Cofnodi ple ar gyfer trosedd traffig

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i bledio’n euog neu’n ddieuog ar gyfer trosedd traffig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’n rhaid i chi fod yn naill ai’r:

  • unigolyn sydd wedi ei gyhuddo o’r drosedd, neu’n
  • gynrychiolydd swyddogol y cwmni sydd wedi ei gyhuddo o’r drosedd

Cyn ichi gychwyn, byddwch angen:

  • yr hysbysiad a anfonodd yr heddlu atoch, gan gynnwys eich Cyfeirnod Unigryw (URN)
  • eich trwydded yrru
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich incwm
  • manylion eich taliadau allan, e.e. rhent neu forgais, biliau’r cartref

Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM os oes gennych gwestiynau am eich achos neu os oes angen help arnoch i gofnodi ple ar-lein.

Dechrau nawr