Skip to main content

Ymateb i wŷs rheithgor

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ymateb i lythyr (‘gwŷs’) yn gofyn ichi wasanaethu ar reithgor. Gallwch:

  • gadarnhau eich bod yn gallu gwasanaethu
  • gofyn am gael newid y dyddiad
  • gofyn am gael eich esgusodi
  • gofyn am addasiadau rhesymol neu fath arall o help yn y llys

Gallwch ymateb ar ran unigolyn arall os ydynt yn rhoi caniatâd ichi wneud hynny.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’n rhaid ichi ymateb o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad cawsoch y llythyr.

Byddwch angen:

  • eich rhif rheithiwr – mae hwn wedi’i nodi ar eich llythyr gwysio
  • eich enw a’ch cyfeiriad yn union fel y maent wedi’u nodi ar y llythyr – gallwch gywiro unrhyw gamgymeriadau pan fyddwch yn ymateb

Byddwch yn gallu lawrlwytho a chadw eich atebion ar y diwedd.

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn ymateb i wŷs rheithgor neu’n dweud celwydd er mwyn osgoi gwasanaethu ar reithgor.

Dechrau nawr

Os ydych angen cymorth i allu ymateb ar-lein

Mae pwy y dylech gysylltu ag o yn dibynnu ar y math o gymorth sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i ymateb

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5173
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm

Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: 0300 456 1024
jurysummoning@justice.gov.uk
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 3pm

Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i ddefnyddio’r we

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch y gair FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Ymateb drwy’r post

Llenwch eich ffurflen ymateb i wŷs rheithgor a’i dychwelyd o fewn 7 diwrnod. Mae’r wŷs rheithgor yn cynnwys amlen barod â stamp.

Os ydych wedi colli’r amlen, yna anfonwch y ffurflen i’r Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor.

Swyddfa Ganolog Gwysio Rheithgor
Phoenix House
Rushton Avenue
Bradford
BD3 7BH