Canslo eich treth cerbyd a chael ad-daliad

Canslo eich treth cerbyd drwy roi gwybod i DVLA nad yw’r cerbyd gennych bellach neu ei fod oddi ar y ffordd. Rydych yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn o dreth sy’n weddill.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i ganslo eich treth cerbyd

Mae’n rhaid ichi roi gwybod i DVLA bod eich cerbyd wedi cael ei:

Nid oes unrhyw ffordd arall i ganslo eich treth cerbyd.

Beth sy’n digwydd ar ôl ichi roi gwybod i DVLA

  1. Bydd DVLA yn canslo eich treth cerbyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei ganslo yn awtomatig.

  2. Byddwch yn cael siec ad-daliad yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sy’n weddill ar eich treth cerbyd. Cyfrifir yr ad-daliad o’r dyddiad y bydd DVLA yn cael eich gwybodaeth. Anfonir y siec at yr enw a chyfeiriad sydd ar y llyfr log cerbyd.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad am:

Ad-daliad am y taliad treth cerbyd cyntaf ar y cerbyd

Bydd y swm y byddwch yn cael yn ôl yn seiliedig ar ba un bynnag sydd yr is o’r canlynol:

Os na fydd eich ad-daliad yn cyrraedd

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi cael eich siec ad-daliad ar ôl 8 wythnos.

Os yw eich siec yn anghywir

Dychwelwch eich siec ad-daliad i DVLA os ydyw yn yr enw anghywir, a rhoi’r enw cywir iddynt.

Adran Ad-dalu
DVLA
Abertawe
SA99 1AL

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi cael eich siec amnewid ar ôl 4 wythnos.