Canslo Debyd Uniongyrchol

Bydd DVLA yn canslo eich Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn dweud wrthynt fod eich cerbyd wedi cael ei:

Bydd y Debyd Uniongyrchol hefyd yn cael ei ganslo os ni fydd yn rhaid ichi dalu treth cerbyd rhagor oherwydd eich bod wedi dweud wrth DVLA:

  • ei fod yn cael ei ddefnyddio gan berson anabl
  • bod y cerbyd yn un hanesyddol (dros 40 mlwydd oed)

Os gwnaethoch ordalu eich treth

Byddwch yn derbyn siec ad-daliad yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sydd ar ôl ar eich treth cerbyd. Mae’r ad-daliad yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich gwybodaeth.

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol ychydig cyn bod taliad misol yn ddyledus, efallai y bydd DVLA yn dal i gymryd y taliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad yn awtomatig o fewn 10 diwrnod gwaith os bydd hyn yn digwydd.

Canslo’r Debyd Uniongyrchol am resymau eraill

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu am unrhyw reswm arall, rhaid ichi drethu eich cerbyd eto gan ddefnyddio naill ai:

  • Debyd Uniongyrchol o gyfrif gyda digon o arian ynddo
  • dull talu arall, er enghraifft, gyda cherdyn debyd neu gredyd