Rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu, trosglwyddo neu brynu cerbyd

Rhoi gwybod i DVLA nad ydych yn berchen ar gerbyd bellach, neu eich bod yn prynu cerbyd fel ceidwad cofrestredig neu fasnachwr moduron.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:

  • newid ceidwad cofrestredig cerbyd
  • anfon llyfr log at y ceidwad newydd

Ar ôl ichi roi gwybod i DVLA, bydd eich treth cerbyd yn cael ei ganslo. Byddwch yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn o dreth cerbyd sy’n weddill.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • ydych wedi anfon eich llyfr log (V5CW) yn barod drwy’r post

  • nad oes gennych lyfr log

Os nad oes gennych lyfr log

Mae angen ichi wneud cais am dystysgrif gofrestru cerbyd (ffurflen V62W) os ydych wedi prynu cerbyd heb lyfr log.

Os ydych wedi gwerthu neu drosglwyddo cerbyd heb lyfr log, rhaid ichi ysgrifennu i DVLA gyda’r canlynol:

  • eich enw a chyfeiriad
  • y rhif cofrestru cerbyd
  • y  gwneuthuriad a model
  • union ddyddiad y gwerthiant
  • enw a chyfeiriad y ceidwad newydd neu’r masnachwr moduron
     

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Rhoi gwybod i DVLA ar-lein

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael:

  • o ddydd Llun i ddydd Gwener, 7am i 9pm 

  • ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 7am i 8pm

Mae’n rhaid ichi drethu cerbyd rydych wedi ei brynu cyn ichi ei yrru, neu ei ddatgan fel oddi ar y ffordd (HOS). Ni fydd y dreth yn trosglwyddo ichi pan rydych yn prynu’r cerbyd.

Dechrau nawr