Ymgynghoriad Cynllun Iaith Gymraeg GLlTEM 2022
Yn berthnasol i Loegr a Northern Ireland
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Ar 1af Mawrth 2023 bu i ni gyhoeddi ymateb GLlTEF i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Iaith Gymraeg a wnaed yn 2022. Cawsom nifer o awgrymiadau yn sgil yr ymgynghoriad ac rydym wedi eu cynnwys yn ein Cynllun Iaith Gymraeg. Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun diwygiedig efo’r ymateb hwn.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg
Mae GLlTEM yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae’n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr a thribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
O ran gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, mae wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddai’n trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â thrydydd fersiwn y Cynllun Iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyntaf yn 2013 yn dilyn creu GLlTEM yn 2010 (roedd gan y Gwasanaeth Llysoedd a’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Gynlluniau Iaith Cymraeg eu hunain cyn hynny). Cyhoeddwyd yr ail ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2017.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg GLlTEM yn cwmpasu gwaith ei bencadlys corfforaethol yn Llundain, Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd a’r Canolfannau Busnes Cenedlaethol. Wrth ddarparu ei wasanaethau Cymraeg yng Nghymru, mae GLlTEM yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, CAFCASS Cymru, y proffesiynau cyfreithiol, y farnwriaeth llawn amser a’r farnwriaeth leyg.