Stori newyddion

Ymddeoliad Alan Eccles, y Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr a Phrif Weithredwr Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, Alan Eccles, wedi dweud y bydd yn ymddeol ym mis Mehefin 2019.

Alan Eccles, Public Guardian

Penodwyd Alan Eccles yn Brif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr yn 2012 gan yr Arglwydd Ganghellor dan adran 57 Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae Alan yn gyfrifol am sicrhau bod yr asiantaeth yn gweithredu’n effeithiol ac mae’n atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.

Mewn e-bost at staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dywedodd Alan Eccles:

Mae gennym enw da am roi’r defnyddiwr/cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn; drwy ddatblygu’r gwasanaethau digidol mwyaf blaenllaw yn y byd (ein gwasanaeth LPA ar-lein oedd y cyntaf o blith gwasanaethau’r llywodraeth i basio asesiad Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) yn 2014), yn ogystal â diwygio ffurflenni LPA, y ffordd rydym yn rhyngweithio gyda dirprwyon, y ffordd rydym yn diogelu pobl ac yn cynnal ymchwiliadau, a’r gwasanaeth rhagorol a roddir gan ein cydweithwyr yn y ganolfan gyswllt.

Mae’r ffordd rydym yn arloesi yn cael ei chydnabod ledled y byd. Cawsom ein gwahodd i siarad yn Seoul, De Korea, ac rydym wedi croesawu cynrychiolwyr o Singapôr, Japan a Jersey i ddangos sut rydym yn gweithio.

Rwy’n hynod o falch o’n llwyddiannau yn ystod y cyfnod hwn ac mae wedi bod yn wych dathlu’r cerrig milltir hyn gyda chi dros y blynyddoedd.

Yr hyn sydd wedi aros yr un fath yn ystod fy 7 mlynedd gydag OPG yw ymrwymiad pawb sy’n gweithio yma i wneud gwahaniaeth. Rydych wastad wedi bod yn benderfynol o gael effaith gadarnhaol ym maes galluedd meddyliol ac ar fywydau defnyddwyr ein gwasanaethau.

Rydym eisoes yn y broses o recriwtio Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd.

Cyhoeddwyd ar 4 February 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 February 2019 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. First published.