecsiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Gwybodaeth am achosion

Gallwch ffonio Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd i gael gwybodaeth am achos, gan gynnwys canlyniad achos.

Byddwch angen rhif yr achos – mae hwn ar eich hysbysiad Gweithdrefn Un Ynad.

Os ydych yn aelod o’r cyfryngau, gallwch gael gwybodaeth am achosion a gofyn i restr o ganlyniadau gael ei hanfon atoch. Byddwch angen manylion eich cerdyn gwasg y DU.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau 9:00am – 5:00pm, dydd Gwener 9:00am – 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau